Home Up

LLANFYLLIN

 

FFYNNON COED LLAN

Ar yr un dudalen yn Cymru Cyfrol III ceir yr wybodaeth a'r gerdd ganlynol gan fardd o'r enw Henri Myllin :

Y mae Ffynnon Coed y Llan, neu Ffynnon St. Myllin, mewn craig ar fin y ffordd sy'n arwain o reithordy Llanfyllin i Ben Coed Llan. Yn ei dyfroedd iachusol yr arferai Myllin Sant fedyddio ei ganlynwyr drwy drochiad - y cyntaf ym Mhryden, meddir, i fedyddio felly. Perthyn llawer o lĂȘn gwerin i'r ffynnon henafol hon.

Hyfryd yw ffynnon Coed Llan               Chwedleuwyd Cryn lawer erioed

Hyfryd yw'r graig y llon dardda;           Yn ymyl y ffynnon risialog,

Cynnes a swynol yw'r fan,                    Gan brydferth rianod bob oed

Cynnes yn hanes hen Walia;                 Am eu cariadau godidog;

Yma bu Myllin y sant,                           Ac eto chlybuwyd 'rioed fod

Tystia yn gyfiawn hen gofion,               Y ffynnon yn adrodd hen chwedlau,

Yn hyfryd bedyddio ei blant                  Na byth yn rhoi gormod o glod

Yn nyfroedd grisialaidd y ffynnon;         Nac anghlod i'r mwynion lancesau.

 

                                    Hyfryd yw Ffynnon Coed Llan,

                                    Llifa er's cannoedd o flwyddi,

                                    Dioda y nerthol a'r gwan,

                                    Dioda yr henaidd a'r heini;

                                    A phara i redeg wna hon

      Am oesau sydd eto i ddyfod,

      Pryd byddo y dewraf ei fron

      Yn tewi ar waelod y tywod.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf fccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

Home Up