LLANGYBI
SIR ABERTEIFI
FFYNNON GYBI
(SN605528)
LLONGYFARCHIADAU i Gyngor Cymuned Llangybi, Ceredigion, am warchod Ffynnon Cybi dros y ffordd i gapel Maesyffynnon. Maent wedi cytuno i osod arwydd yn dangos lle mae'r ffynnon ac mae Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi addo rhoi braslun o hanes y ffynnon yn ddwyieithog iddynt fedru ei arddangos mewn man cyfleus. Mae hon yn hen ffynnon ac fe'i galwyd hefyd yn Ffynnon Wen. Byddai'r dŵr yn arbennig o dda at wella'r cryd cymalau. Wedi ymolchi yn y ffynnon arferai'r claf gerdded at gromlech gyfagos a chysgu noson o dan y cerrig. Pe deuai cwsg deuai gwellhad. Roedd pobl yn byw yn yr ardal ddechrau'r ganrif a gofiai'r arferiad a'r gromlech ar Bryn Llech cyn iddi gael ei chwalu. Arferai llawer o'r pererinion ar eu ffordd i dderbyn cymun gan Daniel Rowlands yn Llangeitho aros ger y ffynnon i dorri eu syched ac i orffwyso. Oes, mae bendith i'w chael ger y dyfroedd tawel.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 1 Nadolig 1996
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
LLONGYFARCHIADAU i Gyngor Cymuned Llangybi, Ceredigion, am osod arwydd i ddangos lleoliad Ffynnon Gybi yn y pentref.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Mae’r Gymdeithas wedi danfon gwybodaeth am hanes y ffynnon i’r Cyngor Cymuned yn y gobaith y gellir ei arddangos gerllaw’r iddi.
Ffynnon Gybi, Llangybi
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
(Addaswyd y
detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe,
eto drwy caniatâd caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)
Saif pentref
Llangybi ar y ffordd sydd yn arwain o Dregaron i Lanbedr Pont Steffan. Enw'r
ffynnon gerllaw'r pentref oedd Ffynnon
Wen neu Ffynnon
Gybi a dywedid bod iddi hithau allu meddyginiaethol. Arferai carreg
enfawr fod o fewn chwarter milltir i'r fan a gelwid hon yn Llech Cybi. Credai
rhai a ddeuai i yfed o'r dŵr fod yn rhaid cyffwrdd â'r llechen hefyd cyn cael
llwyr iachâd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg
i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a
Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar
eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau
wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un
ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu
cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.
Roedd y tywydd yn braf a heulog drannoeth wrth inni adael Llandybie a Llandeilo a throi i gyfeiriad Llanbedr-Pont-Steffan ac oddi yno i Langybi yng Ngheredigion. Yno mae Ffynnon Gybi (SN605528) ar draws y ffordd i capel Maes y Ffynnon lle y priodwyd Ken a minnau flynyddoedd maith yn ol erbyn hyn. Mae’r gymuned wedi gwarchod y ffynnon ac mae arwydd yn arwain tuag ati. Rhoddwyd grisiau a chanllaw i alluogi ymwelwyr i fynd at y ffynnon a diddorol oedd gweld fod arian wedi ei daflu i’r dwr yn ddiweddar. Dyma arwydd fod ffynnon gysegredig yn troi i fod yn ffynnon ofuned yn ein dyddiau ni. Yn ol Edward Lhuyd roedd cleifion yn dod i ymolchi yn nwr y ffynnon i geisio cael gwellhad i lygaid poenus ac i anhwylderau’r esgyrn ac yna’n mynd a threulio’r noson o dan gromlech a elwid yn Llech Cybi. Pe baent yn llwyddo i gysgu yna byddent yn gwella. Dinistriwyd y gromlech ar ddechrau’r ugeinfed ganrif a chodwyd ein cartref ni ar Bryn Llech. Yn y ddeunawfed ganrif byddai pererinion ar eu ffordd i Langeithio i wrando ar Daniel Rowland yn pregethu yn arfer gorffwyso ger y ffynnon ac yfed o’i dwr i dorri eu syched. Braint oedd cael ymweld a’r hen ffynnon unwaith yn rhagor.
Michael yn esgyn o’r ffynnon.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
CYNHADLEDD
I'W CHOFIO
Yn y sgwrs nesaf cafwyd disgrifiad diddorol o’r gwasanaethau a gynhelir gan yr Eglwys Uniongred Roegaidd ger Ffynnon Gybi yn Llangybi, Ceredigion,(SN 605528), rhyw bedair milltir o dref Llanbedr Pont Steffan, lle mae cymuned o gredinwyr Uniongred. Pwysleisiodd y Tad Timothy Pearce bwysigrwydd dŵr yn addoliad yr eglwys Uniongred a dywedodd iddynt fabwysiadu Ffynnon Gybi fel eu man arbennig hwy. Mae gan y ffynnon hon draddodiad o fod yn ffynnon rinweddol a sanctaidd gyda’r gallu i wella. Wrth ymadael â’r ardal galwyd heibio i’r ffynnon a chodi potelaid o ddŵr ohoni. Tymheredd yr awyr yn ôl thermomedr y car oedd pymtheg gradd. Roedd dŵr y ffynnon mor oer nes bod anwedd ar y tu allan i’r botel blastig - prawf o ba mor oer oedd y dŵr oedd yn dod o grombil y ddaear.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf