Home Up

LLANGWM

 

FFYNNON WNNOD

Derbyniodd y Gymdeithas lythyr wrth un o’n haelodau, Howard Huws, Bangor, yn holi am gyflwr Ffynnon Wnnod, Llangwm. Roedd yn ysgrifennu ar gais Patrick Radley a fu’n byw yn Melysfan, Llangwm am dros ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma bu iddo ail-ddarganfod ac adfer y ffynnon sanctaidd leol a chyhoeddodd adroddiad o’i waith yn rhifyn gwanwyn 1986 o’r cylchgrawn Clwyd Historian. Dyma fraslun o’r hyn oedd yn yr erthygl honno:

Yn ol Parochialia Edward Lhuyd roedd y ffynnon rhyw chwarter milltir o’r eglwys a dywed Francis Jones yn The Holy Wells of Wales mai’r enw ar y ffynnon yw Fron Fach Spring ac mae ger Melysfan. Yn wreiddiol, cysegrwyd eglwys Llangwm i’r seintiau Celtaidd Gwnnod (neu Gwynog) a Noethan, meibion Gildas, ond nawr mae wedi ei chysegru i Sant Jerome. Bu archwilwyr y Comisiwn Brenhinol ar Henebion yn edrych ar y ffynnon yn 1912 a’r adeg honno roedd y dŵ yn llifo’n gryf ond nad oedd y ffynnon wedi ei gwarchod gan ddim ond ychydig o gerrig. Yn fuan wedyn defnyddiwyd dŵr y ffynnon i ddiwallu anghenion y trigolion yr ardal drwy ei beipio i’r tai. Er mwyn cadw’r cyflenwad yn bur rhoddwyd caead dros y ffynnon ac anghofiwyd amdani.

Yn 1082 aeth perchennog Melysfan ati i chwilio am ddŵr ar ei dir a daethpwyd o hyd i’r ffynnon. Roedd tua wyth troedfedd o dan y ddaear ac wedi ei thoi â gwaith cerrig digon amrwd. Ffynnon gron oedd hi ac roedd y caead pren arni wedi ei addurno â chroes geltaidd ac enw’r ffynnon. Doedd neb yn yr ardal yn cofio enw gwreiddiol y ffynnon ond cyfeirid ati fel ffynnon Fron Bach gan mai ar dir y tyddyn hwnnw yr ydoedd. Roedd y tyddyn ei hun wedi ei ddymchwel yn 1881. Ffynnon Wnnod oedd ffynnon sanctaidd y pentref yn nyddiau Edward Lhuyd ac roedd capel wedi ei gysegru i’r sant ar safle’r felin.

 

Patrick Radley a’r caead ar Ffynnon Wnnod.

 

Bu’r ffynnon yn cyflenwi Melysfan â dŵr yfed ond ers ymadawiad Patrick Radley mae gan y trigolion presennol gyflenwad arall o ddŵr ac nid yw’n ymddangos fod ganddynt hwy na neb arall ddiddordeb yn y ffynnon. Ei bryder mawr yw y bydd y ffynnon yn cael ei hesgeuluso eto a’r safle’n cael ei anghofio. Er mwyn cael gwybodaeth gyfredol am gyflwr y ffynnon cysylltodd y Gymdeithas â Chyngor Cymuned Llangwm. Cewch wybod beth fydd yr ymateb yn y rhifyn nesaf.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

YMATEB Y CYNGHORAU CYMUNED 

LLANGWM: Mae Ffynnon Wnnod mewn cyflwr da ac mae ffens o’i chwmpas a giat i fynd ati.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up