Home Up

LLANENGAN

LLŶN

 

FFYNNON ENGAN

 (SH295270)

(Codwyd o erthygl H.R. Roberts, 'Llanengan' yn Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn, a olygwyd gan D.T. Davies (Pwllheli 1910).

 Yn ei 'Cywydd Einion Frenin' cyfeiria'r awdur Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys (fl.1460) at y brenin yn cryfhau'r ffynnon i Engan, nawddsant eglwys Llanengan.

'Gorphenaist Gaer y Ffynon'

 Yn nodyn Ll, 21 ar dudalen 156 dywedir:-

 Ceir olion i brofi ei bod unwaith yn amgylchedig a mur pedronglog o'r un gwaith yn ymddangos a mur yr eglwys, yn nghyd ag eisteddleoedd a grisiau cyfleus. Yn y ffynon hon, gynt arferid trochi plant ac eraill, meddir, a diamau y byddai yr hen bobl yn credu fod amrywiol rinweddau yn perthyn i'r Ffynhonnau Eglwysig.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CARIO DŴR O FFYNNON SANCTAIDD AR GYFER BEDYDDIO

Ffynnon Engan, Llanengan, Llŷn

SH 932708

Mae’r hen arfer traddodiadol hwn ar gynnydd unwaith eto. Dyma rai ffynhonnau lle mae unigolion wedi ceisio dŵr ohonynt ar gyfer bedyddio baban yn ddiweddar:

Ffynnon Engan, Llanengan, Llŷn  - SH 932708

Ffynnon Rhedyw, Llanllyfni, Arfon  -SH 468519

Ffynnon Armon, Llanfechain, Maldwyn-SH 0797

 Os oes gennych chi wybodaeth am ffynhonnau eraill lle mae’r dŵr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bedyddiadau, rhowch wybod i’r Golygydd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 18, Haf 2005

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNHONNAU LLŶN

Bu Bleddyn Prys Jones, sy’n gweithio i Gyfadran yr Amgylchedd yng Nghyngor Gwynedd, a’i dîm yn brysur yn adnewyddu nifer o ffynhonnau Llŷn sy’n ardal o harddwch naturiol eithriadol. Eisoes gwelsom y gwaith rhagorol a wnaed ar Ffynnon Fyw, Mynytho (SH30913087) mewn ôl rifynnau o Llygad y Ffynnon. Bellach mae bwriad i osod plac llechen a chreu llwybr ger y ffynnon honno. Gosodwyd giat newydd ger y lôn sy’n arwain at Ffynnon Aelrhiw (SH23392848) yn Rhiw a bellach mae’n haws mynd at y ffynnon honno. Y ffynnon nesaf i dderbyn sylw oedd Ffynnon Aelhaearn (SH38414462) yn Llanaelhaearn.

Bellach mae cynlluniau ar y gweill i adnewyddu Ffynnon Engan, Llanengan,(SH9322708) ac edrychwn ymlaen at gael clywed am y gwaith arni. Mae criw o bobl yn ardal Pwlllheli wedi dod at ei gilydd i chwilio am ffynhonnau yn y fro ac i nodi eu safleoedd a’u cyflwr. Un ffynnon sydd a’i chyflwr yn peri gofid i ni yw Ffynnon Dudwen,(SH27473679) Llandudwen, ger Dinas. Yn ôl Myrddin Fardd roedd hon yn gwella anhwylderau o bob math. Ar hyn o bryd mae’r ffynnon yn gorlifo a’r gofer wedi ei gau â baw.  Mae ar dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Gwynedd. Mawr obeithiwn y gellir adfer y ffynnon hon hefyd gyda chymorth Bleddyn Jones – dewin y dyfroedd!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Croeso i Lŷn!

Cawsom ddiwrnod wrth ein boddau ddydd Sadwrn yr 16eg o Orffennaf, pryd y cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ffynhonnau Cymru yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr. Daeth criw go dda at ei gilydd, ac wedi’r Cyfarfod Cyffredinol ei hun yn y bore, aeth tua dwsin ohonom ymlaen ar wibdaith trwy Lŷn yn y pnawn, gan ymweld â thair ffynnon tan arweiniad brwdfrydig a gwybodus Gwynfor Ellis, Mynytho.

Aethom ymlaen wedyn at y drydedd ffynnon ar ein gwibdaith, sef Ffynnon Engan, Llanengan. Dyma ffynnon a achubwyd o ddifancoll trwy ymdrechion Ken ac Eirlys Gruffudd, ac y mae’n hyfryd ei gweld yn ei chyflwr presennol, ac er 1996 yn Adeilad Rhestredig Gradd II.

Bu bri mawr ar gysegrfa Einion Frenin yn Llanengan cyn y Diwygiad Protestannaidd. 

 Yn ôl cywydd Hywel ap Dafydd ab Ieuan  (tua 1460) i eglwys Einion Frenin:

Gorffenaist gaer y ffynnon,

 A thŵr rhudd it’ wneuthur hon.”

Cofnododd Leland bererindota mawr yno pan ymwelodd yntau â’r fan ym 1538. Parheid i godi dŵr ohoni at ddibenion bedyddio cyn ddiweddared â dechrau’r 20fed ganrif, a dywed H.R. Roberts yn ei “Hanes Eglwysi a Phlwyfi Lleyn” (1910) y gellid gweld yno wal gerrig betryal, seddi a grisiau.

Eithr ni wyddai na Myrddin Fardd na Francis Jones amdani, ac erbyn ymweliad y Comisiynwyr Brenhinol ym 1964 nid oedd yno ond “ychydig olion gwaith cerrig”. Mae’r ffynnon fel y mae heddiw

yn tystio i waith adfer trylwyr yn y 1990au, ac ychwanegwyd at harddwch y safle gan waith tirlunio crefftus ogylch all-lif y ffynnon.

Ffynnon Engan, Llanengan

Ceir Ffynnon Engan yng Nghyfeirnod Ordnans SH 229307 327079, Cod Post 

Dwi’n sicr y cytunai pawb fu ar y wibdaith y cafwyd pnawn gwerth chweil, gyda gweld y ffynhonnauyn yn eu cyflwr presennol yn hwb mawr inni yn ein hymdrechion i ddiogelu’r gweddill.

Mae modd llwyddo!

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 41 Nadolig 2016.

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up