Llanfihangel y Bontfaen
O GWMPAS Y FFYNHONNAU
FFYNNON Y SANTES ANNE, LLANFIHANGEL Y BONT-FAEN
(SS98117190)
Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg llynedd bu Wellsprings a Chymdeithas Ffynhonnau Cymru ar ymweliad â Ffynnon y Santes Anne, yn Llanmihangel. (Dyma’r ffurf a ddefnyddir ar yr arwyddion lleol) Mae’r ffynnon ar dir preifat ger yr eglwys ac islaw plasty Llanmihangel. Gellir mynd ati wrth gerdded i lawr tuag at yr eglwys ac mae ar y dde i’r llwybr. Bu’n rhaid clirio’r ffynnon o’r tyfiant oedd yn ei llanw . Bronwen Thomas o gymdeithas Wellsprings fu’n gwneud y gwaith cyn i ni fynd at y ffynnon.
BRONWEN YN Y FFYNNON. Y FFYNNON EI HUN
Gwelwyd ei bod yn ffynnon hirsgwar o adeiladwaith cadarn yn mesur chwe throedfedd wrth dair troedfedd a hanner. Ei hynodrwydd pennaf oedd bod cerflun o ben ac ysgwyddau gwraig fronnoeth ar fur deheuol y ffynnon a’r dŵr yn llifo drwy dyllau yn y bronnau. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r cerflun wedi diflannu. Yn ffodus, cyn i hynny ddigwydd, roedd cast mewn plastr wedi ei wneud ohono a bellach mae hwnnw yn ddiogel yn y plasty. Cafodd y ffynnon ei chofrestru fel un o henebion Gradd 2 yn 1995 ond nid yw hy n, fel y gwyddom, yn `rhoi sicrwydd bod ffynnon yn cael ei gwarchod. Yn ôl perchnogion plasty Llanmihangel, maent wedi ceisio prynu’r tir lle mae’r ffynnon gan y perchennog, er mwyn iddynt fedru cynnal a chadw’r ffynnon, ond hyd yma mae’r perchennog wedi gwrthod. Ar dir plasty Llanmihangel mae replica o’r ffynnon a’r cerflun. Roedd ymweld â’r lle yn brofiad cofiadwy iawn.
Y CERFLUN OEDD AR Y FFYNNON
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc