Mynydd Bodafon a'r Cyffiniau
Annwyl Olygydd
Rhai misoedd yn ôl, yn Yr Arwydd, papur bro cylch Mynydd Bodafon yng ngogledd-ddwyrain Môn, apeliwyd am enwau ffynhonnau yn y cylch. Fel canlyniad i'r apêl ymddangosodd yr enwau canlynol:
Ffynnon Rhosfawr; Ffynnon Bioden, ar dir Y Parciau; Ffynnon Jib yn Nhreboeth; Ffynnon Dinas; Ffynnon Minffordd. Ar dir Ty'n Llan, Llanfair Mathafarn Eithaf mae tair ffynnon ond ni roddir eu henwau. Ffynnon Pant y Garn; Ffynnon Bwlch a Ffynnon Oer ar draeth y Benllech. Pwll Bragu - oddi yno y ceid dŵr i fragu cwrw yn y bragdy yn Llanfair Mathafarn Eithaf. Ffynnon Berthlwyd; Ffynnon Bryn Goronwy - y ffynnon y cred rhai y bu Goronwy Owen yn tynnu dŵr ohoni. Ffynnon Badell; Ffynhonnau Cerrigman - Ffynnon Corwas; dwy ffynnon Mynydd Gwyn; Ffynnon Ty'n Ffynnon; Ffynnon y Drum, Carreglefn; Ffynnon Betws, Penrhyd.
Trefor D. Jones
Cerrigman, Penysarn, Amlwch
(Dyma syniad gwych a ffordd ardderchog o gofnodi enwau ffynhonnau bro. Gol.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc