LLANFECHAIN
FFYNNON ARMON
SJ1820
Ar gais un o’n haelodau, Nia Rhosier, Pontrobert,
Maldwyn, ysgrifennodd y Gymdeithas at y Parch Llewelyn Rogers, Rheithor
Llansanffraid-ym-Mechain a Llanfechain i holi am gyflwr Ffynnon Armon gan fod
cryn ofid am ei chyflwr. Mae’n anodd mynd ati gan fod y tir o’i chwmpas yn
lleidiog. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon ei hun mewn cyflwr gweddol dda ond ofnir
y bydd yn cael ei hesgeuluso’n llwyr oni wneir rhywbeth i’w hymgeleddu ar
fyrder.
Yn ddiweddar derbyniodd y Gymdeithas lythyr gan y Rheithor yn diolch i ni am ein diddordeb yn y ffynnon. Mae wedi gofyn i’r Cyngor Cymuned fynd ati i adnewyddu’r ffynnon fel rhan o’u gweithgareddau ar gyfer y mileniwm. Maent eisoes wedi dechrau ar y cynllun.
Ffynnon Armon, Llanfechain
Ar ei ymweliad olaf â’r ffynnon nododd y Rheithor fod y
tir o’i chwmpas yn wlyb a’r ffynnon mewn cyflwr gwael oherwydd fod gwartheg
yn pori o’i chwmpas. Fodd bynnag mae’r cerrig ar flaen y ffynnon a’r
garreg fawr ar ei phen yn dal yn eu lle. Pan fydd y cynllun adnewyddu wedi ei
orffen a’r ffynnon wedi ei hadfer, bydd llwybr pwrpasol at y ffynnon yn cael
ei greu a gall aelodau’r cyhoedd fynd i’w gweld ar ôl cael caniatâd y
perchennog tir, Mr. R. Roberts, Brongain.
Mae’n amlwg fod gan y Parch Llewellyn Rogers ddiddordeb yn y ffynhonnau sanctaidd yn ei ardal ac mae’n awyddus i gydweithio a’r Gymdeithas eto yn y dyfodol. Tybed a wyddoch chi am ficeriaid eraill tebyg iddo? Yma gwelwn yr Eglwys a’r Cyngor Cymuned yn cydweithio i achub ffynnon. Gyda’r fath gyfuniad nerthol mae’r gwaith yn siŵr o lwyddo. Yn sgîl hyn mae’r Gymdeithas am ysgrifennu at Archesgob Cymru i ofyn iddo annog yr eglwysi i fynd ati i warchod y ffynhonnau.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Mae’r hen
arfer traddodiadol hwn ar gynnydd unwaith eto. Dyma rai ffynhonnau lle mae
unigolion wedi ceisio dŵr ohonynt ar gyfer bedyddio baban yn ddiweddar:
Ffynnon
Engan, Llanengan, Llŷn - SH 932708
Ffynnon
Rhedyw, Llanllyfni, Arfon -SH 468519
Ffynnon
Armon, Llanfechain, Maldwyn-SH 0797
Os oes gennych chi wybodaeth am ffynhonnau eraill lle mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bedyddiadau, rhowch wybod i’r Golygydd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18 Haf 2005
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf
Yn ychwanegol at yr wybodaeth yn The Holy Wells of Wales gan Francis Jones a chyfrol gyntaf Ffynhonnau Cymru gan Eirlys a Ken Gruffydd (Llanrwst 1997, tud. 37) ceir y canlynol yn A Slight Historical and Topographical Sketch of the Parish of Llanfechain in the County of Montgomery a gyhoeddwyd gan T. Richards yn Llundain, 1872:
Ffynnon Armon (SJ1820) – Tua 300 llath i’r de o’r eglwys, ar dir Tŷ Coch. Tardd ymysg ychydig gerrig mawrion, yng nghysgod hen ywen fawr:
The spring is not copious, and it is not now known whether it ever stood in high repute for any medicinal properties. But even in these degenerate days it is held in veneration., The water was not infrequently conveyed to the font for baptisms; and, for its coldness, is in summer time sought by every careful dairy-woman.
Dywed Richards yr arferid dathlu Gŵyl Armon ar unai Gorffennaf yr 31ain neu Awst y 1af, ond yn Llanfechain ar y Sul cyntaf wedi Hydref y 12fed. Ni allai esbonio hynny, meddai, gan fod hwnnw’n un o ddyddiau gŵyl y Forwyn Fair Fendigaid. Ond o fwrw golwg ar y calendr eglwysig, gwelwn mai Hydref 1af yw gŵyl trosglwyddiad creiriau Garmon Sant. Os oedd gwerin Llanfechain wedi dal wrth yr hen Galendr Iwlaidd, yn ymwybodol neu fel arall, buasai’r gwahaniaeth rhwng hwnnw a’r Calendr Gregoraidd presennol tua un diwrnod ar ddeg neu ddeuddeg diwrnod erbyn 1872. Dethlid â meddwad a hela ysgyfarnogod.
Ffynnon Glanbrogan- Dywed Richards fod y ffynnon ar dir Ystâd Glanbrogan, y defnyddid ei dyfroedd ar gyfer cryfhau’r golwg ac iacháu’r llygaid. Y mae’r Inventory of Ancient Monuments ar gyfer Sir Drefaldwyn (1911, cofnod 450), yn crybwyll ‘Ffynnon Modrib in Glanbrogan Hill... a well formerly in repute for its medicinal properties’.
Ffynnon y Cae Mawr, Ffinant( Bu galw mawr am ddŵr y ffynnon hon ar gyfer gwella’r manwyn (scrofula), y cryd, crydcymalau, gwendid yr aelodau a’r nerfau, ac amryw glefydau eraill. Bu ar agor hyd 1802, pan y’i llenwyd gan y Sais cas (chwedl Richards) a drigai yn Ffinant ar y pryd, oherwydd fod cymaint o gyrchu ati. Yn fuan wedyn syrthiodd pren cynnal tas wair ar ei ben, a’i ladd.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 20 Haf 2006
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccf