LLANGEFNI
FFYNNON CYNGAR
Ysgrifennwyd at Gyngor Cymuned Llangefni i ofyn iddynt edrych ar Ffynnon Cyngar. Cysegrwyd yr eglwys yn Llangefni i Sant Cyngar.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON CYNGAR
Derbyniwyd llythyr gan Glerc Cyngor Tref Llangefni ym mis Mehefin. Roedd wedi bod yn llythyru gyda’r Awdurdodau Eglwysig ac Awdurdodau Lleol. Dywedodd yr Awdurdodau Eglwysig nad hwy oedd yn gyfrifol am y ffynnon gan mai eiddo Cyngor Ynys Môn yw’r holl dir o’i hamgylch. Gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni haf nesaf, hwyrach y gallwn ddwyn pwysau ar y Cyngor i’w hadfer erbyn hynny.
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON CYNGAR
Derbyniwyd llythyr gan Gyngor Tref Llangefni yn ein hysbysu mai Cyngor Sir Môn yw perchnogion y ffynnon. Cynigiodd cangen Llangefni o Sefydliad y Merched fynd ati i lanhau’r ffynnon. Cynhaliwyd cyfarfod i drafod y cynlluniau ar gyfer y ffynnon ac aeth cynrychiolaeth o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru yno a da gennym ddweud fod brwdfrydedd y merched yn heintus. Roedd hefyd bosibilrwydd y byddai gan Gyngor Môn ddiddordeb mewn ffynhonnau eraill ar yr ynys. Mae hwn yn ddatblygiad pwysig iawn.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON CYNGAR
Mae cangen Llangefni o Sefydliad y Merched wedi mabwysiadu adfer y ffynnon fel rhan o'i gweithgarwch i ddathlu'r milflwyddiant. Fel gyda phob ffynnon, mae'r broses o adfer yn un hir ac mae angen llawer o amynedd a dyfalbarhad i gwblhau'r gwaith. Mae'r ffynnon ychydig islaw'r eglwys, mewn man coediog ar lan afon Cefni mewn ardal a elwir y Dingle. Warden y Dingle yw Gareth Evans ac mae Doris Thomas, ysgrifennydd y gangen, wedi bod yn cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd yno. Bellach mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynnwys y ffynnon mewn cynllun i wella'r Dingle a Nant y Pandy, ac mae arian wedi ei glustnodi ar gyfer y gwaith o adfer Ffynnon Gyngar. Mae'r merched yn gobeithio y bydd y gwaith wedi ei gwblhau cyn y Nadolig. Bwriedir gosod plac ar y ffynnon i nodi mai Cangen Llangefni o Sefydliad y Merched a fu'n gyfrifol am ei hadfer ac edrychwn ymlaen at weld yr hanes yn ein rhifyn nesaf.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 9 Nadolig 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON CYNGAR
Mae'r gwaith o adfer Ffynnon Cyngar wedi ei gwbwlhau a threfnwyd gwasanaeth ger y ffynnon i'w hailgysegru. Derbyniodd y gymdeithas wahoddiad i fod yn bresennol yn y cyfarfod ym mis Mawrth ond fe'i ohirwyd oherwydd clwy'r traed a'r genau. Mae Warden Ynys Môn, Gareth Evans, wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i adfer y ffynnon yn ôl Doris Thomas, ysgrifennydd cangen Llangefni o Sefydliad Merched a fu'n gyfrifol am y syniad o adfer y ffynnon fel prosiect dathlu'r milflwyddiant.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNNON CYNGAR
Gorffennwyd y gwaith o adfer y ffynnon ac fe'i hail gysegrwyd. Addurnwyd y ffynnon mewn dull tebyg i'r hyn a wneir yn Swydd Darby drwy wasgu petalau i mewn i ffram o glai ac amlinelliad o lun y sant arno. Mae'r ffynnon gerllaw'r eglwys lle mae'r llwybr yn arwain i lawr drwy'r coed i gyfeiriad yr afon. Ewch yno i'w gweld os cewch gyfle. Dyma enghraifft o beth all un gangen o Sefydliad y Merched gyflawni gyda dyfalbarhad a chymorth crefftwyr lleol.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc