Home Up

LLANGYNLLO

(SN 352 442)

 

Annwyl Olygydd,

Rwyf wedi prynu copi o Ffynhonnau Cymru (Cyfrol 1) ac yno darllenais gyda diddordeb am Ffynnon Fair (SN 352 442) ym mhlwyf Llangynllo , Ceredigion. Cefais fy magu yn y plwyf ac rwyf yn gyfarwydd â fferm Ffynnon Fair ers dyddiau fy mhlentyndod. Ni wyddwn am fodolaeth y ffynnon nes imi ddechrau ymchwilio ar gyfer cyfrol am hanes y plwyf. Roedd un rheithor, y Parchedig T. H. Davies, wedi ymweld â’r ffynnon am fis i geisio cael gwellhad. Ar ymweliad ag adfeilion Llanfair Trefhelygen a fferm Ffynnon Fair yn ddiweddar ni lwyddais i ddod o hyd i unrhyw arwydd o’r ffynnon. Tybed a ellwch fy helpu i ddarganfod ei hunion leoliad?

Brian Whatmore, Gnossall, Lloegr.

(Diolch am eich llythyr diddorol. Mae mapiau degwm yn aml yn gallu dangos lleoliad ffynnon drwy nodi enwau’r caeau. Byddai cael cae â’r enw Cae Ffynnon Fair arno yn nodi lleoliad y ffynnon yn weddol sicr. Dyma sydd gan Francis Jones i’w ddweud am leoliad y ffynnon hon: ‘North of Llanfair  Treflygen where St Mary’r church is in ruins, on the north east of which is a tumulus: Tir ffynnon fair, 1684 – NLW Bronwydd Deeds: Tŷ’r ffynnon faer – Lhuyd, Parochalia, iii, 93: Ff. Vayre, 1734 and Ffynnonvair 1784 – NLW Cilgwyn Deeds.’ (Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16, Haf 2004

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up