LLANGYNHAFAL
TAITH O GWMPAS FFYNHONNAU SIR DDINBYCH
(A HEN SIR FEIRIONNYDD)
Eirlys Gruffydd
FFYNNON GYNHAFAL
FFYNNON GYNHAFAL
Ar gais Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych bu Ken a minnau’n arwain taith o gwmpas rhai o ffynhonnau’r sir ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Roedd yn ddiwrnod bendigedig a da oedd hynny gan fod gennym dipyn o waith cerdded a’r ffordd i ambell ffynnon yn ddigon llaith a llithrig, hyd yn oed wedi tywydd sych.
Cychwynnwyd o Ruthun a nodwyd
bod Ffynnon Bedr, oedd rhyw chwarter milltir o’r dref, mewn bri a pharch mawr
ar un adeg. Cariwyd dŵr ohoni i fedyddio yn yr eglwys. Erbyn 1886, fodd
bynnag, roedd wedi sychu ac aeth ei safle’n angof. Wedi gadael Rhuthun aeth y
bws â ni ar hyd y lonydd culion i Langynhafal ac i Blas Dolben ar odre Moel
Dywyll. Yno mae
Ffynnon Gynhafal (SH1363). Gadawyd y bws ar y ffordd fawr ychydig wedi mynd
heibio i’r groesffordd ar ganol y pentref a cherdded y chwarter milltir i fyny
at Blas Dolben a chael croeso cynnes gan Gareth a Iona Pierce. Daeth
Iona gyda ni i’r berllan a dangos lleoliad Ffynnon Gynhafal i ni.
Roedd Cynhafal yn byw yn y seithfed ganrif a dethlir ei ŵyl ar Hydref y pumed. Mae’r ffynnon yn un fawr, hirsgwar ac yn ddeunaw troedfedd wrth ddeg. Ar un adeg roedd yn faddon agored i’r awyr, yna codwyd to bwaog o frics drosti. Dros y blynyddoedd tyfodd glaswellt dros y to a bellach mae’r ffynnon yn ymestyn i mewn i ochr y bryn. Roedd ei dŵr yn enwog am wella defaid ar ddwylo a chrydcymalau yn ogystal â nifer o anhwylderau eraill. Rhaid oedd dilyn defod arbennig wrth geisio gwella dafaden, sef mynd at y ffynnon, trywanu’r ddafaden â phin, offrymu gweddi yn gofyn i Gynhafal Sant gael gwared â’r ddafaden ac yna taflu’r pin i’r ffynnon. Yn ddi-ffael byddai’r ddafaden yn diflannu. Bu pobl yn cyrchu at y ffynnon i’r union bwrpas hwn yn gymharol ddiweddar. Cariwyd dŵr o’r ffynnon i fedyddio yn yr eglwys.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf