NEWYDDION DA O LAWENYDD MAWR!
Derbyniwyd y neges e-bost isod gan Duncan Brown, Rheolwr Prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd:
Efallai eich bod wedi clywed am Llên Natur a’n hymdrechion i gofnodi ac i ddarparu pob math o wybodaeth i Gymry Cymraeg (yn bennaf) am gefn gwlad Cymru a thu hwnt. Wel mae un neu ddau o’n cyfranwyr wedi dechrau mewnbynnu lluniau o ffynhonnau yn ein horiel luniau <http://llennatur.com/cy/node/2> ( term-chwiliad FFYNNON yn y blwch “yn ôl allweddair) a de innau wedyn wedi eu copïo i’r adran MAPIAU (>>creigiau*) lle ceir Cyfeirnod Grid er mwyn eu gweld ar ffurf map http://llennatur.com/node/90 (term chwiliad FFYNNON eto). Gellir chwyddo’r map yn hawdd a dewis “satellite” i gael lleoliad pob ffynnon ar Google Earth. Gellir hefyd ticio’r rhifyn bach glas (ar ôl clicio’r symbol coch i ddynodi un ffynnon) i weld Llun o’r ffynnon. Does dim llawer o ffynhonnau yno ar hyn o bryd (tua 5!!) ond mae’r potensial yn amlwg dwi’n meddwl (ni welaf ddim byd tebyg ar eich gwefan chai ond efallai fy mod i’n camsynied). Oes lle tybed i ni gydweithredu trwy ddolenni ddwy ffordd efallai er mwyn ychwanegu gwerth at ein gwahanol ymdrechion? Mi fase’n biti gweithredu ar wahân trwy anwybodaeth o’n gilydd. Dwi’n ymwybodol nad ydi’r adran CREIGIAU (sef “daeareg”) yn ddelfrydol fel lleoliad i gofnodi ffynhonnau ond dyna’r man mwyaf addas ar ein gwefan ar hyn o bryd. Gwerthfawrogwn unrhyw ymateb neu sylw oddi wrthych.
Dyma’r ateb i’r e-bost:
Rydym yn hapus i gydweit hio gyda phawb sy’n dangos diddordeb yn y ffynhonnau. Byddwn yn gosod cyfeirnod map pob ffynnon yn ymyl enw’r ffynnon yn ein cylchlythyr Llygad y Ffynnon. Rydym wedi cychwyn ein cymdeithas ers 1996 cyn bod Google Earth yn bodoli mae’n siŵr. Mae’r hyn rydych yn ei ddisgrifio yn wych! Rhaid nodi bod cannoedd o ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru felly gallai’r nifer o luniau fod yn fawr. Hefyd mae ffynhonnau yn diflannu oherwydd esgeulustod neu ddifrod bwriadol, ac ambell dro nid yw llun yn gallu dangos beth sy yna mewn gwirionedd. Mae croeso i chi ddefnyddio’r lluniau ar ein gwefan ni - ond cofnodi mai oddi yno y cafwyd y llun- er mwyn i bobl wybod am fodolaeth ein cymdeithas. Mae rhannu gwybodaeth bob amser yn beth da.
Edrychwn ymlaen at weld datblygiadau diddorol yn y maes hwn yn y dyfodol.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf