Mae Eglwys Llangyfelach yn gyfarwydd iawn i lawer ohonoch
fel eglwys sydd â thŵr yn sefyll ar wahân i’r brif eglwys. Yn ôl
traddodiad dywedir fod y diafol wedi ceisio dwyn y tŵr ond ei fod wedi cael
ei ddal gan y ficer ac yn ei ddychryn a’i ofn wedi gollwng gafael ar y tŵr
a hwnnw wedi disgyn tua deugain llath i ffwrdd o’r eglwys! Yn ôl tystiolaeth
mae’n debyg i’r eglwys wreiddiol gael ei dymchwel mewn storm yn ystod cyfnod
y Rhyfeloedd Napoleanaidd a bod y plwyfolion wedi adeiladu eglwys newydd ar
safle ysgubor ddegwm. O ganlyniad i wahanu’r eglwys a’r tŵr arferai
gweithwyr tir yr ardal ganu’r triban
Mae Llangyfelach hynod
Yn ddigon hawdd ei nabod
Mae’r Eglwys draw, a’r clochdy fry.
Pa
bryd gwna rhain gyfarfod?
Jôc arall ar lawr gwlad oedd gofyn y cwestiwn ‘Pwy oedd
yr Ymneilltuwr cyntaf yng Nghymru?’ Yr ateb, wrth gwrs, oedd ‘Clochdy
Llangyfelach’. Ym mynwent yr eglwys ceir darn o groes garreg sydd yn
dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif. Yn 1913, tra’n cloddio y tu mewn
i’r eglwys, daethpwyd o hyd i garreg yn dwyn cerflun o groes a’r llythrennau
CRUX XPI arni, a thybir bod y garreg yn dyddio’n ôl i’r nawfed ganrif.
Nid yr eglwys na’r garreg hynafol a’m denodd i i
Langyfelach ond yn hytrach yr awydd i weld dwy ffynnon: Ffynnon Ddewi a Ffynnon
y Fil Feibion. Cyfeiriodd Francis Jones at y ddwy ffynnon yn The Holy Wells of Wales a’r ffaith bod ffair yn cael ei chynnal yn
Llangyfelach ar ddydd Gŵyl Dewi. Mae’n debyg i’r ffair fod mewn bri hyd
at 1895 a bod hyd at 30,000 o bobl yn heidio yno. Tybia rhai mai estyniad o
Ŵyl Mabsant oedd y ffair a bod pererinion lawer yn dod yno, nid yn unig i
yfed dŵr y ddwy ffynnon ac i weld y creiriau crefyddol, ond hefyd i brynu a
gwerthu nwyddau.
Yn ôl T.D. Llewelyn o Benlle’r-gaer:
It appears that the anniversary
of the dedication of Llangyfelach Church was kept for ages for two days every
year, on the first and second of march, and the people of the neighbourhood
around brought all kinds of things eatable in order to welcome their distant
friends. who would be coming from afar to the religious festival which was held
in the churchyard….The tombstones served as ‘standings’…all manner of
games were carried on there when the weather would be favourable. Some of the
young, athletic men would be ball-playing against the north wall of the church,
while others would be hop-skip-and-jump…
Yn ddiweddar deuthum ar draws cyfeiriad at y ddwy ffynnon
yn Historical Gower gan P. Davies. Yn
y llyfr cyfeiria at y ddwy ffynnon fel hyn:
There are two holy wells near the church, both
marked on the pathfinder O.S maps. Just off the road leading north from the
church is Ffynnon y Fil Feibion, once enclosed by four large slabs. but now only
one remains and the spring is densely overgrown. The other well dedicated to St.
David is in a marshy valley, south west of the church and although overgrown
still gives a plentiful supply of water.
Gwir ei eiriau! Deufis yn ôl mentrais i weld y dwy
ffynnon. Yr her gyntaf oedd cyrraedd Ffynnon
Ddewi. Gyda map O.S, camera a phâr
o sgidiau go handi, ymlwybrais drwy’r marshy
valley, weithiau hyd fy mhengliniau mewn mwd, nes o’r diwedd cyrraedd y
fan. Yng nghanol cors gwelir safle Ffynnon
Ddewi. Y cyfan sydd yno yw cerrig
crwn naturiol a digonedd o ddŵr! Mae’r ffrwd yn parhau’n gryf iawn nes
ei bod yn gorlifo dros y tir cyfagos i ffurfio cors. Gallwch ddychmygu faint o
ddŵr oedd yno o ganlyniad i law y misoedd diwethaf.
Mentro wedyn at Ffynnon y Fil
Feibion, sef y mil diniwed a
laddwyd gan y brenin Herod yn ôl yr hanes a geir yn y Testament Newydd. Roedd y
ffynnon yma yn cael ei nodi, fel petai, gan garreg fawr ond roedd tyfiant
toreithiog o’i chwmpas a braidd yn amhosibl gweld y dŵr ynddi. Er
gwaethaf yr holl stryffaglu drwy’r mwd roeddwn yn falch fy mod wedi gweld y
ddwy ffynnon yn Llangyfelach.
Diolch i Dewi am ei frwdfrydedd a;i barodrwydd i fynd i
chwilio am ffynhonnau yn ei ardal. Byddai’n beth braf gweld aelodai eraill yn
dilyn ei esiampl. Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Llangyfelach i ofyn iddynt
ystyried adnewyddu’r ddwy ffynnon fel ffordd o ddathlu’r mileniwm. (Gol.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf