Home Up

LLANNERCH-Y-MEDD

 

Ffynnon Gybi

Cyfeiriwyd yn y rhifyn diwethaf o Llygad y Ffynnon at Ffynnon Gybi ger Clorach, Llannerch-y-medd. Cafwyd gwybod mewn llythyr a anfonwyd gan Gyngor Cymdeithas Llannerch-y-medd nad yw’r ffynnon hon yn eu dalgylch hwy ond bod Ffynnon Gybi ar dir Tŷ-croes, Carmel, Llannerch-y-medd. Mae traddodiad yn yr ardal mai wrth y ffynnon hon yr arferai Cybi a Seiriol gyfarfod, yn hytrach nag wrth Ffynnon Clorach.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 6 Haf 1999

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

Ffynnon Gybi

O Lanallgo aethom i chwilio am safle Ffynnon Gybi (SH401828) rhwng Llannerch -y- medd a Charmel ar ffordd B5112. Wedi holi’n lleol cafwyd ar ddeall fod y ffynnon ar dir preifat. Cawsom ganiatad i gerdded y tir i chwilio amdani ar yr amod nad oeddem yn amharu ar yr anifeiliaid. Roedd nifer o fustych ifanc ar y tir a minnau’n gwisgo cot goch! Wedi cerdded ar draws y cae ger y ffordd fawr a mynd i lawr i’r pant islaw gwelwyd fod tir corsiog yno ac yng nghornel cae roedd pwll sylweddol o ddwr. Hon yn siwr oedd Ffynnon Gybi ac yn ol un traddodiad dyma ble y cyfarfyddai’r sant a Seiriol ac nid ger Clorach. Mae yma darddiad cryf ac mae’n bosib bod yna waith cerrig yn dal i fodoli islaw’r dwr ond gan fod y ffynnon wedi gorlifo does dim modd gweld. Roedd yn ddiwrnod cymylog a gwyntog ac er fod y ffynnon mewn pant cysgodol roedd yn dal yn ddigon oer yno, ond wrth gwrs roedd yr hen saint yn llawer mwy gwydn na ni heddiw!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffcffccffccffccffccffccffccffccffccfcffcffc

Home Up