Home Up

LLANYMAWDDWY

 

FFYNNON DYDECHO

Tristan Grey Hulse

Mae gan Tristan Grey Hulse ddiddordeb mawr mewn ffynhonnau. Bu’n olygydd y cylchgrawn Saesneg Source am nifer o flynyddoedd. Mae wedi ymweld â nifer fawr o ffynhonnau ym Mhrydain a thramor. Cafodd hefyd y profiad anhygoel o gael iachâd yn Ffynnon Wenfrewi, Treffynnon. Mae’n byw yng Nghefnmeiriadog ger Llanelwy. Nid yw’n rhugl yn y Gymraeg ond mae’n mwynhau darllen Llygad y Ffynnon ac mae ganddo ddiddordeb yng ngweithgareddau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Mae wedi caniatáu i ni gyfieithu’r erthygl hon o’i eiddo sy’n sôn am Ffynnon Dydecho, Llanymawddwy, a’r ardal o’i chwmpas.

Ychydig o bobl sy’n gwybod am Ffynnon Dydecho eto mae’n un o’r ffynhonnau mwyaf rhyfeddol a swynol ein gwlad. Mae safle’r ffynnon yn un hudolus ond yn ogystal mae’r tirwedd o’i hamgylch yn drysorfa o hen chwedlau yn ymwneud â bywyd y sant. Yn wir, nid yw’r ardal wedi newid fawr mewn canrifoedd lawer, ac yma mae’n bosib gweld o hyd leoedd a gysylltir â’r sant ei hun. Nid yw hyn yn bosib yn unlle arall yng Nghymru.

Daeth Tydecho i Feirion yng nghwmni ei gefnder, Cadfan yn y chweched ganrif. Daeth i Lanymawddwy gyda’i chwaer, Tegfedd. Oddi yma sefydlodd gymunedau Cristnogol yng Ngarthbeibio a Chemais lle mae ffynhonnau eraill wedi eu cysegru iddo. Cadwyd nifer o’r chwedlau amdano ar gof mewn cerdd o’r enw ‘Cywydd i Dydecho Sant’ gan Dafydd Llwyd o Fathafarn (1420 – 1500). Yn wir, mae’r cywydd yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth am fywyd Tydecho.

Mae hanesion amdano yn sôn iddo gael ei erlid gan Faelgwn Gwynedd. Gofynnodd Maelgwn i’r sant ofalu am ei geffylau dros y gaeaf. Trodd y sant yr anifeiliaid i’r mynydd a phan ddaeth Maelgwn i’w nôl yn y gwanwyn roeddynt yn gryf a holliach a’u cotiau gwyn wedi troi’n felyn euraidd. Mewn dialedd lladrataodd Maelgwn ychain y sant ond daeth ceirw o’r goedwig i dynnu’r aradr yn eu lle a blaidd yn eu dilyn i lyfnhau’r tir:

Dwg Maelgwn wedi digiaw

Ychen y gŵr llên gerllaw,

A’r ail ddydd, bu arial dig,

Yr ydoedd geirw yn’redig.

Blaidd llwyd heb oludd, lledwar,

Ar ôl oedd yn llyfnu’r âr.

Hysiodd Maelgwn ei gŵn ar yr anifeiliaid ac eisteddodd ar sedd y sant yn uchel uwchben y dyffryn i wylio’r helfa, ond pan geisiodd godi oddi yno cafodd na fedrai. Ni chafodd ei ryddhau gan y sant nas iddo addo roi holl diroedd yr ardal i Dydecho fel hafan ddiogel i ddyn ac anifail. Gellir gweld Cadair Tydecho ar Bumrhyd uwchben pentref Llanymawddwy tra bo Dôl-y-ceirw yn enw ar gae gyferbyn â’r eglwys.

Cofnodir un arall o wyrthiau Tydecho yn yr enw Llaethnant. Dywedir bod newyn yn yr ardal ar un adeg a bod y forwyn wedi llithro wrth groesi rhyd gan dywallt y llefrith. Ond llwyddodd y sant i droi’r dwr yn y nant yn llaeth o’r fan honno hyd at yr eglwys fel bod digon i bawb. Roedd y cof am y traddodiad yma yn fyw yn yr ardal ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Wedi iddo farw claddwyd Tydecho mewn capel bychan ger ei eglwys yn Llanymawddwy a bu’r fangre yn gyrchfan i bererinion hyd yn oed ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Disgrifiodd yr hanesydd George Owen (1552 – 1613) y lle fel hyn:

There is a chapell called capel tydacho in the churche yard

 now beginninge to decaye – there was watchinge eu’y Friday nighte.

Roedd gwylnosau ger creirfeydd seintiau yn gyffredin iawn ers talwm fel rhan o’r gwyliau Mabsant, ond roedd eu cynnal yn wythnosol yn dangos parch anghyffredin i goffadwriaeth Tydecho.

Awn ar ymweliad â mannau arbennig yn yr ardal sy’n gysylltied â’r sant. Rhaid yw dilyn y ffordd rhwng Llanuwchllyn a Dinas Mawddwy, drwy Cwm Cynllwyd a thros Fwlch y Groes. Tua milltir i’r gogledd o Lanymawddwy mae bachdro yn y ffordd ger nifer o goed (Landranger 125: 905214). Gallwn barcio’r car yma, a mynd drwy’r glwyd ar y tro i gyfeiriad y gorllewin. Dilynwn y llwybr heibio i ffermdy Blaen Pennant. O’n blaen mae gallt serth o’r enw Rhiw y March lle y dywedir i Dydecho gadw ceffylau Maelgwn. Mae’r llwybr yn troi i’r chwith islaw’r Rhiw ger rhaeadr, yna’n troi’n serth i’r dde yn gyfochrog â nifer o raeadrau yn y Llaethnant – a’r dŵr yn dal i lifo’n wyn fel yn y chwedl. Wrth gyrraedd y brig a rhaid troi ac edrych ar wyneb y graig lle gellir gweld amlinelliad pen anferth. Dyma tydecho sy’n dal i warchod dros ei ddyffryn. Wedi dringo i’r copa cawn ein hunain mewn dyffryn dwfn a’r Llaethnant yn gwyro yma a thraw wrth lifo’n dawel cyn cyrraedd y rhaeadrau. I’r chwith, ar draws yr afon, mae hen gorlan o gerrig mawrion. Dyma Fuches Tydecho lle bu’r forwyn yn godro’r gwartheg cyn iddi rhydio’r afon a cholli’r llaeth ychydig uwchben y rhaeadr. Wedi cyrraedd y copa rhaid yw troi i’r dde ac i’r dde drachefn i mewn i hollt yn y graig y tu ôl i’r pen. (894218) Ar ei gwaelod mae basn mae pump o dyllau crwn bychain ar ffurf croes. Dyma Ffynnon Dydecho. Pe gwegir y basn bydd yn raddol lanw eto â dŵr. Credir mai ol bysedd tydecho yw’r tyllau bach yn y graig. Yn ôl un traddodiad credir mai’r sant, a’i ddwylo ei hun, a naddodd y ffynnon o’r graig. Yn y gorffennol roedd ei dŵr yn llesol at wella amryw anhwylderau.

Ar ben y llethr serth uwchben y ffynnon, ar waelod clogwyn, mae ffurf petryal yn y graig o dan gysgod criafolen. Dyma Wely Tydecho. Mae’r gwely a’r ffynnon yn allweddol i ddeall arwyddocâd y tirwedd arbennig yma. Yn ôl traddodiadau’r seintiau Celtaidd, nid lle i orffwyso arnynt oedd gwelyau’r seintiau ond mannau lle’r elent i encilio am gyfnodau, megis yn ystod y Grawys, er mwyn ymprydio a myfyrio. Tra parchai cof gwerin draddodiadau’r seintiau, byddai sôn am y lleoedd hynny yn yr ardaloedd a fu’n gysylltiedig â digwyddiadau ym mywydau’r seintiau. Daeth manylion y tirwedd yn bwysig i’r mynaich cynnar a ddilynai’r sant. Yn ddiweddarach byddai lleoliad hanesion y seintiau yn fannau arbennig lle ymwelai’r pererinion â nhw. Cerddent yn ôl traed y sant gan ymweld â lleoliad y digwyddiadau pwysig yn ei fywyd. Hyd heddiw, yn Iwerddon, ac yn Llydaw, lle mae’r traddodiadau yma wedi parhau yn ddi-dor, ceir pererindodau preifat a chyhoeddus i fannau cysegredig i’r sant lleol a rhaid offrymu gweddi ym mhob un o’r mannau hyn. Credir bod gwneud hyn yn ailadrodd yr hyn a wnâi’r sant yn feunyddiol yn ystod ei fywyd.

Mae digon o dystiolaeth brin wedi goroesi yng Nghymru i brofi mai dyma oedd y traddodiad yma hefyd. Ar Ynys Llanddwyn, er enghraifft, mae digon o fannau arbennig yn y tirwedd o gwmpas Ffynnon Ddwynwen i’n galluogi i atgynhyrchu’r darlun o’r daith a wnâi’r pererinion. Ond dim ond yn Llanymawddwy y gellir ailgreu’r darlun cyflawn a gallwn ddychmygu’r pererinion yn symud o Gadair Tydecho i’r ffynnon ac yna i’r gwely. Yno byddent yn cynnal gwylnos mewn edifeirwch gan weddïo am adferiad iechyd neu ffafr arall gan y sant yn dâl am gyflawni pererindod i’w anrhydeddu.

Rhaid ystyried pwysigrwydd y pererindodau hyn cyn y gallwn yn llawn ddeall arwyddocâd cwlt y ffynhonnau sanctaidd yng Nghymru. Mae gennym nifer fawr o ffynhonnau sy’n gysylltiedig â saint ond cymharol ychydig ohonynt sydd â thraddodiadau arwyddocaol neu hanes o iacháu yn perthyn iddynt. Yn aml dim ond eu henwau sy’n tystio i’w cysylltiad â seintiau Cymru yn y gorffennol. Eto gall ffynnon sanctaidd fod yn rhan o dirwedd arbennig lle y gallwn o hyd brofi rhin oes y seintiau. Gallwn droi atynt eto i ddeisyf am eu cymorth ac i dderbyn eu bendith.

Eled bawb o’r wlad y bo

I duchan at Dydecho.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 
PYTIAU  DIFYR

 Diolch i Erwyd Howells am anfon y wybodaeth yma  atom o’r gyfrol Dinas Mawddwy a’i Hamgylchedd gan Tecwyn Davies. Cadwyd y sillafu gwreiddiol.

Ffynon Tydecho. Y mae dwy o’r enw yma yn Llanymawddwy – un oddiar Aber Cywarch, a’r llall ar ben Rhiw’r March, yn ymyl gwely Tydecho. Math o gafn yn y graig ydyw, a dywedai yr hen bobl fod ei dwfr yn dra rhinweddol at amryw bethau, ac yn yr hen amser gynt bu llawer tyrfa o bererinion yn penlinio o’i blaen.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

 

Home Up