Home Up

LLYDAW

 

DWY FFYNNON YN LLYDAW

Dewi Lewis

Tra oeddwn ar wyliau yn Llydaw eleni cefais gyfle i ymweld â dwy ffynnon. Mae’r ddwy ffynnon yn debyg iawn i’w gilydd. Lleolir y ddwy ohonynt reit ar yr arfordir – y cam nesaf fyddai’r môr mawr! Mae’r gyntaf ohonynt wedi ei lleoli nid nepell o bentref Le Conquet. Mae hon mewn pant cysgodol sy’n arwain i’r traeth gerllaw. Mae’n ffynnon fawr, tua deugain troedfedd o hyd ac ugain troedfedd o led. O’i chwmpas mae waliau wedi eu hadeiladu gyda dwy fynedfa ar ffurf camfa i ymwelwyr fentro at y dŵr. Erbyn hyn mae canol y ffynnon yn llawn berw’r dŵr ond mae modd cyrraedd y dŵr yn ddigon hawdd. Fel y digwyddodd un diwrnod, roedd hen wraig ger y ffynnon felly dyma fentro mewn Ffrangeg digon bratiog i ofyn iddi am y ffynnon. Wrth lwc roedd ei Saesneg hi tipyn gwell na fy Ffrangeg i. Yn ôl yr hyn a ddywedodd roedd hi’n naw deg oed ac yn ymweld â’r ffynnon bron bob diwrnod. Roedd hi’n meddwl bod y ffynnon yno ers yr ail ganrif ar bymtheg. Doedd hi ddim yn ymwybodol o unrhyw gysylltiadau crefyddol â’r ffynnon ond roedd bri mawr yn gymdeithasol ar y safle. Yma y deuai pobl i gymdeithasu yn yr hen ddyddiau – merched i sgwrsio a golchi dillad a’r dynion i fwynhau mwgyn neu getyn. Y rheswm dros adeiladu’r waliau oedd cadw anifeiliaid draw a chadw’r cyflenwad yn bur. Fe ddywedodd fod pobl yn dal i ymweld â’r ffynnon gan eu bod yn credu bod rhinweddau llesol yn y dŵr. Yn ei barn hi roedd berw’r dŵr yn arwydd o’i burdeb. Beth bynnag, fe ddywedodd ei bod hi’n ‘cymryd o’r dŵr’ yn rheolaidd a doedd o ‘ddim ’di gwneud drwg iddi hi’!

 

Tua thair milltir ar hyd yr arfordir ceir ffynnon arall sy’n hynod debyg o ran ffurf ond sydd ychydig bach yn llai o ran maint. Mae hon wedi ei lleoli ar benrhyn St Matthieu. Dyma lecyn godidog gyda golygfeydd gwych o’r arfordir. Yma ceir goleudy, abaty a ffynnon. Mae Abaty St Matthieu yn dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg ond adfeilion sydd yma heddiw gyda’r capel yn parhau i gael ei ddefnyddio. Mae’r ffynnon wedi ei lleoli yn agos i’r abaty a’r goleudy. Mae’n debyg bod y ffynnon wedi bod mewn bri ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn ddiweddarach daeth yn bwysig fel safle cymdeithasu i’r ardal gyfan gyda phobl yn tyrru yma fel yn achos ffynnon Le Conquet. O ddarllen yr wybodaeth am y ffynnon ni ddeuthum ar draws unrhyw arwyddocâd neu gysylltiad crefyddol iddi. Tybed a oedd hi wedi bod yma tua’r un cyfnod â’r abaty – tybed pa un oedd yma gyntaf? Mae ei phensaernïaeth yn debyg iawn i ffynnon Le Conquet ac unwaith eto roedd yn llawn berw’r dŵr. Tra oeddwn yn eistedd gerllaw ar brynhawn braf yn ystod y Pasg eleni daeth nifer o bobol heibio i’r ffynnon ac yfed y dŵr gan aros am ennyd i fyfyrio. Amharwyd ar y distawrwydd rhywfaint pan ddaeth gŵr a’i wraig heibio yn llawn sŵn a chynnwrf gyda chamera fideo a oedd digon mawr i fod yn Hollywood. Ni ddeallais yr un gair ond roedd hi’n amlwg eu bod wedi’u plesio â’r ffynnon! Braint i minnau oedd cael gweld y ddwy ffynnon yn Llydaw.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up