EICH LLYTHYRAU
ANNWYL
OLYGYDD... ANNWYL OLYGYDD
Annwyl Olygydd,
Tybed a fyddai’n bosib i chwi drefnu
taith neu weithgaredd i Gymdeithas Edward Llwyd? Ffynhonnau fyddai y prif bwnc
wrth gwrs, ond beth am y planhigion sy’n tyfu o gwmpas neu yn y ffynhonnau
a’r gwybed, y llyffaint, y cerrig ag ati sydd o’u cwmpas? Rydym yn astudio y
rhain i gyd. Oes gennych syniadau am le addas? Does dim rhaid iddi fod yn daith
hir o gwbl.
Eluned Mai Porter, Aberystwyth.
(Os
gwyddoch am nifer o ffynhonnau gweddol o agos at ei gilydd a’r bywyd gwyllt
o’u cwmpas o ddiddordeb i naturiaethwyr, rhowch wybod i’r Golygydd am eu
lleoliad er mwyn i ni fedru trefnu taith.)
FFYNNON
PLAS GOGERDDAN
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Annwyl Olygydd,
Tra’n mynd efo Elen, y ferch , a’i chi
am dro drwy goedwig yn ymyl Plas Gogerddan ger Aberystwyth, daethom ar draws
ffynnon a oedd wedi ei llenwi efo
dail, brigau a phridd. Felly dyma fynd ati i’w glanhau a gweld bod cerrig wedi
eu gosod i ddal tarddiad o ddŵr. Nid yw yn ddofn ac rwyf yn rhyw hanner credu
mai ei phwrpas oedd di-sychedu
yr helgwn wrth fynd allan i’w hymarfer. Roedd Gogerddan yn enwog iawn am eu cŵn
llwynog a’r cŵn a ddefnyddient i fynd ar ôl ysgyfarnogod. Mi fyddai y cŵn
ysgyfarnogod allan o waith pe baent ar gael heddiw gan fod rheini wedi mynd yn
bethau prin iawn. Cyfeirnod y ffynnon yw NS 243527.
Erwyd Howells, Capel Madog, Aberystwyth
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Annwyl Olygydd,
Teimlaf y dylai’r wlad wneud gwell
defnydd o ffynonellau o ddŵr naturiol sydd ar hyd a lled Cymru. Buaswn yn hoffi
petai rhywun ag awdurdod ganddo yn cydio yn y syniad yma. Y mae’n sicr
fod’na ffynhonnau ar ochr hen ffordd Rhufeinig ac hefyd ger hen dai – yn
dyddynod, ffermydd a thai gweithwyr. Yr ydym yn or-ddibynnol ar y Bwrdd Dŵr. Y
mae’r biliau yn fawr, ond credaf, o ailddefnyddio’r dŵr naturiol sydd o
fewn cyrraedd i gartrefi rhai ohonom a’r hen bwmp dŵr a arferai fod yng
nghanol yr hen bentrefi, gellid lleihau’r biliau hyn. Gellid defnyddio dŵr o
grombil y ddaear a hefyd, mi dybiwn, gyfrannu rhag llifddyfroedd mewn rhai
ardaloedd. Wrth gwrs y mae yna ffynhonnau a werthfawrogwyd fel mannau i wella
afiechydon. Y mae hanes ffynhonnau Trefriw yn ddiddiorol dros ben ond mi ddyliwn
fod eisiau gwario ar y lle i’w wneud yn fwy atyniadol a hefyd i werthfawrogi
lles y dŵr at iechyd
Yn ardal fy mhlentyndod- rhwng Llangoed, Glan’rafon a Llanddona, Ynys Môn- y mae yna nifer o ffynhonnau. Buasai’n ddifyr inni chwilio amdanynt, eu rhestru fel ag y maent heddiw a profi eu dyfroedd i weld pa mor bur ydynt. Yn ystod y chwedegau bu i Mr Alwyn Williams, Llansannan, a oedd yn gweithio i Urdd Gobaith Cymru yr adeg honno, wneud pererindod ar hyd Cymru gan alw yn y ffynhonnau. Pasiodd fy nghartref yn Betws Gwerfyl Goch ar ei ffordd o Ffynnon Sara, Derwen.(SJ 066517)
Y mae rhaglen Y
Tŷ Cymreig yn un ddiddorol iawn ac yn ein dwyn yn ôl i edrych a
gwerthfawrogi ein hen gartrefi. Tybed a ellid cael rhaglen Ffynhonnau Cymru ? Tybed a ellwch chi- neu ni fel Cymdeithas
Ffynhonnau - roi y gwaith yma ar y gweill a chysylltu efo’r bobl sydd mewn
awdurdod i ystyried y syniadau yma. Diddorol fyddai cyfri faint o dai a ffermdai
o’r enw Bryn Ffynnon, Ffynnon Oer, Ffynnon Wen ac yn y blaen sydd yna yng
Nghymru.
Margaret Jean Jones, Henryd, Conwy.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
ANNWYL
OLYGYDD... ANNWYL OLYGYDD
Annwyl Olygydd,
Yr oeddwn wrth fy modd eich bod wedi cynnwys fy llythyr yn Llygad y Ffynnon (Haf 2008) ac yn falch fy mod wedi eich ysgogi i gynnwys dyfyniadau o Coelion Cymru ac o Rhys Lewis. Diolch i chi.
Dyma fwy o wybodaeth am Ffynnon Oer, Llanddona, Ynys Môn. Mae hen dŷ Ffynnon Oer wedi ei ail wneud yn hynod o gelfydd. Yn yr un modd y mae Tŷ Mawr Llan, Llanddona hefyd wedi ei ail wneud. Fedra i ddim lleoli Ffynnon Oer ar y map ond y mae ar y llwybr troed rhwng Pentre Llwyni a Chwarel Carreg Onnen, Llanddona - rownd y trwyn o lan Môr Pic. Y mae ’na dŷ arall hynod o ddiddorol ger Ffynnon Oer sef Bod Olau.
Adroddwyd hanes rheibesau Llanddona (witches Dona) gan ein prifathro, R. Lloyd Huws yn yr ysgol yn ystod pedwardegau’r ganrif ddiwethaf. Dywedai mai o Sbaen yr oeddynt wedi dod. Bella Fawr oedd eu harweinydd ac y mae ’na ffermdy ar y ffordd i Biwmares o Landdona o’r enw Bryn Bella. Y mae ’na fwthyn ar y traeth o’r enw Belan Wen- wn i ddim a ydi Bella Fawr i’w chysylltu â’r ffermdy a’r bwthyn.
Y mae ’na ddwy ffynnon ar draeth Llanddona. Un yw Ffynnon Tŷ Mawr Llan, ar y ffordd at y tŷ, ac mae’n cael ei chadw mewn cyflwr arbennig o dda. Y llall yw Ffynnon Pentrans.
Dydw i ddim yn credu fod hon yn cael ei chadw mor dda. Tŷ arall ag enw diddorol yn Llanddona yw Ty’n y Pistyll. Dywedir i Bella Fawr gatrefu yn y Gorslwyd, Llanddona, a byddai yn aflonyddu ar ffermwr Rhosisaf. Dywedir y byddai’n troi yn ysgyfarnog!
Yn gywir,
Margaret Jean Jones, Henryd, Conwy.
(Credwn mai Cyfeirnod Grid Ffynnon Oer yw SH579816 . Gol.)
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Annwyl Olygydd,
Tybed a fyddai gan ddarllenwyr Llygad y Ffynnon ddiddordeb yn Ffynnon Aelgerth
Dyma wybodaeth a llun ohoni. Y Cyfeirnod map yw SH 575581.
Naddwyd y ffynnon i fewn i’r graig ar lethrau Cwm Bywynnog ac yng nghysgod Cefn Drum sydd yn arwain o gopa Foel Goch nepell hanner milltir o Lyn Cwm Daethhwch. Llecha’r ffynnon ger y brif lwybr sydd yn arwain o Lanberis trwy Bwlch Masgwrn, i Lyn Cwellyn ger Rhyd Ddu. Nid oes unrhyw hanes na thraddodiad i’r ffynnon ac mae’n eithaf amlwg ei bod yn sicrhau cyflenwad o ddŵr i’r tri bwthyn cyfagos, tyddynnod yr Aelgerth neu y Rali fel y’i gelwir yn lleol. Adfeilion bellach yw Rali Ganol a Rali Uchaf ond, drwy
ryfeddol wyrth, fe saif y brif Rali hyd heddiw er mai tŷ haf ydyw bellach. Symudodd rhan fwyaf y trigolion o’r cwm yn ystod yr Ail Rhyfel Byd pan feddianwyd y dyffryn gan y fyddin ar gyfer ymarferion o bob math. Dyma’r tro olaf i’r ffynnon gael ei defnyddio ar gyfer y bythynnod a pheipen blastig sy’n gwasanaethu yn y Rali heddiw.
Gosodwyd targedau
saethu ychydig lathenni islaw’r ffynnon ac awgrymodd y Prifardd R. Bryn
Williams, a oedd yn weinidog ar Gapel Hebron y cwm, yn ei gerdd Cwm
Bywynnog, fod rhai o’r tyddynwyr wedi mudo’n ffôl o’r cwm yn y cyfnod
hwn. Mynegodd hefyd, yn ei delyneg i Fwlch Masgwrn, ei siom fod y bythynnod yn
wag. Ymddangosodd y delyneg yn Y Cymro
ym mis Medi 1943.
BWLCH MASGWRN
Gwag dy fythynnod,
Di-fref dy braidd;
Dryllio’r tawelwch
Ni fyn, Ni faidd.
Ni chân dy adar,
Dim ond croesi’n chwim;
A
churiad adenydd
Sy’n ddychryn im.
Daw sibrwd y nentydd
O’r creigiau cyd;
Wyt lawn isleisiau
A hiraeth mud.
Neu wylo’n drwm;
Ond ofnaf ddeffro
Dy feirwon llwm.
Cyfeiriad sydd yma at wacter y cwm oherwydd yr ymarfer saethu a oedd yn digwydd yno yn ddyddiol yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Ken Jones,
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf