Marcroes (SS 9268)
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
Yn y gyfrol
The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.Marcroes (SS 9268) yn agos i Nash Point
Cyfeiria at ddwy ffynnon lle y gadawyd carpiau ar goed gerllaw, un ger Pen-y-bont ar Ogwr (SS 9079) a’r llall ger Marcroes (SS 9268) yn agos i Nash Point. Roedd hon yn enwog am wella llygaid poenus a chryfhau’r golwg. Dywed yr awdur fod pererinion at y ffynnon yn arfer sefyll yn y dŵr gan olchi eu llygaid neu ran arall clwyfedig o’r corff gyda cherpyn wedi ei wlychu yn nŵr y ffynnon. Wedyn crogwyd y cerpyn ar ddraenen gerllaw a theflid darn o arian neu bin i’r dŵr fel offrwm i ysbryd y ffynnon. Roedd yr anhwylder wedi ei drosglwyddo i’r cerpyn ac wrth i hwnnw bydru byddai’r gwendid yn lleihau cyn diflannu’n gyfan gwbl. Roedd nifer fawr o garpiau ger y ffynnon yn 1911 a hyn yn tystio i gred yr ardalwyr yn effeithiolrwydd y dŵr.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc