Home Up

LLYSFAEN

 

FFYNNON GYNFRAN

Bu aelodau o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru yn chwilio am y ffynnon hon a oedd gerllaw’r eglwys. Hyd yma ni chafwyd hyd iddi ond credwn fod ei lleoliad ar dir islaw tŷ o’r enw Cartref sydd gyferbyn â’r tro i Ffordd Gynfran. Yn anffodus daeth yn law trwm a gorfod i ni ohirio’r dasg o chwilio am y ffynnon. Er i ni anfon at y Cyngor Cymuned yn gofyn am wybodaeth, ni chafwyd ymateb. Tybed a oes rhywun a all ein helpu i ddarganfod union leoliad y ffynnon arbennig hon? Ers talwm roedd pobl yn dod â’u gwartheg at y ffynnon i gael eu bendithio. Wedi taenu dwr o’r ffynnon drostynt arferid dweud ‘Rhad Duw a Sant Cynfran ar y da’.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON GYNFRAN

Beth amser yn ôl buom fel Cymdeithas yn ysgrifennu fwy nag unwaith at y Cyngor Bro lleol i weld a allent ddweud wrthym lle’r oedd y ffynnon gan iddi gael ei cholli. Aethom i chwilio amdani a chredu’n siŵr ein bod wedi dod o hyd i safle debygol ym mynwent yr eglwys. Ar yr un rhaglen deledu ag y cyfeiriwyd ati uchod gwelwyd dynion yn glanhau’r ffynnon a honno yn yr union fan yr oeddem ni wedi ei nodi. Wn i ddim a allwn ni fel Cymdeithas gymryd unrhyw glod am yr adfer. Beth sy’n bwysig yw fod safle’r ffynnon yn wybyddus unwaith eto. Roedd yn enwog ers talwm fel ffynnon lle gellid bendithio gwartheg.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU DYFFRYN CONWY A’R GLANNAU

gan Gareth Pritchard

(Mae Gareth wedi bod yn ymchwilio i hanes ffynhonnau Dyffryn Conwy a’r glannau ers peth amser ac mae erthyglau am y ffynhonnau yn ymddangos yn rheolaidd yn y papur bro- Y Pentan. Piti na fase gan bob papur bro yng Nghymry ohebydd tebyg. Diolch iddo am y lluniau hefyd.

FFYNNON GYNFRAN, Llysfaen (SH893775)

Yn Llysfaen, ger Bae Colwyn, mae Ffynnon Gynfran, rhyw ganllath i’r gogledd o Eglwys Sant Cynfran. Mae hi ryw dair milltir o Fae Colwyn a’r un pellter o dref Abergele. Dywedir fod Cynfran yn fab i Brychan, tad Dwynwen a Ceinwen sy ag eglwysi a ffynhonnau ar Ynys Môn. Honnir fod Brychan yn dad i chwe deg pump o blant! Mae haneswyr yn dweud bod eglwys ar y safle yn yr wythfed ganrif gan awgrymu’r flwyddyn 777 fel dyddiad tebygol. Buasai hynny’n ei gwneud yn rhy hwyr iddi gael ei sefydlu gan un o feibion Brychan. Bu dadlau ynglŷn â lleoliad y ffynnon gyda Chymdeithas Ffynhonnau Cymry (yn ystod y 1990) yn credu ei bod o fewn terfynau tir yr eglwys. Bu cymdeithas Wellhoppers yn chwilio tua 2002 a dyma’r un sy’n fwyaf tebygol o fod yn iawn. Ar un ochr i’r safle mae gwrych o ddraenen wen ac ar yr ochr arall llwyn o ddanadl poethion. O fynd heibio rhain, mae’r sefyllfa yn llawer gwell nag a fu pan ymwelodd Cymdeithas Ffynhonnau Cymry yn y flwyddyn 2002. Mae’r ffynnon yn y cae i’r gogledd o’r fynwent gyda chamdda i fynd ati o’r fynwent. Mae ar ochr banc gyda’r gwrych o ddrain uwch ei ben. Hanner cylch o gerrig sydd i’r ffynnon, fel y gwelir o’r llun gyda’r danadl poethion ar yr och isaf. Roedd y dŵr yn glir. Dethlir dydd Sant Cynfran ar y 12fed o Dachwedd bob blwyddyn, ac ar noson 11eg o Dachwedd a hefyd ar y Sul canlynol bu’n arferiad gan bobl leol i ofyn am fendith ar eu hanifeiliaid gyda’r weddi, “Boed bendith Duw a Chynfran Sanctaidd ar ein hanifeiliaid.”

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

LLWYDDIANT CYNHADLEDD LLANDUDNO

Ffynnon Gynfran

Teithio ar draws gwlad ar ôl cinio i weld Ffynnon Gynfran ger eglwys Llysfaen. Roedd hon yn un anodd i ddod o hyd iddi gan ei bod i lawr o dan wrych o goed drain.

FYNNON GYNFRAN, LLYSFAEN (SH893775)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 35 Nadolig 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up