LLANGYBI
SIR FYNWY
FFYNNON GYBI
(ST374967)
gan Eirlys Gruffydd
Flynyddoedd
yn ôl, y tro diwethaf y bu’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd, aethom
fel teulu i ymweld â nifer o ffynhonnau’r fro. Eleni gobeithiwn fedru gwneud
rhywbeth tebyg gan ei bod yn hen bryd bellach i’r drydedd gyfrol yn y gyfres Ffynhonnau
Cymru – Ffynhonnau’r De ymddangos. Dyma hanes rhai o ffynhonnau’r fro
a’r traddodiadau sy’n perthyn iddynt.
Mae
yna dri lle o’r enw Llangybi yng Nghymru: yng Ngwynedd (SH4241), yng
Ngheredigion (SN6053) ac yng Ngwent (ST3796) ac mae ffynnon wedi ei chysegru
i’r sant yn y tri lle. Mae hanesion am
Cybi Sant a ffynhonnau sy’n gysygredig iddo ym Môn hefyd. Gellir dod o hyd i
Langybi (Gwent) wrth ddilyn y ffordd B4596 am dair milltir i’r de o Frunbuga.
Mae’r ffynnon yno gerllaw’r eglwys ac mae pwmp o’i blaen. Gall fod yn
anodd i’w darganfod gan fod tyfiant drosti ac mae’n edrych fel rhan o’r
clawdd wrthi i chi gerdded i lawr y ffordd gyda mur deheuol y fynwent. O edrych
arni’n fanwl gwelir bod gwaith cerrig cywrain iddi a’i bod ar ffurf bwa. Hyd
y gwyddom nid oes hanes na thraddodiadau am y ffynnon hon wedi goroesi ond
mae’n debygol iawn mai ohoni hi y ceid dŵr i fedyddio yn yr eglwys a’i
bod hefyd wedi diwallu angen y pentrefwyr am ddŵr ar un adeg gan fod pwmp
wedi ei osod yn ei hymyl.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 16 Haf 2004
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc