Home Up

MATHARN 

FFYNNON DEWDRIG

ST 524 912 

PWLL MEURIG

FFYNNON MEURIG

ST 51 92 

PLAS LLANOFER  

Ffynnon Gofer

SO 31 08

gan Eirlys Gruffydd

 

Flynyddoedd yn ôl, y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, aethom fel teulu i ymweld â nifer o ffynhonnau’r fro. Eleni gobeithiwn fedru gwneud rhywbeth tebyg gan ei bod yn hen bryd bellach i’r drydedd gyfrol yn y gyfres Ffynhonnau Cymru – Ffynhonnau’r De ymddangos. Dyma hanes rhai o ffynhonnau’r fro a’r traddodiadau sy’n perthyn iddynt.  

Gellir gweld Ffynnon Dewdrig (ST524912) ger cornel ogledd-ddwyreiniol Mathern House ym mhentref Matharn (Mathern) ar y tir gwastad ger aber afon Hafren rhwng Casnewydd a Chas-gwent. Brenin Morgannwg a sant oedd Tewdrig a’i fab Meurig hefyd yn frenin ac yn sant. Pan oedd Tewdrig yn hen trosglwyddodd frenhiniaeth Morgannwg i Meurig ac aeth i fyw i Dyndyrn (Tintern) fel meudwy. Yno ymddangosodd angel iddo gan ddweud bod gelynion i Gristnogaeth, y Sacsoniaid, wedi dod i’r ardal a bod angen iddo fynd i ganol y brwydro er mwyn eu dychryn. Pe gellid eu goresgyn byddai heddwch am ddeg mlynedd ar hugain yn ystod teyrnasiad Meurig. Cafodd Tewdrig wybod hefyd y byddai yntau’n cael ei glwyfo’n ddrwg ger Rhyd Tyndyrn. Serch hynny gwisgodd ei arfwisg a marchogaeth ar flaen ei fyddin i wynebu’r gelyn. Roedd gweld Tewdrig yn ddigon i ddychryn y Sacsoniaid ond wrth ddianc o flaen y Cymry taflodd un o’r gelynion waywffon at Tewdrig a’i glwyfo’n arw. Fe’i cludwyd at lannau afon Hafren i Fatharn a lle bynnag yr arhosodd ar ei daith tarddodd ffynnon i olchi ei friwiau. Dyna’n union digwyddodd ym Matharn lle y golchwyd ei glwyfau mewn ffynnon unwaith yn rhagor, ond er gwaethaf hyn bu Tewdrig farw. Galwyd y ffynnon arbennig hon yn Ffynnon Dewdrig. Enw arall ar Fatharn yw Merthyr Tewdrig. Yma hefyd y codwyd eglwys dros y fan lle’i claddwyd ac mae wedi ei chysegru iddo. Mae muriau isel o gerrig nadd o gwmpas y ffynnon a saith o risiau cerrig yn mynd i lawr at y dŵr. Mae’r taddiad yn codi oddi mewn i ogof fechan yn y graig ac adeiladwyd bwa o gerrig o flaen yr ogof. Mae’n ffynnon ddofn a chodwyd ffens o bren o’i chwmpas a mynedfa wedi ei chloi ynddi er mwyn cadw plant ac anifeiliaid rhag mynd i’r ffynnon.  

Ym mhlwyf Matharn, dim ond rhyw filltir a hanner i’r de-orllewin o Gas-Gwent, mae lle o’r enw Pwll Meurig (ST5192) ac yma mae Ffynnon Meurig. Yn ôl un traddodiad hynafol roedd boncyff go fawr yn arfer bod yn y ffynnon a’r bobl yn sefyll arno i olchi eu hwynebau. Pan ddeuai llanw uchel y gwanwyn byddai dŵr o afon Hafren yn dod i fyny i’r ffynnon ac yn cludo’r boncyff i’r môr ond ymhen pedwar diwrnod dychwelai’r boncyff yn wyrthiol i’r ffynnon unwaith eto! Er mwyn ceisio gwrthbrofi fod rhywbeth y tu hwnt i’r cyffredin yn digwydd i’r boncyff cymerodd rhyw ddyn lleol y pren o’r ffynnon a’i gladdu, ond o fewn pedwr diwrnod roedd y boncyff wedi dychwelyd i’r ffynnon ac ymhen mis roedd y dyn a fu mor haerllug â chladdu’r boncyff wedi marw.  

Ar dir Plas Llanofer roedd Ffynnon Gofer (SO31 08) ac roedd ganddi’r enw o fedru gwella cloffni. Byddai’n arferiad i gleifion adael eu baglau a’u ffyn ger y ffynnon fel arwydd o’u gwellhad. Yn agos i Lanofer roedd Ffynnon Angoeron ac arferid taflu pinnau wedi eu plygu yn ogystal â botymau fel offrwm i’r ffynnon cyn gwneud dymuniad ond nid oedd cadw’r dymuniad yn gyfrinach neu ni châi ei gwireddu. Yn ardal Llandeilo Bertholau (SO3116) roedd nifer o ffynhonnau pwerus a rhinweddol yn ôl Edward Lhuyd. Roedd rhai ar y bryniau ac eraill ar y dolydd a gallent wella amrywiaeth o afiechydon ac anhwylderau megis clwyfau a doluriau crawnllyd a lludiog yn ogystal â symud defaid a brychni haul oddi ar y croen.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffcf

 

Home Up