Llanrwst
FFYNNON NEWYDD, LLANRWST
Bu ceisio cael hanes Ffynnon Newydd yn ardal Llanrwst yn dipyn o her, yn enwedig ar ôl gweld fod cymdeithas fel Wellhoppers, sy’n arbenigo mewn hanes ffynhonnau wedi methu, ac nad oedd gan Gymdeithas Ffynhonnau Cymru fawr ddim gwybodaeth chwaeth! Ar gyrion Llanrwst, ar y ffordd i Landdoged mae Ffynnon Newydd, ond mae’n rhaid pwysleisio ei bod ar dir preifat. Yn ôl pob tebyg cafodd y ffynnon ei chodi yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg gan un o deuluoedd cyfoethog yr ardal. Mae sôn amdani yn Faunula Crustensis -An Outline of the Natural Contents of Llanrwst a gyhoeddwyd yn 1830 gan John Williams, Pyll, Trefriw (1801-1859. Roedd y meddyg a’r naturiaethwr yn fab i’r melinydd Cadwaladr Williams ac wedi ei eni ym Mhentrefelin, Llansanffraid Glan Conwy. Yn Saesneg yr ysgrifennwyd am Ffynnon Newydd. Dyma gyfieithiad:
Ger Tyddyn Fadog, i gyfeiriad Llanddoged, mae tŷ go arbennig o’r enw Ffynnon Newydd, sydd a’r enw am fod yna ffynnon sylweddol yn yr ardd gyda muriau trwchus o gerrig a tho o lechi uwch ei phen. Mae digonedd o le y tu mewn gyda rheiliau o haearn, ac yn amlwg mae’r ffynnon wedi ei chodi ar gyfer ymdrochi. Cafodd y ffynnon lawer o glod am fod y dŵr wedi llwyddo i iachau cleifion oedd gyda phob math o anhwylderau, rhai oedd meddygon ac eraill wedi methu eu concro. Ni chredaf fod iddi drwythiad mwynol, ond yn hytrach fod yr effeithiau llesol i’r corff yn dod oherwydd bod oerni’r dŵr yn cyflymu cylchrediad y gwaed. ’Rwyf yn sicr ei bod mor effeithiol â Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon neu unrhyw ffynnon arall sydd heb rinweddau haearnol na halenog wrth geisio gwella anhwylderau sy’n anodd eu concro.
Mae cyfeiriad at y ffynnon yn An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. Vol 4 Denbishire. Royal Commission on Ancient and Historical Monuments 1914. Yn ôl y disgrifiad ( yn Saesneg) ym 1914 roedd y ffynnon yn sgwar o faint pymtheg troedfedd gyda waliau o ddeuddeg troedfedd o uchder a tho o lechi, ond bod y to mewn cyflwr gwael. Roedd saith o risiau i fynd i lawr at y dŵr oedd yn bedair troedfedd o ddyfnder. Yn cydredeg a’r ffynnon roedd ystafell wisgo/dadwisgo o’r un hyd ond yn naw troedfedd o led. Erbyn heddiw mae’r ystafell newid wedi diflannu. Does dim golwg o’r to ac mae’r grisiau mewn cyflwr gwael. Mae Peter Higson, perchennog Ffynnon Newydd, yn credu bod llawr y ffynnon wedi ei wneud o farmor. Mae ein diolch yhn fawr iddo am ei gyd-weithrediad parod yn caniatau i’r Pentan gael tynnu lluniau o’r ffynnon ac am ei gymorth gyda’r hanes. Diolch hefyd i Rob Davies am dynnu’r lluniau a thrednu’r cyfan. Heb gymoprth amrhisiadwy y ddau ni fyddai wedi bod yn bosibl i’r wybodaeth yma gael ei gasglu a’i gyhoeddi.
Buom ar drywydd anghywir i ddechrau wrth geisio cael hanes y ffynnon gan ymweld â Ffynnon Newydd arall, sef cartref Aelwen a’r diweddar Thomas John Williams yn ardal Tan Lan. Roedd yna ffynnon yno hefyd wedi ei lleoli mewn cae. Mae wedi cael ei chapio gyda chaead crwn o goncrit. Hyd y gwyddom does yna ddim byd arbennig am hon ar wahân ei bod wedi ei defnyddio i ddisychedu cenedlaethau yn y gorffennol.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc