Home Up

LLANRHOS

ger LLANDUDNO

(SH795805)

 

 

 

FFYNNON FAIR, LLANRHOS, ger LLANDUDNO

Iorwerth Hughes

Bu Eirlys a Ken Gruffudd yn chwilio am y ffynnon yma sydd ger Llandudno, ond heb lwyddo i ddod o hyd iddi. Cefais innau’r dasg o wneud hynny a llwyddais lle roeddynt hwy wedi methu. Dau ben yn well nag un? Wn i ddim wir!

Mae Ffynnon Fair bron gyferbyn ag eglwys Llanrhos (neu Eglwysrhos) mewn cul de sac o’r enw Cae Rhos. Ym mhen pellaf Cae Rhos mae llwybr troed yn arwain at y ffynnon. Mae ei hadeiladwaith ar ffurf hanner cylch o gerrig a gysylltwyd a sment. Cafodd y ffynnon ei hadnewyddu yn weddol ddiweddar. Carreg fawr sydd drosti ac mae gorlifiad y ffynnon yn rhedeg i lyn bychan gerllaw. Nid oes unrhyw gyfeiriad at y ffynnon yma yn The Holy Wells of Wales. Cysegrwyd yr eglwys i Ilar a Mair. Hyd y gwyddom nid oes unrhyw draddodiadau am y ffynnon wedi goroesi. Ei chyfeirnod map yw 115 792802. Nid yw wedi ei chofrestru fel crair hanesyddol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON Y SANTES FAIR, LLANRHOS

(SH795805)

 

Cyfieithiwyd o fersiwn Saesneg Ken Davies (1994) gan Ifor Pugh Williams (Rhagfyr 2011)

Diolch i Gareth Pritchard, Llanrhos, Deganwy am anfon y wybodaeth a’r lluniau i Llygad y Ffynnon.

Hanes byr yw hwn o ailddarganfod Ffynnon y Santes Fair yn Llanrhos yn Ionawr 1994 a’r gwaith a wnaed i glirio’r safle a datgelu’r ffynnon. Ym mis Medi 1970, symudodd fy ngwraig a minnau i 67 Hill View Road, Llanrhos, Deganwy, Conwy, Gogledd Cymru. Roedd fy nhad, a aned yn 1901, yn hanu o Ddeganwy ac roedd yn sôn droeon am hen ffynnon o’r enw Ffynnon Fair oedd wedi ei lleoli yn agos at y llwybr troed sy’n arwain at Eglwys Llanrhos. Pan adeiladwyd y tai ar ystad Hill View cafodd y llwybr hwn ei wyro i fynd rhwng rhifau 61 a 63 Hill View Road. Y canlyniad oedd i’r darn o dir i’r chwith a thu cefn i rif 61 gael ei adael i dyfu’n wyllt. Yn y cyfnod y bûm yn byw yno teimlais y byddai’n werth chwilio am y ffynnon, os mai dim ond i fodloni fy chwilfrydedd fy hun! Ond ni thrafferthais, ac eithrio darganfod y llythyren W ar fap OS yr ardal.

Fe gofnodwyd llawer o hanes am y llifogydd yn Llandudno ym Mehefin 1993 ond fe effeithiwyd ar Lanrhos hefyd. Cafwyd llifeiriant eithafol o ddŵr yn pistyllio i lawr o’r Faerdre gan drawsnewid y geuffos fechan i fod yn afon yn cludo pob math o geriach. Mae’r nant hon yn mynd y tu cefn i Rif 61 a thrwy gylfat o dan ardd Rhif 63. Roedd y llanastr a achoswyd mor ddrwg fel y bu’n rhaid i mi gysylltu â Bwrdd Dŵr Cymru ac a’r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol. I fod yn hollol deg, cliriwyd y rhan helaeth o’r sbwriel ganddynt neu eu contractwyr yn ogystal â thorri canghennau’r coed uwchben. Dyma’r adeg y penderfynais edrych o ddifri am Ffynnon Fair. Roedd gordyfiant y ddraenen wen, tagwydd a mieri o gwmpas y nant heb sôn am y gwastraff gerddi a daflwyd i’r nant dros y blynyddoedd. Daeth yn amlwg yn fuan iawn mai’r cwbl oeddwn wedi ei ddarganfod oedd cors soeglyd o sbwriel! Fel ym mhob math o lafur, araf iawn oedd y gwaith o glirio hyd yn oed ychydig o’r gordyfiant am ei fod wedi cydblethu a’i gilydd. Wrth dorri’r rhain i lawr, a chlirio peth o’r gordyfiant, wele, adeiledd yn cynnwys hanner cylch o gerrig yn cynnal maen capan mawr iawn yn dod i’r golwg. Dyma wrth gwrs oedd Ffynnon Santes Fair, yn gweld golau dydd am y to cyntaf ers llawer o flynyddoedd.

Fel y gellid disgwyl, datblygodd diddordeb newydd a brwdfrydig yn y prosiect mewn nifer o bobl wrth iddynt gerdded heibio. Roedd eraill yn cynnig cyngor defnyddiol, a rhai, fel fy mrawd-yng-nghyfraith, Bryn Thomos, yn gweithio’n galed iawn i glirio’r safle. Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Chwefror 1994. Y cam cyntaf oedd ceisio clirio’r ffynnon a chreu ffos fel bod y dŵr yn gallu llifo tuag at y cylfat. Roedd hyn yn golygu cloddio a chlirio tua phum deg llond berfa o sbwriel adeiladwyr oedd wedi ei daflu i’r ffynnon pan adeiladwyd tai Ystad Hill View gan orchuddio’r cylfat. Torrwyd grisiau i mewn i’r banc clai ar hyd y ffos fel y gallem ddringo allan o’r ffos wrth i ddyfnder y cloddio gynyddu. Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen darganfuwyd darnau bach o wydr. Yna daeth potel ‘Cod’ i’r golwg a honno mewn cyflwr oedd bron yn berffaith. Yr enw ar y botel oedd William Hill, Llandudno a’r dyddiad oedd 1876. Yn ddiweddarach darganfuwyd mwy o boteli dŵr, un ohonynt efo’r enw Kay’s, Llandudno arni, llawer o jariau jam, poteli meddygaeth raddedig, caeadau gwydr a phot inc gwydredd halen. Fe’n hysgogwyd trwy’r darganfyddiadau hyn i ymdrechu’n galetach.

Wrth i’r gwaith o gloddio’r ffynnon a’r geuffos fynd yn ddyfnach daeth yn fater o frys i ddiogelu’r safle i atal unrhyw berson anwyliadwrus rhag llithro i mewn iddynt. Fe wnaed hyn yn y lle cyntaf trwy ddefnyddio canghennau’r coed a dorrwyd. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, daeth cynnig o byst ffens gan Mr Ernie Jones o Benarth, Conwy, a derbyniwyd gwifrau ffens gan Glwb Beiciau Modur Conwy a'r Cylch. Trwy greu’r ffens fe wnaed y safle yn hollol ddiogel. Fe wnes giât fechan efo pren a roddwyd gan Mr John French o Hill View Road a hyn yn rhoi mynediad hwylus at y ffynnon. Achoswyd nifer o broblemau i ni gan y gwaith clirio. Y mwyaf oedd gwybod beth i’w wneud â’r pridd a godwyd o’r safle. Fe benderfynwyd ei ddefnyddio i godi clawdd i’r ffos. Defnyddiwyd yr holl friciau tŷ a cherrig i sadio a draenio’r tir i greu llwybr ar waelod y clawdd. Problem arall i’w datrys oedd sut i atal y clawdd clai rhag llithro’n ôl i’r nant. Fe wnaed hyn drwy docio’r clawdd yn ôl a gosod darnau o ddur a pholion i’w dal yn ei lle. Nid oedd yn atyniadol iawn ond roedd yn effeithiol. Wrth i lefel y llaid a’r sbwriel yn y ffynnon fynd yn is roedd y dŵr yn dod yn fwy clir. Yna daeth rhywbeth annisgwyl i’r golwg, sef darn o feic plentyn. Roedd y prif ddarnau yn dal i fod mewn cyflwr da a’r werthyd echel a’r pedalau rwber yn troi’n hwylus.

Er mwyn creu gwell mynediad at y ffynnon o’r giât, bu rhaid torri cyfres o risiau allan o’r clawdd clai. Roedd hyn yn golygu symud mwy o lwythi llond berfa i’w osod ar ben y gwastraff oedd yna eisoes. Fe wnaed y grisiau trwy osod slabiau pafin ar ben y cerrig a gloddiwyd o’r safle. Gosodwyd mwy o slabiau pafin i ddal y clawdd clai i fyny ar hyd ochrau’r grisiau gan ddatrys yn foddhaol y broblem o osod grisiau ar ochr clawdd oedd yn codi’n eithaf serth dros bellter mor fyr. O bromenâd Rhyl y daeth y slabiau pafin hyn. Wrth i’r gwaith o glirio’r llaid o’r ffynnon fynd ymlaen daeth carreg fawr i’r golwg, yn croesi o un ochr o’r ffynnon i’r llall, tua 300mm islaw lefel y dŵr. Er mwyn atal y dŵr o’r nant rhag llifo’n ôl i’r ffynnon, fe osodwyd slab pafin ar draws y ffynnon fel rhwystr dros dro. Ar ochr dde o’r ffynnon cafwyd hyd i garreg arall a marc saeth wedi’i naddu arni a hwn sy’n dangos lefel y dŵr. Mae’r lefel yn parhau i fod yn gyson hyd yn oed pan fo’r tywydd yn sych - teyrnged i’r un a naddodd y marc ar y garreg.

Erbyn Awst 1994 roedd mwy o waith cosmetig wedi ei wneud i’r safle, yn cynnwys gosod rheiliau pren ar ben pyst y ffens felly gallai unrhyw un oedd eisiau gweld beth oedd yn digwydd pwyso arnynt. O wneud hyn nid oeddynt yn pwyso ar y ffens wifr a’u thynnu i lawr! Tua’r adeg yma canfuwyd fod pobl yn taflu arian o werth isel i’r ffynnon ac efallai yn creu’r traddodiad o’i defnyddio fel ffynnon ofuned. Dangoswyd llawer iawn o ddiddordeb yn y ffynnon gan ddefnyddwyr y llwybr cyhoeddus sy’n mynd heibio’r safle. Cafwyd tri grŵp sylfaenol o gerddwyr. Y grŵp cyntaf oedd y rhai a ddefnyddiai’r llwybr yn rheolaidd ar eu ffordd i’r eglwys neu i Landudno neu at y siglenni neu i ymarfer eu cŵn yn y cae. Byddent yn dangos diddordeb cwrtais a hamddenol yn y gwaith oedd yn mynd ymlaen. Yr ail grŵp oedd y cerddwyr ar deithiau cerdded, yn dilyn eu teithlyfrau lleol, ac wrth weld y ffynnon eisiau gwybodaeth fanwl am yr hyn oedd yn digwydd! Y trydydd grŵp oedd y rhai oedd yn dod yn benodol i weld y safle - Mr Alan Jones, Cynrychiolydd o Barc gwledig Aberconwy, Mr David Haines, ysgrifennydd y gymdeithas hanes lleol a Mr David Atkinson oedd y frwdfrydig iawn am hanes lleol.

Yn ystod mis Awst fe wnaed mwy o waith clirio i wely’r nant. Roedd hyn yn waith araf oherwydd yr angen i symud cymaint o laid a cherrig. Gwireddwyd awgrym bryn y dylid creu ynys yng nghanol y nant. Roedd hyn yn ein galluog i ddefnyddio’r cerrig fel sylfaen a’r mwd i fewnlenwi ac ar gyfer tyfiant planhigion. Arbedodd hyn lawer o arian i ni tra ar yr un pryd fe grëwyd nodwedd ddeniadol yn y nant. Mewn ymdrech i atal gwely’r nant rhag cael ei erydu gan rym y dŵr oedd yn llifo o’r bibell i’r nant, fe luniwyd basged allan o hen wifrau. Yna fe’i llanwyd â cherrig mawr a’i gosod ar wely’r nant gyda phen uchaf y fasged ychydig yn is na lefel y dŵr wrth geg y bibell yn unol â llif yr afon. Bydd hyn, gobeithio, yn torri grym y dŵr ar adegau o law trwm a rhwystro unrhyw ddifrod i wely’r afon. Plannwyd nifer o fylbiau a phlanhigion o gwmpas y safle a dylai hyn greu golygfa liwgar yn y gwanwyn a’r haf

Dyma enghraifft wych o frwdfrydedd nifer fechan o bobl yn adfer ffynnon - a hyn cyn i Gymdeithas Ffynhonnau Cymru ddod i fodolaeth yn 1996. Mae’n dangos nad ar chwarae bach y gellir ailagor ffynnon a’i bod yn hollbwysig gwneud gwaith cynnal a chadw cyson arnynt fel ar bob adeilad arall.(Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

LLWYDDIANT CYNHADLEDD LLANDUDNO

Ar ddydd Sadwrn Medi’r 7fed daeth tua thrideg o bobl frwdfrydig at ei gilydd i’r gynhadledd flynyddol. Siom ydoedd na allai Gareth Pritchard fod yno i draddodi ei ddarlith ar Ffynhonnau’r Gogarth ond drwy gymorth nodiadau manwl a lluniau a PowerPoint llwyddwyd i drosglwyddo’r wybodaeth. Yn dilyn cafwyd sgwrs gan Ken Davies ar Ffynnon Fair, Llanrhos ac yna darlith ddifyr iawn gan Elfed Gruffydd ar Ffynhonnau Llŷn. Yna dilynwyd gan Tristan Grey Hulse yn son am ffynhonnau a phererindodau. Yn y prynhawn cafwyd amlinelliad gan Bill Jones o’r gwaith ar Ffynnon Elan, Dolwyddelan. Yn olaf soniodd Jane Beckerman am y gwaith mawr o adfer Ffynnon Elian yn Llanelian yn Rhos.

WRTH FFYNNON FAIR, LLANRHOS (SH795805)

Ar ddydd Sul, Medi’r 8fed ymwelwyd â Ffynnon Fair, Llanrhos yng nghwmni Ken Davies a daeth Gareth Pritchard i dynnu llun o’r criw a’i gyhoeddi yn Y Cymro.

Roedd yn wych fod Ken gyda ni gan mai ef, yn anad neb, a gadwodd y ffynnon hon rhag diflannu’n llwyr. Cafwyd adroddiad llawn o’i holl weithgarwch yn rhifyn 31 o Llygad y Ffynnon. Wedi casglu ger eglwys Llanrhos, sy wedi ei chysegru i Ilar Sant, cerddodd pawb heibio i’r tai ar ochr y ffordd fawr gyferbyn â’r eglwys a throi i’r dde. Rhaid oedd dilyn y llwybr troed heibio i fwy o dai ac yna ar draws tir agored tuag at y coed lle mae’r ffynnon. Ni fyddai wedi bod yn hawdd dod o hyd iddi heblaw bod Ken ein harwain ar hyd y llwybr a thrwy’r giât i’r goedwig. Gallem fod wedi dal i gerdded heibio iddi a heb edrych yn ôl a gweld y ffynnon mewn cilfach islaw’r llwybr. Gwelwch oddi wrth y llun isod fod baddon y ffynnon ar siâp U a’i phen i lawr a gwaith cerrig glân a thaclus o’i chwmpas yn mynd i mewn i’r llechwedd. Dros y ffynnon mae carreg enfawr a hyn yn ei chadw rhag diflannu o dan y tir uwch ei phen. Byddai wedi bod yn dristwch o’r mwyaf pe bai’r ffynnon hon heb ei glanhau a’i chadw i’r dyfodol. Diolch am wirfoddolwyr fel Ken Davies sy’n llwyddo i adfer ffynhonnau ac i haneswyr lleol fel Gareth Pritchard sy’n brysur yn cofnodi gwybodaeth am ffynhonnau ei filltir sgwâr. Diolch o galon i’r ddau ohonoch.

FFYNNON FAIR, LLANRHOS

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 35 Nadolig 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON FAIR A LÔN CROGFRYN

gan Kevin Slatterly  

Câi ffynhonnau eu hystyried yn lleoedd arbennig, a hynny, gellid tybied, gan eu bod yn darparu cyflenwad o ddŵr glân. Yn y cyfnod cyn-Gristnogol, yn oes y Celtiaid a’r Rhufeiniaid, credid eu bod yn gartref i’r duwiau. Yn yr un modd, credid bod y duwiau’n byw mewn ffrydiau, afonydd a llynnoedd. Darganfuwyd gwrthrychau megis tlysau a chleddyfau a daflwyd i mewn iddynt yn rhodd neu’n aberth i’r duwiau.

Yn 601, gorchmynnodd y Pab Gregori ei genhadon i ddinistrio unrhyw gerfluniau a mythau a oedd yn gysylltiedig â’r ffynhonnau (roedd rhai ffynhonnau, yn sgil mythau o’r fath, yn gysegrfeydd poblogaidd y priodolid iddynt rym iachaol – ac mae’n bosibl bod sail wyddonol neu fiolegol i hyn oherwydd presenoldeb mwsoglau arbennig ac ati), gan sicrhau yr un pryd eu bod yn dod yn fannau Cristnogol hylan.1 Mae dros 400 o ffynhonnau Cymru heddiw yn dwyn enwau’r saint.2

 Mae’r ffynnon a adwaenwn ni heddiw fel Ffynnon Fair  (SH795805) wedi’i lleoli rai cannoedd o fetrau i’r gorllewin o Eglwys Sant Ilar, Llan-rhos. Pam, tybed, fod y ffynnon wedi’i chysegru i Fair yn hytrach nag i Sant Ilar?

Codwyd yr eglwys wreiddiol gan y brenin Maelgwn Gwynedd. Mae’n debyg iddi gael ei hadeiladu ar y safle arbennig hwn gan fod yna ffynnon gerllaw a fyddai’n darparu cyflenwad o ddŵr glân. Roedd hefyd yn cael ei hystyried yn ffynnon sanctaidd. Maelgwn oedd brenin cyntaf gogledd Cymru, ac roedd ei dad, Cadwallon, wedi gyrru’r Gaeliaid (Gwyddelod) o ogledd Cymru ac Ynys Môn.  Cododd nifer fawr o eglwysi o fewn ac oddi allan i’w deyrnas. Dywedir ei fod yn hoff o wrando ar farddoniaeth ac epigau. Roedd ei gadarnle, y Faerdre, rai cannoedd o fetrau i’r gorllewin o’r eglwys a’r ffynnon.

Mae’n debyg i’r eglwys gael ei henwi ar ôl Sant Eleri (Saesneg: Hilary), o Wytherin neu Sant Ilar (Hilaire) o Poitiers yn Ffrainc.3 Roedd Sant Eleri (a fu farw yn 670) yn fab i’r brenin Dingat o dde’r Alban, a gafodd ei ddisodli gan Edwin o Northumberland. Ffodd y teulu i Went, ond aeth Eleri i astudio dan Sant Asaff yn Llanelwy. Yn ddiweddarach, sefydlodd fynachlog a chwfaint gyda Gwenfrewi, a oedd yn ferch i’w gefnder.

Roedd Sant Ilar (a fu farw yn 368) yn coleddu’r gred fod Iesu yn gyfartal â Duw, yn hytrach na’i fod yn israddol iddo. Cafodd y gredo hon ei mabwysiadu gan y cyngor eciwmenaidd a gynhaliwyd yn Nicea yn Nhwrci yn 325, ac fe’i hadwaenir fel Credo Nicea.  Credir hefyd mai Sant Ilar oedd awdur Lladin mwyaf blaenllaw’r 4edd ganrif, ac enwyd pentrefi ar ei ôl yng Nghernyw a Chymru.

Cafodd Sant Eleri ei eni wedi marwolaeth Maelgwn Gwynedd, ac y mae’n fwy na thebyg felly i’r eglwys gael ei henwi ar ôl Sant Ilar o Ffrainc yn hytrach na Sant Eleri o’r Alban a Chymru, sy’n perthyn i gyfnod mwy diweddar.

Ymddangosodd yr enw ‘Mair’ rai canrifoedd yn ddiweddarach. Ym 1350, yn dilyn cytundeb rhwng mynachod Abaty Maenan a’r brenin Edward III, daeth yr eglwys dan ofal y mynachod, ac fe’i hailgysegrwyd i’w nawddsant, y Forwyn Fair, sy’n esbonio’r enw Ffynnon Fair.4   Ond pam y mae’r eglwys yn cael ei galw’n Eglwys Sant Ilar tra bo’r ffynnon yn cael ei galw’n Ffynnon Fair?

 Ym 1534, penderfynodd Harri’r Wythfed ddiddymu grym Eglwys Rufain.  Dinistriwyd y mynachlogydd a thorrwyd cysylltiadau eraill â’r Eglwys Gatholig. Roedd hyn yn cynnwys ailgysegru eglwysi, dinistrio cysegrfeydd mewn ffynhonnau, ac erlyn pobl am barhau i addoli wrth y ffynhonnau.5 Ymddengys felly i’r eglwys ail-fabwysiadu enw Sant Ilar, ond anghofiwyd am y ffynnon, a pharhaodd yr enw Ffynnon Fair ar lafar gwlad.Yn wir, nid yw’r ffynnon yn ymddangos ar fap ordnans 1889, ond fe’i gwelir o 1900 ymlaen. Daeth i’r golwg unwaith eto, yn llythrennol, yn dilyn y llifogydd a gaed ar y 10fed o Fehefin 1993.

Ni wnaeth yr ardal ei hun, yn wahanol i diroedd isel Llandudno gerllaw, ddioddef o lifogydd, ond cafwyd cymaint o ddŵr ffo o gaeau’r Faerdre a Bryniau yn ymyl fel y bu’n rhaid clirio’r llanastr o gylch y llwybr troed sy’n arwain at y ffynnon. Yn ystod y gwaith hwn yr ailddarganfuwyd y ffynnon. Cafwyd gwared â thua hanner can llond berfa o wastraff adeiladu o’r stad dai yn ymyl, ac aed ati i gloddio ffos gan ddatgelu’r ffynnon fel ag y mae heddiw.6  

Rhed llwybr troed ger y ffynnon, ac fe’i cofnodwyd ar fap ordnans 1889.   Mae’n debyg bod y llwybr ei hun yn llawer hŷn, a’i fod yn cysylltu’r Faerdre ag eglwys Sant Ilar.  Mae’r ffaith bod y goedwig gerllaw, hon eto i’w gweld ar y mapiau cynnar, yn cael ei galw’n Goed Crogfryn, yn awgrymu bod hwn yn safle strategol i deithwyr a phererinion dros y canrifoedd ac nid yn ffynhonnell dŵr glân yn unig. 

Cafodd y ffordd gerllaw, a elwir yn Lôn Crogfryn, ei hadeiladu fel ffordd gyswllt rhwng y B5115 a’r A470, a adeiladwyd ym 1985. Cafodd y ffordd ei henwi ar ôl Coed Crogfryn, y mae’n torri trwyddo.  Yn ôl un ddamcaniaeth, mae’r enw’n golygu ‘Coed y Grocbren’, ac mae hyn yn plethu â’r chwedl leol am ‘Dderwen y Diafol’ gerllaw, lle y ceir mynwent yn ogystal. Ond nid oes unrhyw gofnod bod crocbren wedi bod yma, nac unrhyw hanesion am bobl yn cael eu crogi. Sut bynnag, mae ‘crog’ hefyd yn golygu ‘croes’ a ‘chroeshoeliad’, fel yn yr enw ‘Gŵyl y Grog’, a ddethlir ar y 6ed o Fawrth, y 12fed o Hydref, y 13eg o Fedi neu’r 14eg o Fedi, gan ddibynnu ar y digwyddiad penodol sy’n cael ei ddathlu.

Yn Saesneg, defnyddir y term ‘Holy Rood Day’.  Gair arall am groes yw ‘rood’ (Sacsoneg: ‘roda’, Hen Saesneg: ‘rod’). Efallai ein bod ni’n fwy cyfarwydd â’r term ‘rood screen’, sef croglen neu sgrin y grog, sgrin wedi’i cherfio’n gywrain y gellir gweld trwyddi bron oherwydd y treswaith hynod gain, ac y gosodwyd ‘y grog’ (‘rood’), sef delw o Grist ar y Groes, arni.  Byddai’r groglen yn gwahanu’r gynulleidfa oddi wrth y clerigwyr a oedd yn dathlu’r offeren, fel na allent weld yr hyn a oedd yn digwydd ond yn rhannol, yn enwedig pan fyddent ar eu gliniau, ond byddai’r groes i’w gweld yn glir. Yn sgil gwrth-ddiwygiad yr 16eg ganrif, cafwyd gwared â’r croglenni hyn, gan ganiatáu i’r gynulleidfa weld y cyfan a ddigwyddai.

  Y tu allan i’r eglwys, ceid croes garreg, yn dyddio o’r oesoedd canol fel rheol, a adwaenid fel y Groes Uchel neu Groes Eglwysig, ac yr oedd iddi bedair prif swyddogaeth, sef fel:

·                   symbol o statws yr eglwys

·                   symbol o statws noddwr yr eglwys

·                    cymorth gweladwy i fyfyrio

·                   arwyddbost neu fan gorffwys i bererinion a theithwyr yn gyffredinol. Câi’r croesau hyn eu codi’n aml ar safleoedd cerrig hynafol neu gynhanesiol.

 

Mae’n debyg, felly, i Lôn Crogfryn a Choed Crogfryn gael eu henwi ar ôl ‘y grog’ ar y ‘bryn’. Tybed a oedd y grog hon yn sefyll yn y man lle y mae arwyddbost segur y groesffordd, ar yr hen lôn a welir 50 metr i’r gogledd a 200 metr i’r de o’r eglwys?  Neu, efallai bod gwaelod y groes yn dal i orwedd gerllaw, yn aros i rywun ei ddarganfod ...?

 I grynhoi, mae’r ffaith bod Eglwys Sant Ilar, Ffynnon Fair, Coed Crogfryn a Lôn Crogfryn, ynghyd â’r Faerdre, a oedd yn ganolfan grym yn y Gymru gynnar, mor agos at ei gilydd yn awgrymu bod hon yn ardal bwysig iawn yn y gorffennol pell.  

1.    John Weston, Data Wales, 2003.

2.    Francis Jones, The Holy Wells of Wales, 1954.

3.    Betty Mills, A Churchyard Diary, 2009.

4.    Fiona Richards,The Creuddyn Grange, 2013.

5.    John Weston,Data Wales, 2003.

6.    Ken Davies, Ffynnon Santes Fair, 1994.

7.    Diolch i’r Dr Anne Williams, Clynnog Fawr, am gyfieithu’r erthygl hon o’r Saesneg gwreiddiol.

 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 36 Haf 2014

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up