LLANILLTUD
GŴYR
Y BEDYDDWYR a FFYNNON y DRINDOD, Llanilltud, Gŵyr.
Dewi E. Lewis
Ym mhentref Llanilltud (Ilston), ym Mhenryn Gŵyr, y sefydlwyd eglwys gyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru, ar y cyntaf o Hydref 1649 gan John Myles ac yntau yn 28 mlwydd oed. Cynhaliwyd y gwasanaethau yn eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Illtud Sant, hyd yr ail o Fai, 1660, pan orfodwyd y Bedyddwyr i symud oddi yno dan wrthwynebiad y cyhoedd ac awdurdodau eglwysig. Symudodd y gynulleidfa o Eglwys Illtud Sant a dechreuwyd defnyddio Capel Ffynnon y Drindod a oedd wedi ei gysegru i Cenydd Sant. Bu’r capel yn sefyll ar y safle ers y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd. Credai rhai mai ffynnon a gysegrwyd i Teilo Sant yw’r safle, ond hawdd yw credu i Cenydd a Teilo fod yn gysylltiedig â’r safle gan i Teilo farw yn 560 O.C a Cenydd yn 587 O.C.
Mae’n anodd credu i’r safle gael ei anwybyddu am y cyfnod rhwng marw’r ddau sant a dyfodiad y Bedyddwyr o dan arweiniad John Myles. Mae’r ffaith fod y safle wedi ei gysegru i ddau sant yn dangos yn glir ei fod yn fangre o bwys yn lleol. Mae’n debygol hefyd mai dim ond un mewn cyfres o adeiladau oedd yr un a ddefnyddiwyd gan y Bedyddwyr yng nghyfnod John Myles. Honnir bod y ffrwd o ddwr wedi ei ddefnyddio gan y Derwyddon ar gyfer defodau a gwyliau cyn iddynt gael eu disodli gan y Rhufeiniaid. Yn sicr mae digon o goed cyll yn yr ardal i gefnogi’r fath honiadau.
Yn fuan wedi iddynt sefydlu ar safle Ffynnon y Drindod bu’n rhaid i’r Bedyddwyr hwythau adael oherwydd erledigaeth leol. Yn fuan wedi hyn ymfudodd John Myles i’r Unol Daleithiau gan barhau â’i waith crefyddol yn Rehoboth, Massachussetts.
Ffynnon y Drindod, Llanilltud, Gŵyr.
Ychydig iawn sy’n arddel credoau a ffydd John Myles ond mae safle’r capel wedi ei lanhau a gosodwyd plac yno. Y rheswm pennaf i’r Bedyddwyr ddewis y safle ar gyfer eu haddoliad yn sicr yw’r ffrwd o ddŵr sy’n tarddu o dan y capel. Mae’n syndod iddynt beidio â defnyddio’r safle yn y lle cyntaf, yn hytrach na chyrchu i eglwys Ilston. Mae’n ffrwd gref iawn ac yn angenrheidiol ar gyfer darparu digon o ddŵr ar gyfer trochofedydd mewn ardal lle bo’r cyflenwad dŵr yn isel gan fod cyfansoddiad y graig danddaearol o galchfaen.
Er mai am gyfnod byr y bu’r Bedyddwyr yn addoli yma mae’n amhosibl dirnad bod safle mor amlwg a ffrwd mor gryf wedi cael ei anwybyddu. Ni ellir diystyru’r ffaith i’r safle, efallai, gael ei ddefnyddio fel man aberthu a defodau crefyddau eraill.
Ni allwn ond dyfalu am y dyddiau a fu ond erbyn heddiw mae’r safle yn un distaw a phrydferth. Mae’n bosibl i rywun heini gyrraedd y safle ond fe all fod yn anodd i berson anabl mewn cadair olwyn oherwydd cyflwr y llwybr. Mae yno awyrgylch heddychlon a gellir teimlo’r parch a roddwyd i’r safle gan genedlaethau. Digon hawdd credu eich bod mewn lle cysegredig ar ddiwrnod distaw. Credwyd fod dŵr y ffrwd yn ddefnyddiol ar gyfer gwella anhwylder y llygaid ac mae rhai yn parhau i gyrchu yma i’r perwyl hwnnw.
Dadorchuddiwyd plac ar y safle ar y trydydd ar ddeg o Fehefin 1929 gan Lloyd George yn dwyn y geiriau:
To commemorate the foundation in this valley
of the first Baptist church in Wales 1649-60.
Gellir cyrraedd y safle trwy ddilyn y ffordd tua’r gorllewin o Abertawe ar hyd yr A4118 i Benrhyn Gŵyr. Ger pentref Parkmill gellir gweld tafarn y Gower Inn (lle da am fwyd!) ar y dde. Rhwng y dafarn a nant Ilston mae llwybr cyhoeddus sy’n arwain at y safle. Gellir cyrraedd y capel ar ôl pum munud o gerdded. Mae i’r dde o’r llwybr wedi i chi groesi ail bont droed ar y llwybr. Cyfeirnod OS y safle yw 543 894 ar fap 159 yng nghyfres Landranger.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 5 Nadolig 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf