LLANIDLOES
FFYNNON IDLOES, LLANIDLOES
(SN 9562 8470)
Ken Lloyd Gruffydd
Mae’r ffynnon sanctaidd hon wedi cael ei
chyfeirio ati fel un golledig ers dros ganrif bellach. Hyd y gwyddom ni
ysgrifennwyd dim amdani tan yr ymddangosodd ei henw gyntaf ar fap Ordnans 1890.
Yn ôl adroddiad diweddar gan y grŵp Prosiectau
Archaeoleg Cambrian nid yw’r ffynnon yn ymddangos ar fap degwn 1840.
Mae’n debyg mai gwybodaeth leol a drosglwyddwyd ar lafar gwlad a gadwodd yn
fyw leoliad y ffynnon. Mae’r hyn sydd gan S.Baring-Gould a J. Fisher yn Lives of the British Saints, Cyfrol III, tud. 291 o ddiddordeb mawr
i ni oherwydd dywedant am y sant: ‘ Mae’n
amlwg nad oedd wedi diflannu ers cyn cof ond yn ddigon pell yn ôl i’r awduron
ddefnyddio’r amser gorffennol wrth gyfeirio at y ffynnon a’i safle yn 1911.
Roedd Idloes Sant yn byw yn y seithfed
ganrif ac yn fab i un Gwyddnabi ap Llawfrodedd Farfog, a dywedir bod Santes
Meddwyd, Clogcaenog, Sir Ddinbych, yn ferch iddo. Does fawr ddim o wybodaeth am
un o’r ddau wedi goroesi ar wahan i’r ffaith mai Medi 6ed yw dydd gŵyl
Idloes a bod dydd gŵyl Meddwyd ar Awst 27ain.
Cafwyd cloddfa archeolegol ar safle’r ffynnon yn ystod 2006 er mwyn darganfod beth oedd yno, cyn i’r safle gael ei ddatblygu ac i dai gael eu codi ar y fan. Agorwyd cwys yn mesur deg medr wrth bum medr lle y credid bod olion y ffynnon ond ni lwyddwyd i ddod o hyd i bridd llaith heb sôn am darddiad . Yn ôl arbenigwyr, os yw ffynnon yn cael ei chau am ysbaid go hir – dros ganrif yn y cyswllt hwn- na ddisgwylir i’r dŵr ddod i’r wyneb eilwaith gan ei fod wedi darganfod man arall i gronni ac ymddangos ynddo. Mae’n bosib mai dyna ddigwyddodd i Ffynnon Idloes. Yr unig awgrym fod unrhyw beth wedi bodoli ar y safle oedd siâp hirgrwn o bridd golau ym mesur tua 6.5 medr o hyd ac o ddyfnder o 0.6 medr. Roedd haenen o gerrig gro yn y gwaelod. Nid oedd yna ddigon o dystiolaeth bendant mai dyma ‘r ffynnon. Roedd unrhyw gerrig a fu ar y safle yn y gorffennol wedi cael eu cario oddi yno. (Am fwy o fanylion gweler adroddiad Chris E. Smith yn Archeoleg yng Nghymru, rhif 46 (2006) tud. 227-8.) Tybed oes yna ysgrif Gymraeg yn rhywle yn ymwneud â’r ffynnon nad yw’r archeolegwyr yn gwybod amdani?
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf