LLANGEITHIO
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
COFIANT Y PARCH. DANIEL ROWLAND
gan Y Parch D. Worthington(1905)
tud.51(Cadwyd y sillafu gwreiddiol) (SN 6259)
Byddai yn fynych yng nghynulliadau a chymmundebau Llangeitho bobl o wahanol barthau o Gymru ar yr un pryd. Adroddir am y cannoedd pererinion hyn, y byddent yn cyfarfod wrth Ffynnongeitho, rhyw filltir o Langeitho: hon oedd yr orsaf olaf cyn iddynt gyrhaedd pen y daith. Gelwid y ffynnon gynt yn Ffynnon y Pererinion, Ffynnon y Cymmundeb, a Ffynnon y Saint. Ac wrth y ffynnon hon y byddent yn gorphwys ennyd tra yn cymeryd ychydig luniaeth, ac yn talu diolch am dano i Dad y trugareddau. Ac wrth gychwyn i fyny i olwg Dyffryn Aeron, byddent yn canu emynau... a byddai eu sŵn nefolaidd yn disgyn ar glust Rowland pan yn rhodio yn araf ar lan afon Aeron oedd yn ymdroellu tua’r môr o flaen y rheithordy.“Wel dyma nhw yn d’od â’r nefoedd gyda hwy,” meddai.LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc