LLANELLI
FFYNNON ELLI
Anfonwyd llythyr at Gyngor Tref Llanelli i ofyn iddynt am
wybodaeth am Ffynnon
Elli. Cafwyd ateb yn ôl i ddweud na wyddent ddim byd o
gwbl am fodolaeth y ffynnon, heb sôn am ei lleoliad na'i chyflwr ac yn datgan y
byddent yn hoffi cael mwy o wybodaeth am y mater. Wedi peth ymchwil cafwyd hyd
i'r canlynol:
Mae Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales yn nodi bod cyfeiriad at y ffynnon mewn dogfen yn dyddio o 1578. Mae J. Ceredig Davies yn cyfeirio at ei bodolaeth yn y gorffennol a'i bod yn ffynnon rinweddol a iachusol. Yn Lives of the British Saints , a gyhoeddwyd yn 1908, ceir trafodaeth hir am Elli. Ymddengys ei fod yn ddisgybl i Cadog. Pan ymadawodd hwnnw â Llancarfan penododd Elli yn abad ar y fynachlog yno. Mae eglwysi yn siroedd Brycheiniog a Chaerfyrddin wedi eu cysegru i Elli. Er chwilio mapiau degwm plwyf Llanelli a luniwyd yn 1825, ni lwyddwyd i weld cyfeiriad at y ffynnon. Serch hynny, mewn llyfr a gyhoeddwyd gan eglwys plwyf Llanelli yn 1888, dywedir fod Ffynnon Elli mewn cae o'r enw Cae Ffynnon Elli ac mai o'r enw hwnnw y daeth Waun Elli Place ar waelod isaf New Road. Roedd bri mawr ar y ffynnon yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg oherwydd rhinwedd y dŵr a'i allu i iacháu. Anfonwyd yr wybodaeth yma i'r Cyngor.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
MAE FFYNNON O
DAN Y CAPEL…
Ffynnon Alis
Nid peth anarferol yw cael ffynnon oddi mewn i gapel. Wrth addasu hen gapel yn Llangïan, Llŷn i fod yn gartref, daeth y Prifardd Elwyn Roberts ar draws ffynnon. Adeiladwyd Capel Als, Llanelli ar safle Ffynnon Alis, a dyna sut y cafodd ei enw. Mae Ffynnon Drillo oddi mewn i eglwys fechan Trillo Sant ar lan y môr yn Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn. Ar un adeg roedd adeilad yr eglwys yn ddigon eang i gynnwys Ffynnon Fair, yn Wigfair, ger Llanelwy. Ym mhlwyf Llanddarog, sir Gaerfyrddin roedd ffynnon oddi mewn i gapel anwes bychan o'r enw Capel Begewdin. Felly hefyd ym mhlwyf Llanarthne yn yr un sir. Yno roedd ffynnon gref yn codi oddi mewn i adeilad a adnabyddid fel Capel Herbach. Mae'n siŵr fod ffynhonnau a fu gynt oddi fewn i adeilad capel anwes neu eglwys bellach y tu allan i'r adeilad o ganlyniad i adnewyddu'r adeilad. Tybed a wyddoch chi am enghreifftiau eraill o ffynhonnau oddi mewn i gapel neu eglwys, neu dŷ annedd hyd yn oed?
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
PYTIAU DIFYR... PYTIAU DIFYR...PYTIAU DIFYR
Yn y gyfrol
The County Coast Series – The South Wales Coast, gan Ernest Rhys a gyhoeddwyd yn 1911, ceir cyfeiriadau am nifer o ffynhonnau ardaloedd yr arfordir yn siroedd Mynyw, Morgannwg, Caerfyrddin a Phenfro. Mae ei sylwadau yn rhoi darlun i ni o gyflwr y ffynhonnau hyn ganrif yn ôl.Llanelli
Ffynhonnau Elli
Wrth ymweld â Llanelli (SN 50000) noda bod enwogrwydd Elli Sant wedi cynyddu’n fawr ar ôl ei farwolaeth a bod
Ffynhonnau Elli yn fwy enwog yn eu dydd na rhai Llandrindod a Llanfair-ym-muallt. Dwedodd un gŵr lleol wrth Richard Fenton, y teithiwr o’r ddeunawfed ganrif, iddo weld saith plwy yn cyfarfod yn Llanelli ar gyfer gŵyl Fabsant Elli ar Ionawr 17eg.LLYGAD Y FFYNNON Rhif 27 NADOLIG 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc