LLANFAELOG
Crybwyllir Ffynnon Faelog, Llanfaelog mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl
FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU
Delid fod rhai ffynhonnau’n dda anghyffredin at
wella anhwylderau penodol. A chrybwyll rhai o Fôn yn unig, credid fod Ffynnon
Faelog yn gwella’r crydcymalau; Ffynnon Wenfaen, y felan; Ffynnon Gybi
(Caergybi), y crydcymalau, y llwg a chlefyd y brenin; a Ffynnon Badrig, y
crydcymalau, golwg gwan, anhwylderau’r stumog, y gymalwst, pendduynnod a’r
ddannodd.22 A barnu yn ôl amlder a dosbarthiad, ymddengys y bu rhai
anhwylderau un ai’n neilltuol gyffredin neu rhwydd eu trin: y crydcymalau,
llygaid dolurus a defaid, ag enw tri yn unig. Gan yr oedd triniaethau meddygol y
gorffennol yn ddrud, yn aneffeithiol ac yn beryglus, buasai’r newid
amgylchedd, yr ymarfer corfforol a chyd gyfeillach pererindota, neu o leiaf
newid dŵr yfed, cystal ag unrhyw driniaeth arall oedd ar gael ar y pryd.
Buasai ffydd yn ewyllys da Duw yn rhan ganolog o’r iachau, yn ogystal.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc