Home Up

LLANLLYFNI

 

FFYNNON REDYW SANT 

(SH468517)

Bu’r rheithor, y Parch. Eric Roberts, mor garedig â mynd i chwilio am y ffynnon gyda dau aelod o’n cymdeithas. Dyma’r unig ffynnon ac eglwys a gysegrwyd i’r sant yma yng Nghymru. Mae’r ffynnon ar lan yr afon y tu ôl i’r eglwys, ond er chwilio’n ddyfal ni lwyddwyd i ddod o hyd iddi. Nid oes unrhyw berygl i’r ffynnon gael ei dinistrio gan y ffordd osgoi arfaethedig, fodd bynnag, a gobeithio y daw cyfle arall i ni fynd i’w gweld yn y dyfodol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

Ym mis Mawrth buom yn ymweld a safle Ffynnon Redyw yn Llanllyfni (SH468517). Roeddem wedi bod yn chwilio am y ffynnon flynyddoedd lawer yn ôl ac wedi mesur yr hyn y credem ni oedd y safle. Yna, beth amser yn ol, aethom i chwilio am y safle unwaith eto yng nghwmni’r ficerY Parchedig. Eric Roberts, ond heb fedru dod o hyd i’r ffynnon. Nawr mae ei olynydd yn y swydd, Y Parchedig. Ron Rees, yn awyddus i adfer y ffynnon fel rhan o gynllun i adnewyddu’r llwybrau cerdded yn y fro gyda’r bwriad o ddenu ymwelwyr i’r ardal. Yn ogystal a hyn cymerwyd dwr o’r ffynnon i’r eglwys i’w ddefnyddio mewn bedydd yn ddiweddar. Er bod baddon y ffynnon, sy’n ddeg troedfedd wrth wyth o faint, wedi llanw a cherrig a phridd, mae’r dwr yn dal i lifo drwy’r gofer i nant gyfagos ac felly mae modd cael dwr ohoni o hyd. Hyd y gwyddom dyma’r unig eglwys a  ffynnon yng Nghymru i’w cysegru i Redyw neu Credfyw Sant. Dymunwn bob llwyddiant i drigolion Llanllyfni yn eu hymdrechion i adfer y ffynnon a dod a swyddi i’r ardal.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CARIO DŴR O FFYNNON SANCTAIDD AR GYFER BEDYDDIO

Ffynnon Rhedyw

SH 468519

Mae’r hen arfer traddodiadol hwn ar gynnydd unwaith eto. Dyma rai ffynhonnau lle mae unigolion wedi ceisio dŵr ohonynt ar gyfer bedyddio baban yn ddiweddar:

Ffynnon Engan, Llanengan, Llŷn  - SH 932708

Ffynnon Rhedyw, Llanllyfni, Arfon  -SH 468519

Ffynnon Armon, Llanfechain, Maldwyn-SH 0797

 Os oes gennych chi wybodaeth am ffynhonnau eraill lle mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bedyddiadau, rhowch wybod i’r Golygydd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18, Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up