LLANGWM
FFYNNON
WNNOD
Derbyniodd y
Gymdeithas lythyr wrth un o’n haelodau, Howard Huws, Bangor, yn holi am gyflwr
Ffynnon Wnnod, Llangwm. Roedd yn ysgrifennu ar gais Patrick Radley a fu’n byw
yn Melysfan, Llangwm am dros ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma bu iddo
ail-ddarganfod ac adfer y ffynnon sanctaidd leol a chyhoeddodd adroddiad o’i
waith yn rhifyn gwanwyn 1986 o’r cylchgrawn Clwyd Historian. Dyma fraslun
o’r hyn oedd yn yr erthygl honno:
Yn ol Parochialia
Edward Lhuyd roedd y ffynnon rhyw chwarter milltir o’r eglwys a dywed Francis
Jones yn The Holy Wells of Wales mai’r enw ar y ffynnon yw Fron Fach Spring
ac mae ger Melysfan. Yn wreiddiol, cysegrwyd eglwys Llangwm i’r seintiau
Celtaidd Gwnnod (neu Gwynog) a Noethan, meibion Gildas, ond nawr mae wedi ei
chysegru i Sant Jerome. Bu archwilwyr y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yn edrych
ar y ffynnon yn 1912 a’r adeg honno roedd y dŵ yn llifo’n gryf ond nad
oedd y ffynnon wedi ei gwarchod gan ddim ond ychydig o gerrig. Yn fuan wedyn
defnyddiwyd dŵr y ffynnon i ddiwallu anghenion y trigolion yr ardal drwy ei
beipio i’r tai. Er mwyn cadw’r cyflenwad yn bur rhoddwyd caead dros y
ffynnon ac anghofiwyd amdani.
Yn 1082 aeth
perchennog Melysfan ati i chwilio am ddŵr ar ei dir a daethpwyd o hyd i’r
ffynnon. Roedd tua wyth troedfedd o dan y ddaear ac wedi ei thoi â gwaith
cerrig digon amrwd. Ffynnon gron oedd hi ac roedd y caead pren arni wedi ei
addurno â chroes geltaidd ac enw’r ffynnon. Doedd neb yn yr ardal yn cofio
enw gwreiddiol y ffynnon ond cyfeirid ati fel ffynnon Fron Bach gan mai ar dir y
tyddyn hwnnw yr ydoedd. Roedd y tyddyn ei hun wedi ei ddymchwel yn 1881. Ffynnon
Wnnod oedd ffynnon sanctaidd y pentref yn nyddiau Edward Lhuyd ac roedd capel
wedi ei gysegru i’r sant ar safle’r felin.
Patrick
Radley a’r caead ar Ffynnon Wnnod.
Bu’r
ffynnon yn cyflenwi Melysfan â dŵr yfed ond ers ymadawiad Patrick Radley
mae gan y trigolion presennol gyflenwad arall o ddŵr ac nid yw’n
ymddangos fod ganddynt hwy na neb arall ddiddordeb yn y ffynnon. Ei bryder mawr
yw y bydd y ffynnon yn cael ei hesgeuluso eto a’r safle’n cael ei anghofio.
Er mwyn cael gwybodaeth gyfredol am gyflwr y ffynnon cysylltodd y Gymdeithas â
Chyngor Cymuned Llangwm. Cewch wybod beth fydd yr ymateb yn y rhifyn nesaf.
LLYGAD
Y FFYNNON Rhif 3. Nadolig 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc