Home Up

LLANGYNYDD (LLANGENNITH) 

 

DWY FFYNNON AR BENRHYN GŴYR

Dewi E. Lewis

 O fewn chwarter milltir i bentref Llangynydd (Llangennith) ar Benrhyn Gŵyr ceir dwy ffynnon. Saif y gyntaf ohonynt yng nghanol y pentref gyferbyn â'r eglwys. Enw'r ffynnon yma yw Ffynnon Llangynydd. Yma, yn ôl yr hanes, y daeth Cenydd Sant yn y chweched ganrif a sefydlu eglwys. Oherwydd y nam corfforol oedd arno pan oedd yn fabi, rhoddwyd Cenydd mewn cawell a'i daflu i afon Llwchwr. Yng nghanol storm chwythwyd y cawell i gyfeiriad Pen Pyrod (Worm's Head), lle achubwyd Cenydd, gan filoedd o wylanod, yn ôl yr hanes. Daeth carw i rhoi llaeth iddo ac fe'i magwyd felly. Pan oedd yn ddeunaw oed, derbyniodd gyfarwyddyd gan Dduw i adael Pen Pyrod am y tir mawr. Yn ôl yr hanes, yn ystod y daith i Langynydd tarddodd ffynnon o'r ddaear lle bynnag y gorffwysodd. Gan fod Cenydd yn gloff gorffwysai yn aml a dywedir bod pedair ar hugain o ffynhonnau ar y daith o Ben Pyrod i Langynydd. Tybed pa un oedd yma gyntaf yr eglwys neu'r ffynnon?

Ffynnon Llangynydd, Gŵyr.

Ffynnon syml ydyw hon, wedi ei hamgylchynu â gwaith cerrig gyda phibell fetel yn cyfeirio'r dŵr tua'r llawr. Ar un adeg roedd carreg ar ben y ffynnon gyda chroes gerfiedig arni, ond gyda threigl amser ac effaith y tywydd diflannodd y gwaith hwn. Yn ei gyfrol A History of West Gower 1877-94 dywed D.J. Davies fod y ffynnon wedi ei hamgylchynu gan gerrig mawr a bod capfaen drosti. Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg bu'n rhaid gosod y maen dros y ffynnon er mwyn diogelu'r cyflenwad rhag anifeiliaid. Mae merlod gwyllt yn gyffredin ar Benrhyn Gŵyr ac hawdd yw dychmygu'r anifeiliaid yn cyrchu at y cyflenwad hwn. I'r chwith o'r ffynnon ceir ffrwd arall o ddŵr sy'n cael ei chyfeirio gan bibell arall i mewn i faddon carreg. Wrth droed y ffynnon mae berw'r dŵr yn tyfu. O fewn y pum mlynedd diwethaf bu'n rhaid ailadeiladu'r gwaith cerrig o amgylch y ffynnon oherwydd i fodurwr esgeulus ddymchwel yr adeiladwaith wrth barcio'i gar. Yr un yw'r stori heddiw. Pan ymwelais â'r safle yn ddiweddar roedd rhywun wedi parcio fan ddwy droedfedd oddi wrth y ffynnon gan ei gwneud yn amhosibl i mi ei gweld. Ni ddeuthum ar draws unrhyw draddodiadau yn gysylltiedig â'r ffynnon ond heddiw defnyddir y dŵr ar gyfer yr holl fedyddiadau yn yr eglwys. Yn sicr, mae'n ffynnon sy'n werth ei diogelu a'i chadw i'r oesoedd a ddêl.

Ffynnon y Gigfran, Gŵyr.

 

Tua chwarter milltir i'r de o Ffynnon Llangynydd ceir ffynnon arall sef Ffynnon y Gigfran (Raven's Well). Nid yw Francis Jones yn cyfeirio ati yn ei lyfr The Holy Wells of Wales, ond yn ei gyfrol Historic Gower cyfeiria Paul Davies ati fel 'Holy Well'. Yn A History of West Gower 1877-94 mae'r awdur yn tybio bod cysylltiad agos rhwng y ffynnon a chyfnod y Llychlynwyr yn yr ardal ac mai dyma yw arwyddocad ei henw. Saif Ffynnon y Gigfran wrth droed Harding down sef safle sydd ag olion tair caer sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn arni. Felly mae posibilrwydd fod y ffynnon wedi bod yn safle bwysig ar un adeg, efallai am bod cyflenwad da o ddŵr ynddi. Yn anffodus, ymddengys mai fel man dinod yr ystyrir y safle heddiw. Pan ymwelais â't ffynnon flwyddyn yn ôl roedd ffrwd nerthol yn llifo ohoni a'r safle wedi ei hamgylchynu a gwaith cerrig a'r dŵr grisialaidd yn cronni mewn pwll. Ond nid dyna'r hanes heddiw. Mae'r safle wedi ei lenwi â phridd a'r gwaith cerrig wedi ei wasgaru. Mae'r ffrwd bellach yn tarddu yn is i lawr ond mewn llecyn sy'n llawer mwy lletwith i’w gyrraedd. Er bod y ffrwd yn un mor bwerus, teimlaf fod rhywfaint o urddas y safle wedi ei golli.

Dyna hanes dwy ffynnon ar Benrhyn Gŵyr, dwy a fu'n gyrchfan i bererinion ar u adeg ond prin yw'r parch a roddir iddynt nawr fel y dengys tystiolaeth ddiweddar. Erbyn heddiw, adeilad o'r enw y King's Head sy'n diwallu anghenion pererinion sychedig Llangynydd!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up