LLANELIDAN
Annwyl Olygydd
Pan symudais i fferm Ffynnon Dudur, Llanelidan, sir Ddinbych, ddiwedd 1941 fe'm sbardunwyd i ymchwilio i hanes y lle. Gwelais fod y ffynnon wedi ei henwi ar ôl sant a'i bod wedi'i chofrestru gan Francis Jones yn ei gyfrol The Holy Wells of Wales fel un o ffynhonnau sanctaidd Cymru. Mae ffynnon arall o'r un enw ym mhlwyf Llangeler, sir Gaerfyrddin. Roedd teulu o seintiau wedi dianc o FangorIs-coed, ar lannau afon Dyfrdwy pan ddifrodwyd y fynachlog yno, ac wedi aros am ysbaid yn Nyffryn Clwyd ar eu ffordd i Enlli. Aelodau eraill o'r teulu hwn oedd Marchell a'i brodyr Teyrnog, Deifer, a Thyfrydog. Sefydlodd Marchell yr Eglwys Wen ger Dinbych, Teyrnog yn Llandyrnog, Deifer ym Modfari a Thyfrydog ar Ynys Môn. Tybed a arhosodd Tudur fel meudwy yn Llanelidan? Mar Rhydymeudwy gerllaw a chaeau o'r enw Tudur Mawr a Bryn Tudur yn yr ardal.
Yn sicr, os bu i Tudur fendithio'r ffynnon ganrifoedd yn ôl, mae'r fendith yn parhau hyd heddiw. Bu'n drysor mawr i ni sawl tro. Roedd gennym dap dŵr oer yn y tŷ ac un arall ger y stabl, ond yn ystod gaeaf 1947 roedd y pibelli wedi rhewi yn y ddaear am wythnosau a doedd dim amdani ond torri llwybr drwy'r eira at y ffynnon, rhyw hanner canllath o'r tŷ. Yna, yng ngwres mawr 1976, sychodd cyflenwad dŵr y ffermydd cyfagos a bu'n rhaid cludo dŵr iddynt mewn tanceri. Ond yn aml byddai'r dŵr wedi gorffen cyn i fwy gyrraedd a byddent yn dod atom ni a llanw caniau llaeth deg galwyn o ddŵr y ffynnon. Cymaint oedd y galw nes i ni logi JCB i wneud llyn yng Nghae Ffynnon er mwyn i'r dŵr gofer redeg iddo ac i hwyluso codi'r dŵr i'n cymdogion. Roedd ein stoc ninnau yn yfed ohono deirgwaith y dydd. Wedyn roedd gennym beiriant olew i bwmpio'r dŵr ar draws y ffordd. Anghofia i byth y pictiwr - gwartheg, defaid, moch, gwyddau ac ieir yn yfed o'r un tanc a'r dŵr ohono'n diflannu cyn gynted ag y llifai i mewn iddo, a'r adar bach yn yfed y diferion o'r llawr
Mae ffrind gennyf yn byw ym Maerdy Ucha, Gwyddelwern, lle mae ffynnon yn y dairy yn y tŷ. Onid oedd pobl ers talwm yn gall? Roedd pob ty yn cael ei adeiladu o fewn tafliad carreg i ffynnon. Mae'n rhaid bod cannoedd o ffynhonnau a'u henwau wedi mynd yn angof, ac fel enwau tyddynnod a chaeau, ond mae'n dda cael rhannu fy atgofion fel hyn.
Eirlys Jones, Gellifor, Rhuthun.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
TAITH O GWMPAS FFYNHONNAU SIR DDINBYCH
(A HEN SIR FEIRIONNYDD)
Eirlys Gruffydd
Ar gais Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych bu Ken a minnau’n arwain taith o gwmpas rhai o ffynhonnau’r sir ar ddydd Sadwrn, Medi 16eg. Roedd yn ddiwrnod bendigedig a da oedd hynny gan fod gennym dipyn o waith cerdded a’r ffordd i ambell ffynnon yn ddigon llaith a llithrig, hyd yn oed wedi tywydd sych.
Wedi gadael Llangynhafal aethom yn ôl i Ruthun a dilyn y ffordd drwy Bwll-glas i gyfeiriad Gwyddelwern. Wrth deithio rhaid oedd nodi bod ffynnon enwog yn Llanelidan unwaith. Dywed un traddodiad mai Ffynnon y Pasg oedd yr enw arni a bod modd i rywun werthu ei enaid i’r diafol a chael y ddawn i ddewino dim ond wrth boeri’r dŵr sanctaidd allan o’i geg deirgwaith yn olynol. Ond yn ôl y traddodiad lleol Ffynnon y Pas oedd yr enw arni gan fod y dŵr yn arbennig o dda at wella’r salwch hwnnw. Erbyn hyn diflannodd y ffynnon ac nid oes sicrwydd am ei lleoliad.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 21 Nadolig 2006
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc