Home Up

  LLANGYBI, EIFIONYDD

 

FFYNNON GYBI

(SN 427412)

 

 

PYTIAU DIFYR

Diolci i Twm Elias am dynnu ein sylw at y darn yma ar dudalen 117 o lyfr Francis H. Glazebrook, Anglesey and the North Wales Coast a gyhoeddwyd yn 1964:

Smugglers. a certain amount of smuggling was done at Porth Dinllaen in the 18th century, and parties of smugglers would set out from quite distant villages to meet cargoes of spirits and other contraband landed in the bay. One such party was returning home with a number of casks containing spirits when they were stopped by the excise officer. On being questioned they replied that the casks contained water from Saint Cybi’s Well and that they were on their way to the consignee. So common was the practice in those times for people to carry the health-giving waters of the well to their homes that no suspicion appears to have been roused and the party was allowed to proceed on its way.

Mae’r darn difyr yma yn rhoi darlun clir i ni o bwysigrwydd ffynnon fel Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd, i bobl yr ardal yn y gorffennol. Diolch i ddyfeisgarwch y smyglwyr cadwyd y cofnod diddorol hwn, i ni gael ei werthfawrogi heddiw.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 7 Nadolig 1999

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFILMIO’R FFYNHONNAU  

 Eirlys Gruffydd

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

Ar ol ddilyn y ffordd i Bwllheli am rhai milltiroedd rhaid oedd troi oddi arni a dilyn yr arwyddion at  Ffynnon Gybi, (SH428414) Llangybi. Y peth cyntaf sy’n taro rhywun wrth gerdded at y fynnon yw adfeilion yr adeilad a godwyd dros faddon y ffynnon a’r hyn sy’n weddill o dy ceidwad y ffynnon. Mae maint y cerrig a ddefnyddiwyd yn syfrdanol. Bu cymaint yn ymweld a’r ffynnon hon i geisio iachad nes y codwyd ty bach pwrpasol iddynt a’r dwr o’r gofer yn llifo drwyddo heb fod ym mhell iawn o’r ffynnon. Mae llygad y ffynnon y tu ol i’r adeilad a grisiau’n disgyn at y dwr. Yn y fan yma yr yfid y dwr i geisio cael gwellhad ac oddi yma y cariwyd galwyni ohono i gleifion drwy siroedd y gogledd a thu hwnt. Credid bod y dwr yn llesol at wella golwg gwan a defaid ar y dwylo. Llifa’r  dwr  o  lygad  y  ffynnon  drwy  agen  yn  y  mur  i mewn  i  faddon sgwar  o faint sylweddol ac ynddo byddai pobl a ddioddefai o grydcymalau a chloffni yn gorwedd yn yr ymgais i gael gwellhad.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Cyfeiriadau at FFYNHONNAU yn y cylchgrawn CYMRU

(Casglwyd gan Ken Lloyd Gruffydd. Cadwyd at y sillafu gwreiddiol)

Yng Ngwlad Eben Fardd CYMRU, IV (1893), tudalen 215:

  Yno wrth fin y coed sydd ar y llethr y mae Ffynnon Gybi. Ffynnon loyw’n codi o’r ddaear ydyw, a mur crwn o’i hamgylch, a sedd garreg o gylch y ffynnon y tu mewn i’r mur. Yn ymyl y tŷ – a’i do erbyn hyn wedi syrthio iddo, – lle y preswyliai ceidwad y ffynnon. Y mae’r lle’n unig ac adfeiliedig, ac ni welir un pererin pryderus yn cyrchu ato mwyach i holi am iechyd neu swyn.

LLYGAD Y FFYNNON  RHIF 18, HAF 2005

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Yn rhifyn 18 o Llygad y Ffynnon gofynnwyd am wybodaeth am ffynhonnau lle mae’r dŵr yn dal i gael ei ddefnyddio i fedyddio babanod. Daeth ymateb gan Gwen Evans, Rhuthun. Defnyddiwyd dŵr Ffynnon Gybi, Llangybi, Eifionydd mewn bedydd yn ystod yr haf. Ar Orffennaf 10fed yng Nghapel Moreia, Llanystumdwy, bedyddiwyd Dyddgu Mari Morys a chanwyd emyn o waith ei thad, y Prifardd Twm Morys. Diolch am gael ei ganiatâd i gyhoeddi’r emyn yn Llygad y Ffynnon.

Ffynnon Gybi, Eifionydd

Yng nghysgod Garn Bentyrch ym mhlwyf Llangybi mae Ffynnon Gybi. Yno yng nghanol coed derw, a’r mynydd yn gwmpeini, y cododd Cybi Sant ei gell, fileniwm a hanner yn ôl. A dŵr o’i ffynnon o ydi dŵr y bedydd yn y gwasanaeth yma.

FFYNNON GYBI

ar y dôn Lausanne

Bûm yn eistedd wrth y Ffynnon

 Ac yn syllu i’r dŵr glân,

Ac yn meddwl am Greawdwr

 Derw mawr ac adar mân.

 

Gwrando twrw bach y Ffynnon

 A fu’n torri syched sant:

Tybio weithiau imi glywed

 Yn ei bwrlwm chwerthin plant.

 

Megis sŵn y dail yn tyfu,

 Megis sŵn adenydd bach,

Megis sŵn traed mân yn cerdded,

 Felly sŵn y Ffynnon iach.

 

Dyma ddafn o ddŵr y Ffynnon

 Ar dy dalcen di yn Groes:

Boed Creawdwr coed ac adar

 Gyda thi ar hyd dy oes.

LLYGAD Y FFYNNON RHIF 19 NADOLIG 2005 

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Rhan o'r PYTIAU DIFYR

Ffynnon Cybi.( SH 42744126)

Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.

(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol.

FFYNNON-DDEWINIATH

‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.

Dweud ansawdd calon cariadau y merched oedd gwaith Ffynnon Cybi.(SH 42744126) Pan y byddai merched yn yr hen amser mewn pryder mawr yn nghylch cywirdeb eu cariadau, ac eisiau gwybod amdanynt pa un a wnaent ai priodi ai peidio, dywedai Ffynnon Cybi wrthynt yn lled fuan. Byddai raid i’r ferch fyned at y ffynnon, a thaenu ei chadach poced yn berffaith gywir dros wyneb y ffynnon; ac i ba gongl bynnag o’r ffynnon y gweithiai tarddiad y ffynnon y cadach, yn ôl hynny y byddai'r dynged i fod. Os i gongl y De y gweithiau y cadach, byddai pob peth yn dda; ond os i gongl y Gogledd y gweithiau hi, yn y gwrthwyneb y byddai pethau i fod. Beth bynnag a ddywedai y ffynnon ai y ferch adref ac ymddygai at ei chariad yn ôl y dystiolaeth a dderbyniasai. Peth naturiol, ar ôl i’r ferch dderbyn rhywbeth fel hyn i’w mynwes, oedd iddo ddyfod allan trwy ei hwyneb a’i thafod ac felly ddylanwadu ar feddwl y llanc.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR

YNG NGWLAD EBEN FARDD

allan o CYMRU Cyfrol IV Ebrill 15fed 1833 tud. 215

Cychwynasom o bentref Llangybi (SH 4241) drwy’r fynwent at droed y Garn. Yno ar fin y coed sydd ar y llethr, y mae Ffynnon Gybi. Ffynnon loyw’n codi o’r ddaear ydyw, a mur crwn o’i hamgylch, a sedd garreg o gylch y ffynnon y tu mewn i’r mur. Yn ymyl y mae tŷ, - a’i do erbyn hyn wedi syrthio iddo – lle y preswyliai ceidwad y ffynnon. Y mae’r lle’n unig ac adfeiliedig, ac ni welir un pererin pryderus yn cyrchu ato mwyach i holi am iechyd neu swyn.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Crybwyllir Ffynnon Gybi, mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Linc 30 Haf 2011

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up