Home Up

LLANRHAEADR-YNG-NGHINMEIRCH

DYFFRYN CLWYD

 

Ffynnon Sant Dyfnog

SJ0763

Wedi clywed am y diddordeb cynyddol mewn hen ffynhonnau sanctaidd danfonwyd gwybodaeth am y ffynnon uchod i'r Golygydd gan Mr George Hughes, Llanrhaeadr. Bu'r Tad Demetrius, offeiriad yn yr Eglwys Uniongred, ac un sydd â diddordeb mawr mewn hen ffynhonnau, yn ymweld â'r lle. Er mwyn tynnu sylw at gyflwr y ffynnon ysgrifennodd erthygl i Country Quest i geisio codi ymwybyddiaeth pobl o bwysigrwydd y rhan hon o'n hetifeddiaeth. Dyma rywfaint o wybodaeth am y ffynnon arbennig hon.

Mae llawer yn gwybod am eglwys hynafol Llanrhaeadr a'i ffenest liw odidog, y ffenest Jesse, sy'n dyddio o 1535. Mae'r ffenest yn olrhain llinach yr Iesu yn ôl i Dafydd, mab ieuengaf Jesse. Yn ystod y Rhyfel Cartref tynnwyd y ffenest o'i lle a'i chadw'n ddiogel nes bod y brwydro drosodd. Yna cafodd ei gosod yn ei lle eilwaith .Cafwyd digon o arian i gael y ffenest am fod pererinion i 'r ffynnon yn gadael rhoddion o arian yn yr eglwys fel offrwm diolch am gael gwellhad yn ei dyfroedd . Deuent yno yn lluoedd i gael gwared ag anhwylderau ar y croen. Credent fod y dyfroedd yn rhinweddol am fod y sant ei hun wedi ymdrochi ynddynt yn feunyddiol. Codwyd adeiladau ger y ffynnon i alluogi'r pererinion i newid eu dillad gwlyb ar ôl bod yn y baddon. Erbyn heddiw mae safle'r ffynnon a'r baddon wedi tyfu'n wyllt. Ni ellir gweld y ffynnon ei hun am fod tirlithriad wedi ei gorchuddio. Yn ôl pob tystiolaeth roedd yn ffynnon sgwâr. Mae'r baddon, 24 troedfedd wrth 16 troedfedd, hefyd mewn cyflwr gwael. Bu Mr George Hughes yn ceisio clirio tipyn o'r mwd a'r baw ohono yn ddiweddar.

Llwyddodd y Tad Demetrius i gael cydweithrediad perchnogion y ffynnon, sef teulu Llysog Hall, i geisio adfer y safle. Defnyddiwyd rhai o weithwyr y 'stad i gael trefn ar y lle. Gobeithir clirio'r safle, gwneud cloddfa archeolegol iawn, adfer y ffynnon ac ailgodi'r adeiladau lle byddai'r pererinion yn newid. Cynigiodd Nwy Cymru noddi'r fenter.

Dyma enghraifft dda o sut y gall grym cyhoeddusrwydd ddenu nawdd ariannol. Wrth geisio adfer ffynnon byddai'n beth da i ni fel Cymdeithas ystyried gofyn am nawdd o fyd diwydiant. Mae hyn hefyd yn dangos sut y gellir hybu perchnogion i weithredu i warchod ffynnon. Yn drydydd mae'n dangos ein bod ni, fel Cymry, yn ddall i werth yr hyn sydd gennym, tra bod eraill yn sylweddoli fod ffynhonnau sanctaidd yn rhan werthfawr o'n treftadaeth ac yn haeddu cael eu hachub.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CRWYDRO FFYNHONNAU SIR DDINBYCH

Yn ei gyfrolau Crwydro Gorllewin Dinbych (1969) a Crwydro Dwyrain Dinbych ( 1961 ) mae'r diweddar Frank Price Jones yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau'r sir. Dyma ddyfyniadau o'r ddwy gyfrol sy'n sôn amdanynt:

Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd: (tud 220)

Y mae tuedd i bobl heddiw ruthro trwy Llanrhaeadr, ac wrth wneud hynny maent yn colli cyfle i sylwi ar amryw fanion diddorol… Cefais arweiniad Mr T.W Evans, cyn blisman y llan i'm tywys o gwmpas y lle… i ddringo y tu ôl i'r eglwys, heibio i'r elusendai taclus sydd yno ers dwy ganrif a hanner, trwy'r coed at Ffynnon Ddyfnog. Y mae llwybr gweddol hwylus ati erbyn hyn, ond mae'r ffynnon a'r baddon o dani mewn angen eu glanhau. Y mae hen stori yn adrodd fel y byddai clerigwyr y llan yn rhoi manus neu rhyw liw yn yr afon ger y Graig Lwyd yn uwch i fyny'r nant, er mwyn creu 'gwyrth' yn Llanrhaeadr, oherwydd mae'n debyg mai afon dan-ddaearol sy'n ymarllwys o'r ffynnon. Carreg galch sydd ymhobman y ffordd hon a gallai'r hen stori fod yn ddigon gwir.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

TAITH O GWMPAS FFYNHONNAU SIR DDINBYCH  

(A HEN SIR FEIRIONNYDD)

Eirlys Gruffydd

 Ffynnon Ddyfnog

SJ0763

Ar gais Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych bu Ken a minnau’n arwain taith o gwmpas rhai o ffynhonnau’r sir ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Roedd yn ddiwrnod bendigedig a da oedd hynny gan fod gennym dipyn o waith cerdded a’r ffordd i ambell ffynnon yn ddigon llaith a llithrig, hyd yn oed wedi tywydd sych.

  Y ffynnon olaf yr ymwelwyd â hi oedd  yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch (SJ0763). Gellir dod o hyd i’r llwybr sy’n arwain at y ffynnon drwy gerdded o gwmpas yr eglwys a dringo i’r gorllewin drwy’r coed. Wedi cerdded am ryw ddau gan llath gwelir baddon o faint sylweddol. Rhaeadr sy’n bwydo’r baddon a deuai’r dŵr i lawr o’r graig uwchben. Yn anffodus bu tirlithriad a diflannodd rhan o’r adeiladwaith. Yn ffodus mae gennym lun o’r safle cyn i’r tir lithro felly gallwn gofio sut beth oedd yno ugain mlynedd yn ôl.

Y FFYNNON CYN Y TIRLITHRIAD

Y BADDON YN LLANRHAEADR

Roedd y ffynnon yn enwog yn yr Oesoedd Canol fel man i bererinion ddod iddo i geisio gwellhad o anhwylderau’r croen yn ogystal â mudandod a byddardod. Dywedir bod Dyfnog Sant yn arfer sefyll o dan y rhaeadr bob dydd fel penyd. Ar un adeg roedd adeilad o gwmpas y fan ble llifai’r dŵr. Wedi ymweld â’r ffynnon byddai’r pererinion yn mynd i’r eglwys a rhoi offrwm yng nghyff y sant yno. Cymaint oedd gwerth eu rhoddion nes i’r eglwys fedru fforddio cael ffenestr liw arbennig sy’n dangos achau Iesu yn ôl at Jesse, tad y brenin Dafydd. Rhaid oedd i ninnau ymweld â’r eglwys hefyd ac yno yn ein cyfarfod yr oedd Helen Jenkins Jones o Lanrhaeadr, sy’n aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Cawsom ein tywys ganddi o gwmpas yr adeilad ac eglurodd hanes y ffenestr i ni. Y farn gyffredinol oedd ein bod wedi cael diwrnod i’w gofio. Tybed a oes modd argyhoeddi cymdeithasau hanes eraill i drefnu teithiau tebyg?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr (SJ 082635)

Wrth ymweld â Dyffryn Clwyd mae’n nodi bod Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr (SJ 082635) yn fan lle’r arferai pererinion ddod yn y gorffennol. Meddai:

‘Mae mur onglog o gwmpas y ffynnon ac mae delwau bychain ar ffurf pobl yn addurno’r mur ac o’i blaen mae’r ffynnon ei hun i’w defnyddio gan yr ymdrochwyr duwiol.’

Bellach mai’r mur a’r delwau wedi diflannu ond mae’r ‘Ffenest Jesse’ enwog a godwyd drwy gyfraniadau’r pererinion yn tystio i’w nifer a natur eu duwioldeb.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PEDWAREDD GYNHADLEDD FLYNYDDOL FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Ar y Sul, Medi 18fed byddwn yn ymweld â Ffynnon Beuno, Tremeirchion, Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, Ffynnon Fair, Cefn, a Ffynnon Elian, Llanelian yn Rhos. Nid oes tâl am y diwrnod yma.

 

BADDON FFYNNON DDYFNOG, LLANRHAEADR  ( SJ 082635)

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON DDYFNOG,

LLANRHAEADR YNG NGHINMEIRCH 

(SJ0826350)

Yn ystod ein hymweliad â’r ffynnon ar Sul y Gynhadledd yn Nhreffynnon ym mis Medi daeth aelodau Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i gysylltiad ag Adrian Evans sy’n bwriadu gwneud rhywbeth i wella’r fynedfa at y ffynnon a thwtio’r tir o’i chwmpas. Mae’r llwybr at y ffynnon yn cychwyn wrth gornel orllewinol yr eglwys ac yn croesi’r nant dros fwy nag un bont cyn cyrraedd y ffynnon ei hun. Mae’r llwybr at y ffynnon yn troelli rhwng coed ac mae’n gallu bod yn llithrig os yw’r tywydd wedi bod yn wlyb. Does dim gwybodaeth fanwl am y cynllun hyd yma. Yn wir mae mwy nag un ymgais wedi ei gwneud i wella'r safle. Mae yma flas y cynfyd a rhyw deimlad o gamu i’r gorffennol wrth gerdded i fyny at y ffynnon. Yn sicr nid oes eisiau colli’r naws arbennig yma er mwyn iechyd a diogelwch ond ar yr un pryd rhaid amddiffyn y bensaernïaeth arbennig sydd i’r lle.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON DDYFNOG SANT

LLANRHAEADR Yng NGHINMEIRCH

(SJ 082635)

Diolch i’n Cadeirydd brwdfrydig, y Dr Robin Gwyndaf, am dynnu ein sylw at lythyr Philip Williams, 6 Bryn Llan, Llanrhaeadr yn rhifyn Mawrth o’r Bedol. Meddai:

Daeth pryder cynyddol i’r amlwg ynglŷn â dirywiad Ffynnon Ddyfnog Sant, sydd wedi’i lleoli mewn coedwig fechan tu ôl i Eglwys Llanrhaeadr. Cafodd y safle ei ddosbarthi fel safle rhestredig Gradd Dau gan CADW, a’r rhoddion ariannol a gyfrannwyd gan bererinion oedd yn ymweld â’r ffynnon yn y gorffennol a gynorthwyodd hefyd i adeiladu’r eglwys a’r ffenest Jesse wych yn ddiweddarach. Yn anffodus, oherwydd y gaeafau caled diwethaf, dymchwelodd rhan helaeth o’r ffynnon a’r safle o’i hamgylch, ac felly gwneir apêl frys i bawb sydd â diddordeb i gyfarfod a chynllunio rhaglen weithiol. Mae’n debyg mai dyma fydd y cyfle olaf i achub rhan o etifeddiaeth gyfoethog ein pentref.

Mynegodd llawer o’r pentrefwyr yr awydd i atal y dirwyiad y safle carismataidd hwn, a gyda chymorth ein cymuned aed ati i ffurfio grwp gweithredol gyda’r amcan i adfer y safle a rhwystro difrod pellach gan yr elfennau. Byddwch yn ymwybodol, mae’n siwr, y bydd angen llawer o waith caled a chydweithio cymunedol er mwyn gwireddu’r amcanion hyn, a rhagwelir hefyd y bydd yn rhaid sicrhau cyllido drwy gyfrwng gwahanol asiantaethau ariannol. Mae peth cyllid wedi ei gynnig yn barod, gyda diolch oddi wrth Cadwyn Clwyd (£5,000) a Chronfa Wynt Tir Mostyn a Foel Goch (£500) ac mae ychwaneg o drefniadau codi arian yn cael eu trefnu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gefnogi cynllun cymunedol lleol, i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r plwyf a thu hwnt, fel y gallwn fod yn falch o’n treftadaeth a’n hanes.

(Braf yw gweld cymuned yn gwerthfawrogi’r ffynnon sanctaidd sy ganddynt. Dymunwn yn dda i drigolion Llanrhaeadr wrth iddynt gychwyn ar waith mawr a phwysig iawn. Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 32 Haf 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 Rhan o Ffynnon Leinw, Cilcain (2)

Tristan Grey Hulse

 Esbonnir yr adeiladwaith gan grybwylliad Gwallter Mechain (1761-1849) yn Topographical Dictionary Samuel Lewis (1848) bod y ffynnon yn boblogaidd iawn ar gyfer ymdrochi. Hwyrach y’i defnyddid at y diben hwnnw am gryn amser cyn y cofnodwyd y ffaith, ond yn sicr daeth ymdrochi er mwyn gwella’r iechyd yn ffasiynol iawn yn y 18fed ganrif, gan roi ail fywyd i lawer hen ffynnon sanctaidd. Digwyddodd hynny nid nepell o Gilcain yn Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, er enghraifft.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 42 Haf 2017 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru

Festri Capel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, 13.7.2019.

 Cofnodion

 

4. Adroddiad yr Ysgrifennydd

b). Ffynnon Ddyfnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch. Fis Mai mynegwyd pryderon wrth yr Ysgrifennydd ynghylch cynlluniau i ddatblygu safle Ffynnon Ddyfnog yn Llanrhaeadr, gerllaw Dinbych yn ganolfan addysg/ymwelwyr. Yn benodol, pryderon y gallai gwaith hwyluso mynediad at y safle a darparu cyfleusterau addysgol yno ddifrodi safle bregus sydd, efallai, yn enghraifft brin iawn o addasu ffynnon sanctaidd ganoloesol yn ganolfan adfer iechyd, yn “sba” yn y cyfnod modern cynnar.

Ysgrifennwyd at yr awdurdodau lleol (Cyngor Llanrhaeadr a Chyngor Sir Ddinbych) ac at Cadw yn mynegi pryder ynghylch hyn. Y canlyniad fu cyfarfod ar y safle ddechrau Mehefin gyda chynrychiolwraig y rhai sydd y tu ôl i’r bwriad, pryd y bu iddi esbonio beth yn union oedd mewn golwg ganddynt.

Os yw’r grŵp sy’n pwyso am newid y safle yn cadw at yr hyn a esboniwyd wrth yr Ysgrifennydd, ei farn ef yw na fydd hynny’n difrodi’r lle. Ni fydd y “cyfleusterau addysgiadol”, er enghraifft, fawr mwy nag eisteddfa awyr-agored, ac ni fwriedir codi adeiladau ychwanegol. Dipyn o syndod, fodd bynnag, fu deall y bu hyn ar y gweill ers sawl blwyddyn, ond nad oedd Cadw’n ymwybodol ohono hyd nes i’r Ysgrifennydd dynnu sylw at y peth: a hynny mewn man lle mae sawl heneb restredig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd yr ofnai fod hyn, ac achos Llanfair-is-gaer, yn tanlinellu, unwaith yn rhagor, yr angen am ddiogelu ffynhonnau sanctaidd o dan yr un  ddeddfwriaeth ag y sy’n diogelu henebion eraill, er, efallai, nad yw safle’r ffynnon yn cynnwys unrhyw adeiladwaith. Y mae yna broses gofrestru, ond y mae’n gofyn am dystiolaeth fanwl ynglŷn â phob un safle unigol, ac nid yw traddodiad llafar fel petai’n cyfrif llawer tuag at hynny. Yn achos Ffynnon Ddyfnog, mae yna adeiladwaith: yn achos Ffynnon Fair, nid oes yna ddim: dim ond dogfen, enwau lleoedd cyfagos, a thraddodiad llafar. Eto, mae’r naill, fel y llall, yn rhan o’n treftadaeth ni.

Mae sefyllfaoedd fel hyn yn rhwym o godi, drachefn a thrachefn, hyd nes y bo mesur o ddiogelwch cyfreithiol i ffynhonnau sanctaidd. Mae’n amlwg nad ydi’r cyrff mwyaf perthnasol – Y Comisiwn Henebion a Cadw – am symud i’r cyfeiriad hwnnw o’u gwirfodd, felly rhai pwyso arnynt. Awgrymodd yr Ysgrifennydd y gallai’r Gymdeithas  lythyru, gohebu â’n haelodau seneddol a chynulliad, a ryddhau datganiadau; creu cyhoeddusrwydd, hynny yw, a gorfodi’r awdurdodau i ymateb. Rhaid i’r Gymdeithas  fod yn fwy na chorff cofnodi: rhaid iddi weithredu er mwyn sicrhau dyfodol i’n ffynhonnau sydd yn rhan mor werthfawr o’n treftadaeth ni fel cenedl.

LLYGAD Y FFYNNON Rhifyn 47, Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up