Home Up

LLANGWYRYFON

 

FFYNHONNAU CEREDIGION 
 
(Addaswyd y detholiad canlynol o gyfrol Mary Jones, Ddoe, eto drwy caniatād caredig y cyhoeddwr, Gwasg Gomer, Llandysul.)

FFYNNON Y PERERINION

Ffynnon nodedig arall oedd Ffynnon y Pererinion yn agos i bentref Llangwyryfon. Bu adeg pan gyrchai pobl o bob cwr o Gymru i Langeitho i addoli ac i wrando ar y diwygiwr, Daniel Rowlands, yn pregethu. Cyrchai pobl sir Gaernarfon a gogledd Cymru yno bob yn eilfis oherwydd y pellter. Os byddai'r hin yn ffafriol hurient gwch o Aberdyfi i Aberystwyth a chychwynnent ar ddydd Gwener er mwyn cyrraedd pen eu taith erbyn y Sul. Os mai cerdded pob cam a wnaent cychwynnent ar ddydd Iau, ac yr oedd cytundeb rhyngddynt ag eraill i gyfarfod am naw fore Sadwrn wrth ffynnon gerllaw Llangwyryfon. Dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon y Pererinion. Wedi bwyta tocyn o fara a chaws ac yfed o ddŵr y ffynnon ā'i dau neu dri i weddi cyn ailgychwyn i Langeitho. Canent emynau ar eu pererindod ac roedd gwledd arall yn eu haros wedi cyrraedd pen y daith.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12  Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up