Home Up

LLANFYRNACH

 

Rhan o'r PYTIAU DIFYR

Ffynnon Cwm-glas

DYDDIAU’R FFYNHONNAU

Allan o Cysgodau’r Palmwydd gan Y Canon W. Dewi Thomas - tudalen 10-11a 69. Cyhoeddwyd yn1988.

‘Ganed fi ar Brynhawn Ffair Crymych, sef Mai 30ain, 1917. Arferwn ddweud wrth fy mam mai dyna’r ffeiryn gorau a gafodd hi erioed. Digon cyntefig oedd bywyd ar lawer cyfrif yn ardal Llanfrynach (SN 2231) pan oeddwn yn blentyn. Rwy’n siŵr fy mod wedi hen gyrraedd fy arddegau pan dywyswyd y dŵr o ffynnon Cwm-glas drwy bibellau i bentref Llanfrynach , ac y gosodwyd gwrthrych mawr o haearn -bwrw, â chnapan mawr o’i droi i ollwng dŵr yn rhan o’i gyfansoddiad. Dal i gario’r dŵr oddi yno i’w ddefnyddio at bob diben mewn stenau a wnâi’r trigolion ar y cyntaf. O dipyn i beth, arweiniwyd y dŵr i’r cartrefi, er mai eithriadau am hir amser oedd y tai a allai ymffrostio mewn dŵr-twym pibellog a hynny mewn ystafell ymolchi... Cyn i’r dŵr o Gwm-glas gyrraedd y pentref, byddai pentrefwyr Llanfyrnach yn ei gario o ffynnon fach a darddai yn y graig ar lan afonig Llinos, yn ymyl Mispa. Byddai’n sychu weithiau, ac yna rhaid cario dŵr o Bistyll Brynach ar y llethr islaw Eglwys y Plwyf.

Y mae Eglwys Caeo yn eglwys fawr. Ei hynodrwydd pennaf yw ei chawg-dŵr-sanctaidd, a saif ryw dair troedfedd a hanner o’r llawr yn ei chyntedd. Honnid ei fod bob amser yn llawn o ddŵr ond nad oedd byth yn gorlifo, er na wyddid beth oedd cyfrinach ei gyflenwad. Er gwaetha’r honiad a minnau wedi fy ngwahodd i bregethu yn yr Ŵyl Ddiolchgarwch am y Cynhaeaf yn Llansewyl ym 1993, wedi galw heibio i adnewyddu’r hen gysylltiad â Chaeo, cefais y cawg yn sych. Canlyniad sychder eithafol y flwyddyn honno oedd yr anghaffael hwnnw, ac o holi’r ficer- Y Parchedig Cyril Jones, yn ddiweddarach, dywedodd fod y dŵr wedi dychwelyd.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up