Home Up

LLANWYNNO

 

FFYNHONNAU LLANWYNNO

(SO/0395)

Eirlys Gruffydd

Ym mis Mawrth 1888 cyhoeddodd William Thomas, neu Glanffrwd i roi iddo ei enw barddol, gyfrol ddiddorol yn sôn am hanes a llên gwerin ei blwyf enedigol, sef Llanwynno ym Morgannwg. Mae'r enw yn gyfarwydd i ni am mai o'r plwyf hwnnw y daeth y rhedwr enwog Guto Nyth Brân. Mae Glanffrwd, fel Guto, wedi ei gladdu ym mynwent eglwys Llanwynno, plwyf sy'n cynnwys tref Pontypridd. Yn y gyfrol ddiddorol hon, a ailargraffwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1949, mae Glanffrwd yn disgrifio'r ffynhonnau oedd yn y plwyf. Roedd nifer ohonynt yn sychu oherwydd bod y gweithfeydd glo yn amharu ar lefel y dŵr tanddaearol, ac roedd hyn yn boen meddwl iddo. Dyma ddetholiad ac addasiad a fydd yn rhoi peth o flas yr hyn oedd ganddo i'w ddweud amdanynt:

Llawer gwaith y clywais yr hen bobl yn ymffrostio fod plwyf Lanwynno wedi ei fendithio yn helaethach nag odid i blwyf ym Morgannwg, a dwfr pur a rinweddol, a chyfleusterau i ddyn ac anifail i fwynhau

 

Yr elfen denau ysblennydd 

Lyfndeg, sy'n rhedeg yn rhydd.

Yr oedd y ffynhonnau mor aml a chryf, a'r ffrydiau mor loyw a nerthol ym mhob rhan o'r plwyf, fel nas gallasai'r hen bobl lai nag ymffrostio ynddynt. Y mae amryw o'r ffynhonnau gloywon, a welwyd yn byrlymu ar bennau y twyni ac yng nghysgod y bryniau ... erbyn hyn wedi sychu a mynd yn hesb. Yn nyddiau Guto Nyth Brân yr oedd y ffynhonnau mor aml â'r sêr, ac mor loyw, nid oedd pall ar lawer ohonynt ddyddiau gwres ac oerni, haf a gaeaf. Cerddais wrthyf fy hun i edrych hynt ffynhonnau y plwyf.

Peth rhyfedd iawn na fuasai sôn yn y plwyf am Ffynnon Sanctaidd oblegid yn wastad lle byddai mynachdy a mynachod byddai hefyd Ffynnon Sanctaidd, Ffynnon Fair neu Ffynnon y Forwyn. Dyna Ffynnon Fair yn aros hyd heddiw ar lechwedd Pen-rhys, yn wynebu Cwm yr Ystrad, er bod y fynachlog wedi ei cholli fel beddau y mynachod. Y mae Ffynnon Gwenfrewi, yn Nhreffynnon, yn ei bri o hyd; ac yn ymyl Llanelwy, y mae hen eglwys a elwid gynt yn Gapel Eglwys Mair, wedi syrthio yn furddun erbyn hyn, ond y mae ei ffynnon gref - Ffynnon Fair - yn adnabyddus iawn o hyd.

Ond y mae yn syndod nad oes yr un ffynnon o'r fath wedi cael sôn amdani yn Llanwynno. Yr oedd y mynachod yn gyffredin iawn yn ddynion call, gwybodus, ac yr oeddynt yn deall natur, a llawer o'i chyfrinion. Darganfyddent ddwfr iachus yma a thraw ar hyd a lled y wlad. Gwyddent yn dda fod mwynoedd yn effeithio ar·y dwfr, ac ar y dynion a'i hyfai, ac yna priodolent effeithiau iachusol y dwfr i fendith neilltuol a nodded y Forwyn Sanctaidd. Yna galwent y ffynnon ar ei henw, a byddai pob Ffynnon Fair yn sanctaidd.

Ond pa le y mae Ffynnon Fair Llanwynno? Onid oedd ganddynt eu Ffynnon Sanctaidd yn y plwyf? Yr wyf yn credu bod, ond yn rhyfedd fod yr enw wedi ei golli, a'r traddodiad yn ei chylch wedi myned ar ddifancoll, fel y digwydd ambell bryd. Dichon fod teimlad cryf a gwrth-Babyddol wedi codi yn y plwyf, a bod ymgais lwyddiannus wedi ei gwneud i ddifodi pob peth a oedd a thuedd i gadw yn fyw y grefydd Babyddol, ac felly i Ffynnon Fair golli ei henw ac ymhen ychydig amser - treiglad cenhedlaeth neu ddwy - yr oedd y ffynnon a'i henw a'i lle wedi eu colli, hyd yn oed ar dafod traddodiad.

Y mae ffynnon gref iawn wrth y Mynachdy hyd y dydd heddiw. Tardd i fyny tua chwr y cae a elwir y Fanheulog, a rhed ar war y Cwm i bistyllied fawr yn ymyl pellaf yr ardd. Y mae yn ffrwd loyw, gref; weithiau yr ydym yn tueddu i feddwl mai hon oedd y Ffynnon Sanctaidd, ac mae yma yr ymolchai y mynachod yn nyddiau eu gwynfyd yn y plwyf Ond wedi edrych, meddwl a dyfalu, yr wyf yn dyfod i'r penderfyniad nad hon oedd y ffynnon, er bod y dwfr hwn yn ddiau yn gysegredig i'r mynachod. Mwy na thebygol mai Ffynnon Gwynno ger eglwys y plwyf oedd y Ffynnon Sanctaidd. Y mae yn tarddu yn ddi-stŵr o dan darren yr eglwys ac yn fy nghof i priodolid rhinwedd mawr iddi.

Pa le y mae ffynnon lygaid y Gellidawel ger Berw Taf? Yr oedd yr hen bobl yn credu yn ei rhinweddau ac aent yno i olchi'r llygaid. Dyna Ffynnon y Cefn yn tarddu'n nerthol. Yr wyf yn cofio am un o forynion y Cefn yn cael dychryn mawr iawn wrth y ffynnon; rhedodd yn ôl i'r tŷ, a galwodd ar ei meistr, "Dewch at y ffynnon, y mae yno neidr fawr a dau gorn ar ei phen, dewch gynta gallwch chi!" Aeth y meistr at y ffynnon ac yno yr oedd neidr fawr, ac ar yr olwg gyntaf ymddangosai fel un a dau gorn ganddi; ond wedi edrych aml cafwyd ei bod wedi llyncu llyffant mawr a hwnnw wedi aros yn ei gwddf a'i ddau troed allan o'i safn ac yn lled debyg i ddau gorn du mawr. Yr oedd y neidr wedi cymryd gormod o damaid. Nis gwn ai oddi wrth beth fel hyn y codwyd y ddihareb a glywais yn fynych yn y plwyf, -

'Gwell ti paid â llyncu llyffant'.

Ffynnon Dyllgoed sydd yn adnabyddus iawn i ŵyr y mynyddoedd. Y mae yn tarddu wrth lidiart Pen-rhiw, y tu isaf i'r ffordd sydd yn arwain o'r Ynys­hir i Fynydd Gwyngul tuag Eglwys Wynno. Cyn i chi ddyfod allan o'r heol i'r mynydd yr ydych yn pasio'r ffynnon gref hon. Nid yn aml y gwelir y fath darddiad cryf o ddwfr croyw yn dyfod allan o dwll crwn yn y ddaear. Nid oes na thŷ na thwlc gerllaw iddi, dim ond Pen-rhiw yn ymlochesu yn y coed dipyn yn is i lawr ar ymyl yr heol sydd yn cael ei henw oddi wrth y ffynnon - Rhiw Ffynnon Dyllgoed. Nid oes i'w weled ond y llwyni ar ei min a'r glaswellt a'r brwyn yn ymgrymu iddi, a'r adar o goed Pen-rhiw yn ymweld â hi, oddieithr fod ambell bererin wrth deithio'r rhiw yn croesi'r berth, ac yn eistedd ar ei min i dorri ei syched ac i fwrw ei flinder.

 

Ffynnon iawn yw Ffynnon Nicholas yng nghoed y Pare; tarddiad cryf iawn, ac yr wyf yn credu mai dwfr y ffynnon hon a welir yn dyfod allan wrth Dy­ar-twyn y basin i ddisychedu engines y Taff Vale. Gŵyr y rhai sydd yn myned allan i hela ac i saethu am y ffynnon hon, ac os bydd cyffylog yn rhywle bydd i'w gael wrth Ffynnon Nicholas - gelwid hi gynt gan rhai o'r hen bobl yn Llygad y Cyffylogiaid.

 

Ffynnon y Lan a Phenrhiwceibr, yr oedd yn arfer tarddu rhwng y ddau amaethdy. Am oesoedd lawer bu yn byrlymu yn bur ac yn beraidd ond erbyn hyn mae wedi syrthio i dlodi...mor dlawd fel nas gall wylo deigryn er cof am yr amser gynt, na'r cyfnewidiad mawr sydd wedi dyfod drosti.  

Dyna Ffynnon Pen-twyn Isaf, eto. Yr wyf yn cofio ei gweled, haf a gaeaf, yn distyllu yn gryf ac yn loyw, nid oedd na phroffwyd na phrydydd a fuasai yn meddwl darogan ei thrai, ond y mae ei nerth wedi pallu, mae wedi ymsuddo i'w gro ... a'i dyfroedd gwerthfawr ... wedi sychu.  

Mae ffynnon - efallai y cryfaf yn y plwyf- yn tarddu ar ael tir y Ffynnon­dwym; mae y fferm wedi derbyn ei henw oddi wrth y ffynnon. Tardda yn ymyl y glawty newydd a rhuthra allan yn llif i lawr tua'r glyn yn fendith i ddyn ac anifail. Yr wyf yn awr, yn fy nychymyg, yn plygu ac yn codi a'm llaw ei dyfroedd oerion pur at fy min! Tybed a sychir hon? Ofnaf fod y pwll glo yn ddigon gwancus i'th lyncu dithau ar un traflwnc, y glwth du gormesol.  

Mae Ffynnon y March yn ymyl y ffordd sydd yn arwain o Ynys-y-bwl i Ffynnon-dwym. Tardd allan mewn llwyn bychan o goed o dan ael yr Hendre Ganol, y mae ei dyfroedd yng ngwres yr haf cyn oered a'r ia, ac yn oerni'r gaeaf mor dymherus fel nad yw fyth yn rhewi. Y mae hen draddodiad yn ei chylch, fod ceffyl perthynol i Ffynnon-dwym, nad yfai ddwfr o un ffynnon arall; pan elid a'r ceffyl hwnnw i ffwrdd tua ffair neu farchnad, nid yfai ddafn o ddwfr hyd nes y dychwelai, ac yna âi ar ei union i'r llwyn coed yn ymyl y tŷ, a thorrai ei syched a dyfroedd y ffynnon a alwyd er ei fwyn ef yn Ffynnon y March.

Yn agos i darddellau Ffrwd y mae ffynnon gyffelyb o ran natur a blas ei dyfroedd i Ffynhonnau Llanwrtyd. Bu cryn dipyn o gyrchu iddi er ys blynyddoedd yn ôl, ond nid oedd y ffynnon mewn gwedd drefnus pan welais hi ddiwethaf; yr oedd mewn perygl o gael ei cholli yn y glaswelit a'r brwyn ar y mawndir. Gwelais un hen wreigan o'r plwyf yn yfed pedwar gwydryn ar hugain o'r dwfr; nis gwn ar ba egwyddor yr oedd yn gwneud hynny, os nad egwyddor y kill or cure. Fodd bynnag, yr oedd yn dangos yn eglur nad oedd dim drwg yn y dwfr, beth bynnag oedd y daioni oedd ynddo, oblegid bu yr hen wraig yno droeon wedi hynny yn cael yr un nifer o wydrau o'r dwfr. "Diolch i Dduw am y dŵr," meddai hi. "Ie," meddai un arall, "ac am ddigonedd ohono."  

Ffynnon enwog iawn yw Ffynnon Illtud. Yng nghysgod Craig Buarthcapel, mewn llwyn o goed gwern, a'r lle yn wlyb a mawnog o amgylch, y rhuthra hi allan, heb fethu haf a gaeaf. Yr wyf yn cofio fy nhad yn fy nwyn ar ei gefn pan oeddwn tua thair blwydd oed, i ddal fy nhroed dan ei phistyll oer oherwydd ysigo fy swrn; a dyna'r cof cyntaf sydd gennyf am boen. Yr oedd ei dwfr mor oer, a minnau yn gorfod dal fy nhroed dano, nes daeth Ffynnon Illtud â phoen i mi yn bethau cyfystyr. Ond llonnwyd fy natur ganddi hi filwaith wedi hynny, pan deimlwn lawer tro yn flinedig, yr oedd dracht o ddwfr Ffynnon Illtud gan fy mam, yn rhoddi bywyd ac adnewyddiad i mi drachefn. Tydi hen Ffynnon Illtud annwyl, paid â sychu byth! Na fydded i waith na gwythienni glo effeithio arnat.  

Yn uwch i fyny yng Nhwm-ffrwd, y mae Ffynnon y Fanhalog. Mae gryn dipyn o bellter oddi wrth y ffermdy, ond mae ei dŵr fel y gwin gorau, yn treiglo allan o fynwes y Coetgae, ac yn disgyn yn loyw ar wely o wlydd y dwfr yn gymysg â Berw Ffynhonnau. O mor dawel yw y lle! nid oes na thrwst na bloedd. Ychydig o waith dyn a welir yma. Gwaith Duw yw'r cwbl. Trueni fod rhaid i ddyn derfysgu ar heddwch lle fel hwn. Ond yr wyf yn ofni clywed bob dydd fod dwfr Ffynnon y Fanhalog yn prinhau.  

Yr ydym yn camu dros y cwm i ymyl hen blasty y Glog, ac awn yn syth at Ffynnon y Glog sydd yn rhuthro allan o ochr ddwyreiniol y Twyn. Hon yw ffynnon y ffynhonnau yn Llanwynno. Daw allan o dan asennau y bryn gyda nerth rhaeadrol drwy ei chafn carreg. Pan oeddwn mewn twymyn drom rai blynyddoedd yn ôl, mi a flysiais ei dyfroedd fel y blysiodd Dafydd gynt ddyfroedd Ffynnon Bethlehem; a dygwyd ef i dorri fy syched mawr, ac mae ei bereiddflas yn aros yn fy ngenau hyd y dydd hwn. O byddai yn bechod arswydus atal llif y ffynnon sanctaidd hon, ac eto y mae lle i ofni y bydd i hyn ddigwydd. Yn wir byddai yn well colli llawer o ynysoedd cyfain na cholli'r ffynnon hon. Nid wyf am ddweud gair yn erbyn y glowyr sy'n anturio i lawr i ddyfnderau mawrion ar ôl y glo, ond O! wrth wneud hynny sychant y ffynhonnau bendithfawr tir fy maboed,- ac felly rhai i mi wylo a galaru!

                                                                Gwin a groywyd gan Grewr - yw'r ffynnon,

                                                                    A gorffennol wlybwr

Bron haf, ddibrin i yfwr,

Ystên Duw i estyn dwr

 

Wrth ddarllen geiriau Glanffrwd gallwn gydymdeimlo ag ef. Tybed a oes yr un o'r ffynhonnau hyn yn dal heb eu difetha yn Llanwynno heddiw? Rydym wedi gweld colli cymaint o'n ffynhonnau, i adeiladu tai a lledu ffyrdd, i esgeulustod dynol a fandaliaeth swyddogol ambell awdurdod Heol. Diflannodd llawer o'n ffynhonnau a dyna pam ei bod hi'n hanfodol i ni warchod, cynnal a chadw'r hyn sy'n weddill o'n treftadaeth.

 

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

 

Ffynhonnau Llanwynno yn y gyfrol

The Holy Wells of Wales 

gan Francis Jones  

O'r holl ffynhonnau a enwodd Glanffrwd dim ond pedair sy'n cael eu nodi fel ffynhonnau sanctaidd gan Francis Jones. Yn Nosbarth A, sef ffynhonnau sydd wedi eu henwi ar ôl saint mae Ffynnon Wynno a Ffynnon Illtud ac yn rhyfedd ddigon Ffynnon Nicholas sydd wedi ei henwi ganddo yn Ffynnon Sant Nicholas. Y ffynnon arall a nododd oedd Ffynnon y Fan Halog ond ystyr halog yw budr, amhur neu anghysegredig. Tybed a oes rhywun all daflu goleuni ar hyn? Tybed a'i Fan Heulog a olygir?

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

LLYGAD Y FFYNNON  Rhif 13, Nadolig  2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up