WIGFAIR
LLANELWY
FFYNNON FAIR, WIGFAIR, LLANELWY.
Iorwerth Hughes.
Nid nepell o fy nghartref mae ffynnon hynafol- Ffynnon Fair yn ardal Wigfair ym mhlwyf Cefnmeiriadog, tua dwy filltir i'r de-orllewin o ddinas Llanelwy. Mae'r ffynnon wedi ei lleoli mewn llecyn diarffordd a dymunol, led cae o afon Elwy. Mae hanes cynnar y ffynnon hon, fel pob ffynnon hynafol arall, yngholl yn niwl yr amseroedd ond mae'n debygol ei bod yn dyddio yn ôl i'r cyfnod paganaidd. Wrth ochr y ffynnon mae adfail hen eglwys o'r bymthegfed ganrif, ond ymddengys bod yma eglwys gynharach yn dyddio yn ôl i'r ddeuddegfed ganrif. Y tebygrwydd yw bod yr eglwys wreiddiol ar ffurf croes a bod y ffynnon i mewn yn yr asgell orllewinol, ond bod olion muriau y rhan yma o'r adeilad wedi dif1annu'n gyfangwbl.
Mae adeiladwaith y ffynnon yn dyddio o'r bymthegfed ganrif, o gerrig nadd ar ffurf polygon.
Yn y gorffennol, dywedir bod canopi drosti oedd yn cael ei ddal gan bileri addurnedig. Mesuriadau mewnol y ffynnon yw saith troedfedd, chwe modfedd sgwâr a phedair troedfedd chwe modfedd o ddyfnder gyda dyfnder y dŵr tua dwy droedfedd. Mae'r dŵr yn llifo o'r ffynnon i faddon a ychwanegwyd yng nghyfnod Victoria, ac yna mae'n llifo o'r baddon mewn sianel drwy asgell ddeheuol yr eglwys ac ymlaen mewn ffos i afon Elwy. Mae cynllun y ffynnon yn debyg iawn i ffynnon adnabyddus Gwenffrewi yn Nhreffynnon a noddwyd gan Margaret Beaufort, mam Harri'r Seithfed, ac mae rhai haneswyr yn awgrymu'r posibilrwydd mai hi ddaru noddi adeiladwaith y ffynnon hon hefyd. Nid oes sôn fod yna rinweddau iachusol i ddŵr y ffynnon, ond mae'r ffaith i'r baddon gael ei ychwanegu yn awgrymu bod defnydd i'r cyfeiriad yma yn rhan o'r hanes. Dywedir bod cynnwys y dŵr yn bur uchel mewn calch, ac nid oes syndod am hyn gan fod yn yr ardal greigiau o galchfaen ac ogofâu lle darganfuwyd olion archeolegol pwysig iawn.
Am flynyddoedd lawer ar ôl y Diwygiad Protestannaidd ymddengys bod y fangre yn ganolfan i ddilynwyr yr hen ffydd Gatholig - lle delfrydol i gynnal gwasanaethau cudd. Hefyd, mae Pedr Roberts o Lanelwy (1578 - 1645) yn ei lyfr Y Cwta Cyfarwydd yn cofnodi bod priodasau cyfrinachol yn cael eu gweinyddu yma mor bell yn ôl â 1640. Erbyn cyfnod Parochialia Edward Lhuyd yn 1695-98, cofnodir bod yr eglwys yn adfail. Erbyn hyn mae aelodau o Gymdeithas Hanes Cefnmeiriadog yn gofalu am y safle ac fe ymgymerodd CADW â gwaith atgyweirio gweddillion yr eglwys yn 1993.
Teimlaf ryw brofiad arbennig wrth ymweld â'r fangre gysegredig hon, a rhyfeddaf fod adeiladau mor hardd wedi eu codi mewn man mor ddiarffordd . Rhaid bod arbenigrwydd y ffynnon wedi teilyngu hynny. Heddiw mae'r ffynnon ar dir preifat, ond gelir cael caniatâd i ymweld â'r lle oddi wrth Jones Peckover, 47 Stryd y Dyffryn, Dinbych. LL16 3AR; (01745812127).
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 2 Haf 1997
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
CRWYDRO FFYNHONNAU SIR DDINBYCH
Yn ei gyfrolau Crwydro Gorllewin Dinbych (1969) a Crwydro Dwyrain Dinbych ( 1961 ) mae'r diweddar Frank Price Jones yn cyfeirio at nifer o ffynhonnau'r sir. Dyma ddyfyniadau o'r ddwy gyfrol sy'n sôn amdanynt:
Ffynnon Fair, Wigfair, Llanelwy (tud 196-7)
Adeilad diweddar yw'r plas presennol yn Wigfair, wedi ei godi o frics coch ryw ganrif yn ôl… Y Cyrnol Howard oedd y sgweiar olaf i fyw yn y plas, a phan fu farw trefnodd i'w lwch gael ei chwalu o gwmpas yr hen gapel yng ngwaelod yr allt o dan y plas. Codwyd yr eglwys fach hon, eglwys Fair, dros ffynnon y priodolid galluoedd nerthol iddi, a bu'r eglwys, er yn adfail, yn un boblogaidd i briodi ynddi am ganrifoedd…Saif adfeilion yr hen eglwys mewn dôl fras ar lan afon Elwy, ac ar draws y ddôl gwelir olion y ffrwd a wnaed i droi rhod y felin. Os bu erioed ddarluniad o'r 'mieri lle bu mawredd' dyma'r fan: y mae'r rheiliau o gwmpas yr eglwys wedi eu bylchu a chrwydrai nifer o wartheg du a gwyn yn yr anialwch o fieri a brwyn a guddiai'r adfeilion. Ond gellir gweld yr hen faddon o dan bistyll y ffynnon a dilyn y gwter a drefnwyd i'r dŵr redeg ohoni trwy'r ran o'r eglwys ac allan i'r cae. Prun y credai neb heddiw y gallaî'r ffynnon hon iacháu neb na dim.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd
Ffynnon Fair, Wigfair, ger Llanelwy (SJ028711)
Y ffynnon nesaf y cyfeiria ati yw
Ffynnon Fair, Wigfair, ger Llanelwy (SJ028711) Meddai:‘Mae Ffynnon Fair yn ffrwd gref wedi ei amgylchynu gan waliau onglog. Roedd to drosti ers talwm. Gerllaw mae adfeilion capel ar ffurf croes ond bod yr adeilad yn adfail ag eiddew yn tyfu drosto. Yn nyddiau’r pererindota byddai llawer yn cyrchu ati.’
Nid yw’n sôn bod ei ffurf yr un a Ffynnon Wenfrewi yn Nhreffynnon na bod pobl yn priodi’n gyfrinachol yn yr eglwys gerllaw gan ddefnyddio’r gwasanaeth Pabyddol a hynny ymhell ar ôl y Diwygiad Protestannaidd.
LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc