Yn ardal Dyffryn Banw, sir Drefaldwyn ers talwm roedd gan
bob tyddyn a ffarm ei bistyll neu ffynnon ei hun. Ni fu fy rhieni erioed yn byw
mewn unrhyw le nad oedd ffynnon ddofn i’w cynnal a dŵr glan gloyw. Dros y
blynyddoedd mi datblygodd y ffynnon i bwmp llaw ac wedyn i beiriant trydan i
gael dŵr i’r tŷ.
Nid oes enwau ar y ffynhonnau a chant eu henwi ar ôl
enwau’r tai. Mae fy nheulu wedi profi dŵr ffynhonnau yn Caerbwlabach,
Penycreigiau, Tynyreithin, Lletybach, Groeslau, ac heddiw yn y TALWRN – i gyd
yn Llangadfan.
Cofiaf ffynnon Lletybach yn dda. Roedd mewn lle annwyl ac
anial yn wynebu’r Pencoed. Roedd y ffynnon rhyw hanner can llath o’r tŷ
a’r dŵr a ddeuai ohoni yn oer iawn ac yn ddisglair loyw bob amser. Bu fy
chwaer a minnau yn gwario oriau lawer uwchben y ffynnon ar nosweithiau o hafau
braf gan wylio rhyw wybed odiaeth yn symud uwchben y dŵr. Gelwid y gwybed
gan Nain yn Cychwr y Ffynnon neu Meirch y Ffynnon, a’r gred oedd bod y dŵr
yn bur iawn os oedd gwybed yno. (Boatmen
oedd y gair Saesneg amdanynt.) Cofiaf hefyd fod pryfed cop bychain yn glynu wrth
y graig ar ochrau’r ffynnon, eto yn arwydd o burdeb y dŵr.
Nid oedd angen caead ar y ffynnon hon na ffens o’i
chwmpas, dim ond lechen neu ddwy i fynd at y dŵr i’w godi. Roeddem fel
teulu yn falch iawn o’r hen ffynnon a hithau ohonom ninnau, gan i ni edrych ai
hôl mor ofalus ar hyn y blynyddoedd. Erbyn heddiw mae’r hen ffynnon wedi mynd
â’i phen iddi mewn baw a blerwch gan mai dieithriaid sydd bellach yn byw yn
Lletybach, a phrin yw’r gobaith y caiff ei hachub!
Diolch i Mai am yr atgofion hyn. Tybed a oes eraill o aelodau’r gymdeithas yn cofio am ffynhonnau a gau eu defnyddio pan oeddent hwy yn blant? Os oes, da chi – anfonwch air. Does neb a fu’n gwbl ddibynnol ar ffynnon i gael dŵr yfed byth yn anghofio’r profiad. Rwy’n dal i gofio melysder y dŵr. (Gol.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 4 Haf 1998
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Mae Jill Turner, Nigel Wallace, Paul Wigmore a minnau wedi penderfynu ar y daith yn ardal y Foel a Llangadfan, ac unwaith y bydd Nigel wedi cael gair gyda’r tirfeddianwyr byddwn yn mynd ati i ysgrifennu manylion y daith ar gyfer pamffledyn Menter Maldwyn fydd yn ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol 2003. Yn fras bydd fel a ganlyn: Parcio ym maes parcio’r Foel, cerdded ychydig lathenni ar hyd y ffordd fawr cyn troi i’r dde ac heibio i’r Hen Ficerdy a dringo rhiw eithaf serth tuag at eglwys Garthbeibio ar y bryn. Wrth fynedfa lôn gul i'r dde cyn cyrraedd yr eglwys mae FFYNNON DDU yn y gwrych ar y chwith. Mae’r dŵr yn llifo i ddraen ar ochr y ffordd. (Bu hen gawg cerrig yno ar un adeg i ddal y dŵr o’r pistyll ond fe’i symudwyd gan Gyngor Sir Powys am fod y dŵr yn tasgu i’r ffordd). Rhaid dal i ddringo i fyny gweddill yr allt at yr eglwys ac ar draws cae ar hyd llwybr cyhoeddus at FFYNNON TYDECHO. Roedd y tir yn lleidiog iawn pan fuom ni yno a hyn yn ei gwneud yn anodd closio at y ffynnon. Cawsom fod FFYNNON RHIGOS wedi diflannu. (Os am awgrymu lle i oedi am baned byddai'n bosib trefnu 'mlaen llaw gyd chaffi Dyffryn. Yna cerdded ymlaen o'r ffynnon trwy lidiart a heibio i'r tŷ ar y dde i lawr at y briffordd, yna ychydig lathenni ar hyd y ffordd fawr at y caffi.)
Nia Rhosier, Pontrobert, Meifod.
Diolch o galon i Nia am ei gwaith. Mae'n enghraifft wych o beth ellir ei wneud pan fo gan bobl ddiddordeb yn ffynhonnau eu hardal a'r ewyllys i'w diogelu. (Gol.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rwyf wedi bod yn gwneud tipyn o holi ynglyn â Ffynnon Gadfan, Llangadfan. Roeddwn wedi sylwi ers tro bod y ffynnon yn mynd a'i phen iddi ac yn enwedig ers i ŵr o'r enw John Foxley farw rai blynyddoedd yn ôl. John wnaeth atgyweirio'r hen ffynnon gan ysgrifennu amdani yn y ddwy iaith ar lechen enfawr a thrwm. Diflannodd y cyfan sbel yn ôl. Gofynnais amdani i Harri Foxley, ewythr John, a chefais fwy o synnwyr fo na ches i gan neb arall yn y fro. Fel rwy'n deall mae pobl yr eglwys wedi ymddiddori'n fawr yn y ffynnon ond nid nhw piau hi. Harri Foxley sydd biau'r tir neu ddarn ohono a'r cyngor lleol sydd biau'r gweddill. (Mae'r ffynnon ar ochr y ffordd.)
Ers tro mae'r llechen enfawr yng ngweithdy Alan Stopes, Caethle, yn Llangadfan. Pan godais y ffôn i siarad ag ef roedd yn amheus ohonof yn y lle cyntaf gan fy nhrin fel ysbiwraig! Beth bynnag cawson sgwrs hir ond heb ddod i unrhyw ddealltwriaeth. Dywedodd ei fod yn y broses o ail ysgrifennu’r Saesneg oed ar y lechen ond nid oedd yn gwybod beth i wneud am y Gymraeg - rhyfeddol ac yntau'n byw ynghanol Cymry ers 12 mlynedd. Yn ddistaw bach ni fyddwn yn synnu pe bai'r llechen wedi mynd 'nôl wrth y ffynnon yn uniaeth Saesneg. Yn y diwedd dywedodd mai prinder arian fyddai'n rhwystro iddo ei hatgyweirio go iawn.
Cwestiwn - tybed a ddylwn i ddynesu at y cyngor am gefnogaeth neu rhyw gorff arall? Roedd Alan Stopes yn teimlo'n euog gan awgrymu y dylai, efallai, ddychwelyd y llechen i Harri Foxley. O leiaf mae hi'n ddiogel yn ei weithdy ef yn Caethle. Mae Alan Stopes erbyn hyn yn gwybod am fodolaeth ein Cymdeithas ac yn gwybod hefyd y byddaf yn cadw llygad barcud ar ddwyieithrwydd y llechen. Beth yw'r cam nesaf? Dyna ydi'r cwestiwn.
Eluned Mai Porter, Llangadfan, Powys.
Diolch i Mai am fod mor ofalus o Ffynnon Gadfan. Darllenwyd ei llythyr yng nghyfarfod Cyngor Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Cytunwyd i gysylltu a Mai ynglyn a'r llechen. Teimlwyd os oedd angen help ariannol i adnewyddu'r llechen y byddem fel Cymdeithas yn gallu bod o gymorth. (Gol.)
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
O
GWMPAS Y FFYNHONNAU
Mae Eluned Mai Porter o Langadfan, Powys wedi bod yn brysur
iawn yn sicrhau fod llechen ac ysgrifen arni yn y Gymraeg a’r Saesneg ger y
ffynnon hon.Bydd yn nodi fod Cadfan Sant wedi dod i Gymru yn y bumed
ganrif a bod pererinion wedi bod yn ymweld â’r ffynnon drwy’r canrifoedd i
gael gwellhad drwy rin ei dyfroedd. Achubwyd y ffynnon rhag cael ei dinistrio
pan ledwyd y ffordd yn ybedwaredd ganrif ar bymtheg gan y Parch Griffith Howel a
fu’n ficer y plwyf rhang 1839 ac1863. Diolch o galon i Eluned Mai am wneud hyn
a hithau yng nghanol bwrlwm y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2003
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc