Home Up

LLANOFER  

 

FFYNHONNAU GWENT

Ffynnon Gofer, Plas Llanofer

SO 31 08

gan Eirlys Gruffydd

Ar dir Plas Llanofer roedd r Ffynnon Gofer (SO31 08) ac roedd ganddi’r enw o fedru gwella cloffni. Byddai’n arferiad i gleifion adael eu baglau a’u ffyn ger y ffynnon fel arwydd o’u gwellhad. Yn agos i Lanofer roedd Ffynnon Angoeron ac arferid taflu pinnau wedi eu plygu yn ogystal â botymau fel offrwm i’r ffynnon cyn gwneud dymuniad ond nid oedd cadw’r dymuniad yn gyfrinach neu ni châi ei gwireddu. Yn ardal Llandeilo Bertholau (SO3116) roedd nifer o ffynhonnau pwerus a rhinweddol yn ôl Edward Lhuyd. Roedd rhai ar y bryniau ac eraill ar y dolydd a gallent wella amrywiaeth o afiechydon ac anhwylderau megis clwyfau a doluriau crawnllyd a lludiog yn ogystal â symud defaid a brychni haul oddi ar y croen.  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up