Home Up

LLANRUG

 

FFYNHONNAU LLANRUG

gan Gareth Pritchard

 

FFYNNON PANT

 (SH 538626)

Mae Ffynnon Pant ym mhlwyf Llanrug ger Caernarfon ar dir Fferm Pant Bryn Gwyn (tir preifat) . Lleolwyd y ffynnon yn y cae sydd tu ôl i Tai Tan y Coed yn y gornel bellaf oddi wrth y lôn at y fferm. Yr enw gwreiddiol ar y stryd hon oedd Stryd Dŵr a phryd hynny bythynnod cerrig oedd yno a byddai’r trigolion yn cario’u dŵr o Ffynnon Pant. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif chwalwyd rhai o’r bythynnod a chodi pedwar tŷ teras a newid yr enw i Tan y Coed Terrace. Cofiaf pan oeddwn i'n blentyn, yn ystod hafau sych fel 1947, ein bod yn dal i gario dŵr o’r ffynnon hon. Ydi, mae hi yno o hyd, ond bellach mae bron â suddo!

 

FFYNNON CLAWDD LLWYD

 ( SH537524)

Mae’r ffynnon hon ychydig lathenni oddi ar y ffordd rhwng Glyn Twrog a’r Ceunant. Mae lôn fach a llwybr troed rhwng Tai Minffwrdd a hen Siop Lewis Roberts. Yng nghefn Tai Minffwrdd mae’r ffordd yn fforchio. Os ewch ar y chwith fe welwch Tan y Bryn yn y pellter. Os am weld y ffynnon rhaid troi i’r dde ac o’ch blaen mae Parc Clawdd llwyd. Dim ond ychydig lathenni fydd rhaid i chi fynd cyn troi i’r chwith dros bont fechan iawn ac fe welwch y ffynnon. Dyma ble byddai trigolion Tai Minffwrdd a thai cyfagos yn cael eu dŵr ers talwm. Bu’n gyrchfan chwarae i blant y fro am genedlaethau hefyd!

 

FFYNNON ADWY DDAUGAE 

(SH533621)

Ar waelod Allt Adwy Ddaugae rhwng Tan y Coed a’r Ceunant , ble mae lôn Pant Afon yn cyfarfod â’r ffordd rhwng Glyn Twrog a’r Waunfawr, ar ochr y ffordd, mae dwy ffynnon o fewn ychydig lathenni i’w gilydd. Dyma’r fan y byddai Bysus Gwyn (Whiteways) yn cyrraedd pen eu taith rhwng Caernarfon ‘r ceunant. Mae’r enw Adwy Ddaugae yn ddiddorol, er thaid ychwanegu mai fel ‘Adwy Ddigau’ y byddem ni, blant, yn ei ynganu ers talwm. Honnir i’r enw gael eu defnyddio ar lafar am dros 300 mlynedd. Beth bynnag, ar ôl taith mewn bws poeth yn yr haf byddai’n le da i dorri syched!!

Pam dwy ffynnon? Wn i ddim, ond yn sicr, o’r un yn y llun uchaf y byddai pobl yn y tai cyfagos fel Ty’n Llwyn yn cario dŵr. Mae yna bibell (pistyll) yn honno. Beth am yr enw? Ffynnon Adwy Ddaugae (neu Ddigau) i rai tra bod eraill yn ei galw wrth enw’r tŷ agosaf – Ffynnon Ty’n Llwyn.

 

FFYNNON FRON OLAU

Mae Ffynnon Fron Olau ar lethrau Cefn Du, yn Ceunant, Llanrug. Pistyll yw’r disgrifiad cywir, gan mai pibell o ffrwd fechan sy’n gollwng y dŵr. Bu hon yn torri syched teulu fy nhad am genedlaethau hyd at ganol pumdegau’r ganrif ddiwethaf. Tyddyn chwe acer yw Fron Olau.

 

Diolch i Gareth am ei holl waith yn cofnodi hanes, lleoliad a chyflwr y ffynhonnau yn Llanrug. Diolch am y lluniau gwych hefyd. Rydym yn fawr ein dyled iddo.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 35 Nadolig 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up