Home Up

Plwyf Llanhiledd

Ffynnon Illtud

Ym mhlwyf Llanhiledd, heb fod ymhell o'r eglwys, roedd  Ffynnon Illtud neu Ffynnon Wen ar dir fferm Argoed, islaw Bryn Ithel. Deuai pobl yma ers talwm i olchi clwyfau llidiog. Cymaint oedd nifer yr ymwelwyr a ddeuai at y ffynnon nes i'r ffermwr flino arnynt yn tresmasu ar ei dir a dinistriodd y ffynnon. Erbyn hyn mae’r tarddiad wedi sychu oherwydd dod cloddio am lo brig yn yr ardal. Mae hanes y ffynnon hon yn nodweddiadol o lawer o ffynhonnau. Cyfuniad sy yma o dirfeddiannwr sy heb unrhyw gydymdeimlad â’r traddodiad o ymweld â ffynhonnau rhinweddol a diwydiant sy’n dinistrio tirwedd ac yn newid lefel y dŵr o dan y ddaear. Dyma pam fod angen cymdeithas fel Cymdeithas Ffynhonnau Cymru i dynnu sylw at eu pwysigrwydd a cheisio eu gwarchod.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up