MEIFOD
MENTER
MALDWYN A'R FFYNHONNAU
Yn
ystod mis Awst cyfarfu swyddogion Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, a Nia Rhosier,
Pontrobert, un o'n haelodau mwyaf gweithgar, efo Arfon Hughes o Menter Maldwyn.
Y gobaith yw y bydd taflen ddeniadol yn cael ei chynhyrchu yn dangos taith
gerdded o gwmpas rhai o ffynhonnau Maldwyn erbyn y bydd yr Eisteddfod
Genedlaethol ym Meifod yn Awst 2003. Mae'r prosiect yma yn un cyffrous iawn ac
mae'n golygu ymweld â ffynhonnau'r fro, nodi eu lleoliad a'u cyflwr a chofnodi
popeth fel bo modd i gerddwyr, yn bartion, unigolion neu'n deuluoedd ymweld â
nhw. Bydd hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar lle i barcio'n gyfleus er mwyn
ymweld â'r ffynhonnau. Eisoes mae Nia wedi dechrau ar y gwaith. Meddai mewn
llythyr atom ddechrau mis Hydref:
Gair
i'ch sicrhau 'mod i'n gyrru 'mlaen efo trefniadau i ymweld â ffynhonnau'r ardal
hon ynghyd a thri chyfaill, Jill Turner o Lanfair Caereinion a Nigel Wallace a
Paul Wigmore o Lanerfyl. Dysgwyr ydynt ac yn frwdfrydig iawn dros y syniad o
daith gerdded o gwmpas y ffynhonnau yn Awst 2003. Bydd Jill a minnau'n dechre
trefnu un daith, sef Ffynnon
Fair a Ffynhonnau Maddox yn
Llanfair, o fewn y mis nesaf, a bydd Nigel a Paul yn canolbwyntio ar ffynhonnau
Llanerfyl a Garthbeibio (a Llangadfan o bosib). Gobeithiwn gyd-gyfarfod ym mis
Chwefror i drafod ymhellach.
Mae'n braf iawn gweld y fath frwdfrydedd heintus ac mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a diddorol iawn. Onid da o beth fyddai i ardaloedd eraill efelychu ein cyfeillion ym Maldwyn? Gallai teithiau cerdded fel hyn fod yn fodd i ddenu twristiaid i ardal yn ogystal â diogelu lleoliad a hanes ffynhonnau Cymru. Diolch i Arfon am y syniad a diolch i Nia a'i chyfeillion am fod mor barod i wneud y gwaith maes. Byddwn yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld sut mae'r prosiect yn datblygu yn y dyfodol. (Gol.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Ffynnon y Clawdd Llesg,
Annwyl
Olygydd,
Dyma
fwy o hanes am ffynhonnau O'r
diwedd mae Jill Turner a minnau wedi bod i weld
Ffynnon y Clawdd Llesg, Meifod,
ac wedi canfod peth anhawster i'w chyrraedd oherwydd tyfiant a mieri. Mae'n
debyg mai'r Comisiwn Coedwigaeth biau'r tir, a'r cyfrifoldeb, am wn i, dros
gadw'r llwybrau'n agored. Mae angen camfa wrth ochr y llidiart newydd a osodwyd
ganddynt ar y ffordd wrth ymyl Trefedrid. Mae'r llidiart yn un llydan iawn ac yn
anodd ei hagor a'i chau. Nid oes unrhyw arwyddbost yn unman ar y ffordd hon a
dim ond oherwydd i berchennog Trefedrid roi ychydig o ganghennau a rhuban wrth ymyl
y mynediad i'r llwybr at y ffynnon y bu'n bosib i ni ddod o hyd iddi.
Dyma
ran olaf y daith sydd tua hanner milltir o hyd. Mae arwyddbost ar ddechrau'r
daith ym Meifod ei hun dros bont Broniarth, a cheir disgrifiad o'r daith gerdded
hon mewn pamffledyn uniaith Saesneg a baratowyd gan Gyngor Cymuned Meifod rai
blynyddoedd yn ôl, ond yn ôl a welaf ni ellir gwneud y daith gylch erbyn hyn
fel y mae'r pamffledyn yn ei awgrymu am nad yw'n bosibl gwahaniaethu'r llwybrau
cyhoeddus oddi wrth dir fferm Lower Hall. Y mae angen holi Cyngor Sir Powys ynglŷn
â hyn.
Cefais
ateb gan Mark Chapman o Adran Llwybrau Cyhoeddus Powys ynglŷn â'r gwaith
arfaethedig ar lwybrau at ffynhonnau Llanfair Caereinion ac mae'n swnio'n
addawol. Fodd bynnag ni wnaeth sylw o'm ymholiadau ynglŷn â Ffynnon
Dydecho a Ffynnon Ddu yng Ngarthbeibio. Gobeithio yn wir y bydd Menter Maldwyn
yn llwyddo i gael cyllid i ariannu'r prosiect a chreu'r pamffled am y llwybrau
a'r ffynhonnau ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod fis Awst 2003.
Nia
Rhosier, Pontrobert, Meifod.
(Diolch o galon unwaith eto i Nia am ei gwaith diflino yn chwilio a chofnodi lleoliad y ffynhonnau yn ardal Meifod. Diolch hefyd i'r cyfeillion sy'n ei chynorthwyo. Mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yn cydweithio a Menter Maldwyn i geisio cael arian i'r prosiect arbennig hwn)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 13, Nadolig 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O
GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON
Y CLAWDD LLESG, MEIFOD.
Mae Nia Rhosier yn ceisio cael cyhoeddi taflen fydd yn dangos y llwybr ay y ffynnon hon ar gyfer yr Eisteddfod ac mae Cymdeithas Edward Llwyd yn bwriadu cerdded y daith heibio iddi yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14, Haf 2003
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan o'r PYTIAU DIFYR
Nheirtref Meifod, Maldwyn
Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.
(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol)
FFYNNON-DDEWINIATH
‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.
Yr oedd, ac y mae eto yn Nheirtref Meifod, Maldwyn, ffynnon a lecha oddeutu milltir i ogledd Dolobran Hall a elwir yn
Ffynnon Darogan.(SJ 119135 Un arall y sydd yn Clawdd Llesg ar derfyn Meifod a Guilsfield, yn nhref Trefedryd. I fyny hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf, cyrchai tyrfaoedd i Ffynnon y Clawdd Llesg (SJ 159114) yn enwedig ar Sul Y Drindod, i yfed twr a siwgwr.LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc