Home Up

LLANELIAN-YN-RHOS

 

FFYNNON EILIAN

(SH 862772)

Pytiau Difyr

Yn Goleuad Cymru, Rhagfyr 1828 ymddengys yr englyn hwn gan Twm o'r Nant i Ffynnon Eilian, Llaneilian-yn-Rhos uwchben Bae Colwyn - ffynnon felltithio enwocaf Cymru:

                                    Ffynnon ebolion Belial - a'i phennod

                                        Yn ffynnon ymddial;

                                    Nyth melldithwyr, swynwyr sâl,

                                    Min dibyn mynydd Ebal.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 10 Haf 2001

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Gwelwyd y dyfyniad hwn o hanes achos llys yn erbyn John Evans neu Jac Ffynnon Eilian yn Cymru Cyfrol 3, tudalen 100. Mae'r erthygl yn dyfynu o'r Gwyliedydd, 1831, tud 216. Cadwyd y sillafu a'r orgraff wreiddiol.

John Davies a gyhuddwyd o dderbyn saith swllt oddiar Elizabeth Davies drwy gymmeryd arno y gallai iachau ei gwr, Robert Davies, o'r afiechyd a'i blinai wrth dynu ei enw o'r ffynnon.

Elizabeth Davies a dystiodd fel hyn: Y mae fy ngwr wedi bod yn afiach am lawer o flynyddoedd. Clywais am rinweddau Ffynon Eilian. Teithiais 22 filltir i ymgynghori a'r carcharor, yr hwn oedd oruchwyliwr y ffynon. Gofynais iddo a oedd enw fy ngwr yn y ffynon; atebodd, na wyddai yn iawn, ond yr anfonai i edrych. Danfonodd eneth fechan, yr hon a ddychwelodd gyda dysgliad o gerig bychain, a llechau wedi eu nodi ag amrywiol lythrenau. Edrychodd arnynt, a dywedodd nad oedd enw fy ngwr yn eu plith. Anfonodd yr enethig yr ail dro a dychwelodd gyd ag ychwaneg, y rhai a daflwyd ar y bwrdd; gwelais gareg a'r llythyrenau R.D. a thri croes arni. Dywedais, ai hwn yw enw fy ngwr? atebodd yntau, ie. Dywedais nad oeddwn i ddim wedi fy moddloni, a gofynais a oedd enw fy ngwr mewn llyfr. Atebodd y carcharor "Ni roddais i mo enw eich gwr yn y ffynon, onide buasai hefyd yn y llyfr, ond dangosai y dwfr pa un ai enw ef oedd efe ai peidio." Aethom at y ffynon, yr hon sydd yn yr ardd yn agos at dy y carcharor. Cymerodd ychydig o ddwfr allan o'r ffynon, a dywedodd, "Y mae y dwfr yn troi ei liw, enw eich gwr ydyw yn ddigon sicr." Gofynais pa faint a gostiai i mi dynu enw fy ngwr allan o'r ffynon: dywedodd mai deg swllt oedd y pris isaf. Dywedais wrtho nad oedd genyf ddim arian, ond y gallwn ddyfod a hwynt drachefn. Gofynais genad i fyned a'r gareg adref, rhoddodd ganiatad i mi; ond nid oeddwn i'w dangos hi i neb yn y byd. Gofynais pa beth a wnawn a hi, atebodd, "Rhaid i chwi ei malurio hi, a'i rhoddi hi gyda ag ychydig halen yn y tan!" Wedi hynny aethum adref.

Ymhen deufis aethum yno drachefn gyda W. Davies, fy mrawd y'nghyfraith. Yr oedd y carcharor yn groes iawn am fy mod wedi hysbysu yr amgylchiad i Mr. Clough, Ynad Heddwch; ond dywedodd y gwnai rywbeth imi er mwyn fy mrawd y'nghyfraith. Dywedodd y byddai raid i mi gael costrelaidd o ddwfr y ffynon, a rhoddi naw swllt am dano. Cytunais ag ef am am saith swllt: 'Yr hyn (ebef) raid i chwi roddi i'r ffynon." Rhoddais yr arian i'r ffynon, ond cymerodd y carcharor hwynt, a dododd hwynt yn ei logell. Yna swniodd y carcharor rhyw eiriau, y rhai oeddynt yn debyg i Ladin, ond ni allwn ddeall dim ond enw St. Elian. Y carcharor a ddywedodd fod yn rhaid i fy ngwr gymmeryd y dwfr dair noswaith olynol, a'r un pryd darllen allan ran o'r 38 Salm. Gofynais iddo pwy a roddodd enw fy ngwr yn y ffynon, ond ni fynegodd i mi; eithr dywedodd, os dymunwn i, y rhoddai efe y gwr hwnw yn y ffynon, ac y dygai arno pa glefyd bynag yr ewyllysiwn i. Telais y saith swllt iddo.

Y carcharor yn ei amddiffyniad a ddywedodd na ddarfu iddo ef erioed anfon am neb i ddyfod i'r ffynon ac ni ddywedodd fod unrhyw rinwedd yn y dwfr; ond os oedd rhyw un yn credu fod, ac yn ewyllysio rhoddi arian iddo ef, derbynai gymmaint ag a roddent hwy. Cafwyd ef yn Euog. Y Barnydd a ofidiai yn fawr fod dynion mor ofer-goelus ac mor anwybodus ag i gredu y gallai dyn drwg y fath foddion leihau neu drymhau clefyd ar ddyn arall. Dyfarnwyd y carcharor i Chwe mis o garchar, a llafur caled.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 11 Nadolig 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON EILIAN, LLANELIAN YN RHOS

Gellir mynd at y ffynnon enwog hon drwy ddringo i fyny’r allt yn union gyferbyn â giatiau Parc Eirias ym Mae Colwyn. Mae ar dir fferm o’r enw Cefn Ffynnon. Am fod y ffynnon wedi cael ei defnyddio am flynyddoedd fel ffynnon rheibio a melltithio cafodd ei dinistrio. Bellach mae perchennog Cefn Ffynnon wedi ei hadfer. Gwelwyd hi ar un o raglenni Trevor Fishlock yn ddiweddar.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 12 Haf 2002

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR

(Cadwyd sillafu ac arddull y ffynhonnell wreiddiol yn y dyfyniadau canlynol.)

 Yn y gyfrol Methodistiaeth yn Nosbarth Colwyn Bay gan y Parchedigion T. Parry a J.M. Jones a gyhoeddwyd yn 1909, ceir yr wybodaeth ganlynol am Lanelian a Ffynnon Elian:

 Pwy sydd heb glywed am y lle hwn! Y mae yn hynod ar lawer cyfrif, nid yn unig ar gyfrif y Ffynon adnabyddus. Ceir fod lluaws o Ffynnonau hynod yn Nghymru yn yr hen oesoedd, ond dywedir fod Ffynon Elian yn un o'r prif rai ohonynt, gan dywedir fod ynddi allu i niweidio, yn gystal a llesoli - cysylltid melldith a bendith gyda hi, a bu adeg y byddai yr enw yn dychryn. Credai rhai ei bod yn cael ei galw ar enw Eilian ab Gallgu Redegog, o hil Cadros Calchfynydd, a thybir ei fod ef yn byw oddeutu 600 O.C., tra mai traddodiad arall am ei dechreuad ydyw fod meudwy yn digwydd myned heibio iddi unwaith, ac yr oedd ef yn gyfryw sant a gawsai unrhyw beth a ofynai am dano. Aeth yn wael ar y daith. Eisteddodd ar ochr y ffordd mewn trallod, a gweddiodd am ddwfr i'w yfed, a gwrandawyd ef. Tarddodd ffynnon loew yn ei ymyl: yfodd ohoni, a llwyr wellhaodd. Ar ol gwella, gweddiodd drachefn ar i'r ffynnon honno fod yn foddion i wneyd i bawb a ofynai iddi mewn ffydd beth bynnag a ddymunent. Trwy hyn, a moddion eraill cyffelyb, daeth y wlad i gredu yn rhyfedd ynddi, ac anhawdd dywedyd y twyll a'r ofergoeledd a fy yn nglyn a hi am ganrifoedd.

Fel un enghraifft i ddangos y sefyllfa, dodwn yma hanes a geir yn 'Ngoleuad Gwynedd,' am Mai 1819, am y Frawdlys Chwarterol a gynnelid yn y Wyddgrug, Ebrill 1819, a cheir mai un o'r achosion gerbron oedd yn nglyn a Ffynnon Eilian. Ymddengys fod un Edward Pierce, Llandyrnog, yn dwyn cyhuddiad yn erbyn un John Edwards, Berthddu, Llaneurgain, am ei dwyllo, ac yr oedd yr achos yn tynu sylw mawr ar y pryd. Tystiolaethwyd fod

John Edwards, diweddar o blwyf Llanelwy, wedi twyllo Edward Pierce am ei arian y 31 dydd o Mai, yn anghyfreithlawn, gwybyddus, a bwriadol; cymerodd arno wrth Edward Pierce ei fod ef wedi cael ei roddi yn Ffynnon Elian, ac y deuai rhyw ddrygau ac aflwyddiant dirfawr arno; ond y gallai efe attal y drygau hyn, trwy dynu ei enw allan o'r Ffynnon, os talai efe bymtheg swllt iddo. A thrwy y chwedl ffuantus hon, derbyniodd John Edwards gan Edward Pierce swm o arian, sef pedwar-swllt-ar-ddeg a chwe'cheiniog, a hynny trwy dwyll a rhith.

 Ceir adroddiad manwl am y prawf a'r tystiolaethau, &c., a dyma y diwedd:-

 Y Prif-ynad dysgedig, wrth symio y cwbl i fyny, a sylwodd lawer ar ysgelerder y bai, ac a ail-adroddodd y tystiolaethau, gyda medr a hyawdledd. Y Rheithwyr wedi ymgynghori am ychydig fynydau, a farnasant John Edwards yn euog. Yna fe'i dan fonwyd yn ol, gan ei orchymyn i gael ei ddwyn i dderbyn ei ddedfryd y dydd canlynol. Barnodd y Llys fod ei drosedd yn haeddu alltudiaeth (transportation), ond wrth ystyried mai y troseddiad cyntaf iddo ydoedd, a'i fod wedi ei garcgaru er y Brawdlys diwethaf, hwy a'i barnasant ef i gael ei garcharu ym mhellach am ddeuddeg mis.

 Wedi i'r Methodistiaid gychwyn achos yn y gymdogaeth hon, ac wedi casglu ychydig nerth, un o'r pethau cyntaf a wnaethant ydoedd crynhoi eu galluoedd yn nghyd i drefnu ymosodiad cryf ar dwyll a honiadaeth Ffynnon Elian. Gwnaeth y ddeadell fechan ei rhan yn wrol i ddinoethi y twyll, a dengys hanes yr ymgyrch fod y Methodistiaid boreuol yn fyw ac yn effro i beryglon eu hoes, ac yn gwneyd ei goreu i amddiffyn a dyrchafu eu gwlad…Rhaid cofio fod y Ffynon hon o fewn oddeutu 30 llath i gapel y Nant, Llanelian, ac ar dir Cefnffynnon (lle y prewylia yn bresennol Mr. David Evans, un o swyddogion yr eglwys).

 (Ysgrifennwyd nifer o lythyrau i'r Goleuad yn sôn am yr hyn oedd yn digwydd wrth Ffynnon Elian. Hwyrach y daw cyfle eto inni gyfeirio atynt yn Llygad y Ffynnon.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

 cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd

Ffynnon Elian yn Llanelian-yn-rhos (SH 866774)

Yn union wedi ei ymweliad â Llan San Siôr mae’n disgrifio Ffynnon Elian yn Llanelian-yn-rhos (SH 866774). Meddai:

‘Mae ffynnon Elian Sant wedi bod yn enwog am wella afiechydon o bob math drwy gyfrwng y sant. Byddai’r bobl yn mynd i’r eglwys yn gyntaf ac yn gweddïo’n daer arno am waredigaeth. Ond roedd y sant hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod lladron a dod o hyd i nwyddau a ladratawyd. Mae rhai yn mynd ato i ofyn iddo ddial ar eu cymdogion a gwneud iddynt farw yn sydyn neu i anffawd ddigwydd i’r sawl oedd wedi eu digio. Mae’r gred yn hyn o beth yn dal yn gryf. Does dim tair blynedd wedi mynd heibio ers i mi gael fy mygwth gan ryw ddyn, ( a gredai i mi wneud drwg iddo) gyda dial Elian Sant, ac y byddai’n mynd i’r ffynnon i’m rheibio yno.’

Tybed beth a feddyliai Pennant pe gwyddai fod y ffynnon wedi ei dinistrio’n llwyr ond bod perchennog Cefn Ffynnon, lle mae safle’r ffynnon, wedi gwneud ymchwil manwl i’w hanes ac yn bwriadu ei hadfer yn y dyfodol.

Mae’n sôn am un arferiad diddorol na welais gyfeiriad ato o’r blaen. Meddai:

‘Os oes Ffynnon Fair neu ffynnon wedi ei henwi ar ôl sant mewn ardal, bydd y dŵr ar gyfer bedydd yn cael ei gario oddi yno i’r eglwys ar gyfer yr achlysur yn ddi-ffael. Wedi’r sacrament byddai hen wragedd yn hoff iawn o olchi eu llygaid yn y dŵr o’r fedyddfan.’

Gwyddwn am yr arferiad o gario dŵr o ffynnon sanctaidd ar gyfer bedydd ond dyma’r tro cyntaf i mi glywed fod y dŵr yn llesol wedi hynny ar gyfer llygaid poenus.

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o'r PYTIAU DIFYR

Ffynnon Elian ger Croes-yn-eirias, Colwyn. Sir Ddinbych (SH 866774)

Ofergoelion yr Hen Gymry gan y Parch. T. Frimston (Tudur Clwyd) Bae Colwyn, 1905.

(Detholiad o’r hyn sy’n ymddangos o dudalen 48 hyd dudalen 67.Cadwyd y sillafu gwreiddiol)

FFYNNON-DDEWINIATH

‘Dyma wedd ar ofergoeledd yr hen Gymry a fu mewn bri mawr am ganrifoedd... Dyddia y Ffynhonnau Sanctaidd i hynafiaeth dirfawr, ac ymhell cyn y cyfnod Cristionogol. Roedd rhai o honynt yn iachaol, y lleill yn broffwydol ond yr oll yn ddewinol. Gwaith llawer i Ffynnon Fair oedd gwella llygaid. Dyna hefyd briodolid i Ffynnon Goblyn. Hanfod hanes honno yw, fod rhyw Sant rhyw dro wedi cael mendio ei lygaid ynddi; a phwy bynnag a fynnai gael ei rhinwedd, byddai raid iddo fyned yn y boreu cyn i’r haul godi i olchi ei lygaid yn nwfr y ffynnon.

Prif ffynnon Cymru ag y mae mwyaf o swm ei hanes dewinol wedi dyfod i lawr i’n dyddiau ni ydyw Ffynnon Elian ger Croes-yn-eirias, Colwyn. Sir Ddinbych (SH 866774). Safai gynt yn nydd ei hynodrwydd yng nghwr cae o fewn ychydig lathenni i’r ffordd sydd yn arwain o Groes-yr-eirias i Lanelian. Ar lechwedd yr oedd a’i gofer a redai i’r De; a honnid hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf fod modd swyno gyda phob ffynnon y byddai “ei gofer yn arwain i’r De;” ac aneirif y cymwynasau er drwg a da a briodolid i’r ffynhonnau hynny. Y mae Ffynnon Elian wedi bod yn ddychryn i gannoedd na buasai dim arall bron yn cynhyrfu eu teimladau; ac y mae yn anhawdd i ni, pobl yr oes hon, gredu y dylanwad oedd ganddi ar bobl o bob oed, gradd a sefyllfa. Y mae yn ymddangos fod rhywun arbennig yn sefyll yn Offeiriad i’r ffynnon ym mhob oes, trwy y rhai yn unig yr oedd modd cael gan y ffynnon weithredu. Rhoddir yr hanesion a ganlyn gan yr hwn a weinyddai y swydd o Offeiriad y Ffynnon: 

“Daeth gwraig i siopwr o Abergele ataf yn y dybiaeth bod ei henw yn y ffynnon . Perswadiais hi nad oedd y fath beth yn bod a chefais ganddi fyned adref. Ymhen wythnos gwelwn hi yn dyfod wedyn ac erbyn hyn gwelwn na wnâi y tro ond y ffynnon. Gosodais ei henw yng nghwr fy llawes ac es gyda hi at y ffynnon. Rhoddais fy llaw dan y dorlan ac wedi slipio yr enw i fy llaw, codais ef i fyny yn ei gwydd. Credodd hithau a gwellaodd yn ebrwydd. Cafodd hi heddwch gan y selni a chefais innau heddwch ganddi hi.

Daeth amaethwr parchus ataf yn achos ei wraig yr hwn a ddywedai ei bod yn glaf, yn orweddiog ac heb fwyta un tamaid o fara ers wythnosau a chredai ei bod wedi cael ei rhoi yn y ffynnon. Holais ef mor fanwl ag y gallwn a deallais mai yn ei meddwl yr oedd yr afiechyd yn cartrefu yn bennaf a dywedais wrtho nas gallwn wneyd dim o honni heb iddi ddyfod yma am ychydig amser. Felly y bu: anfonwyd hi yma yn ddi-oed a rhoddwyd hi yn y gwely yn fy nhŷ. Yna gwneuthum i fy hen wraig olchi ei phen a rhannau uchaf o’i chorff, â dwfr o’r ffynnon. Yn fuan ar ôl hyn, dywedai ei bod yn llawer gwell, a’i bod yn teimlo ei hun yn adfywio yn anghyffredin. Drannoeth cefais ganddi godi, a dyfod i olwg y ffynnon, a chymmeryd ychydig luniaeth. Y trydydd dydd, cerddodd gyda mi i lan y môr, oddeutu tair milltir o ffordd, yn ôl ac ym mlaen, a bwytaodd y hearty. Ym mhen naw diwrnod, anfonodd at ei gŵr am iddo ddyfod i’w nôl, onide y deuai gartref ar ei thread bob cam! Nid rhyfedd i feddygon pennaf ein gwlad, yn ngwyneb llawer math o afiechyd, wneud eu gore i godi meddwl y claf; oblegyd gwyddant fod hyn yn un o brif foddion i gryfhau y cyfansoddiad.”

Ymddengys i’r rhysedd yma gyda y Ffynnon hon, gyda rhywun arall, gynyddu i’r fath raddau, nes peri i’r awdurdodau gwladol ymyrryd. Ym Mrawdlys Fflint, 1818, cyhuddid twyllweithredwr o hawlio arian trwy dwyll. Yr oedd wedi llwyddo i gael pymtheg swllt oddiar ffermwr, trwy beri iddo gredu fod ei enw wedi “cael ei roi yn y ffynnon,” yr hyn a ystyrid yn fath o uffern o fewn y plwyf, ac nas gallai mewn un modd, tra byddai ei enw ynddo lwyddo. Ymgymerodd yr honwr â “thynnu enw y dyn allan o’r pydew diwaelod” am bymtheg swllt, yn nghyda gweddïau, ac erfyniadau, a Salmau i’r perwyl. Dedfrydwyd ef i flwyddyn o garchariad.’

LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 26 Haf 2009

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU DIFYR....PYTIAU DIFYR.... PYTIAU DIFYR...... PYTIAU DIFYR

 Meddai Syr Ifor - gan Syr Ifor Williams, Tregarth. Llyfrfa’r M.C. Caernarfon 1968

"Pa ryfedd i'r Methodistiaid Calfinaidd mor gynnar â 1801 gyhoeddi yn eu Rheolau Disgyblaeth nad oedd yr un o'u deiliaid 'er dim i arfer swynion na swyn-gyfaredd mewn un achos perthynol, i ddyn nac anifail; na myned ar ôl dewiniaid; nac ymofyn â brudwyr, nac offrymu i ffynhonnau; na dilyn un arferiad llygredig o'r fath; y rhai nid ydynt wello nag ymgynghori â Chythreuliaid'. Mewn nodyn ‘chwanegir, ‘Swyno (neu fel y dywaid rhai cyfrif) y ddafad wyllt, neu ryw afiechyd arall, beth ydyw ond ymofyn am y Diafol yn feddyg; Offrymu i Ffynnon Elian (neu ryw ffynnon arall) ar ein lles ein hunain neu ein hanifeiliaid, neu i geisio ymddîal ar ryw-un, beth ydyw ond offrymu i Ddiafol a galw am ei gymorth Dieflig ef? Y mae'r arferion hyn yn gyffredin iawn mewn rhai parthau o'n gwlad, er mawr waradwydd i'w thrigolion tywyll, anwybodus, ac annuwiol.'”

(Diolch i Howard Huws am dynnu ein sylw at yr uchod.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

CYNHADLEDD I'W CHOFIO

Aeth Howard Huws a Ken ac Eirlys Gruffydd i’r gynhadledd ar ffynhonnau a gynhaliwyd ym mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan dros benwythnos 11-12 o Fedi

Richard Suggest  a roddodd y ddarlith olaf a oedd yn canolbwyntio ar hanes Ffynnon Elian, Llaneilian yn Rhos (SH 866774), ffynnon rheibio enwog, a’i cheidwad Jac Ffynnon Eilian, a garcharwyd am ei dwyll, ond a lwyddodd i gael anfarwoldeb drwy gyhoeddi hanes ei waith wrth y ffynnon.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 29 Nadolig 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

 

FFYNNON ELIAN, LLANELIAN YN RHOS

Dyma ffynnon felltithio enwocaf Cymru. Cafodd ei dinistrio oherwydd hynny ond bellach mae wedi ei hadfer fel ffynhonnell o ddŵr yfed i Jane Beckerman yn Cefn y Ffynnon. Bu’n daith hir ond o’r diwedd cafodd y gwaith ei orffen. Bydd Jane yn sôn am y broses o’i hadfer yn y Gynhadledd Ffynhonnau yn Llandudno ym mis Medi.

                               CYN DECHRAU’R GWAITH                                                                            Y SAFLE NAWR

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 34 Haf 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

LLWYDDIANT CYNHADLEDD LLANDUDNO

Ar ddydd Sadwrn Medi’r 7fed daeth tua thrideg o bobl frwdfrydig at ei gilydd i’r gynhadledd flynyddol. Siom ydoedd na allai Gareth Pritchard fod yno i draddodi ei ddarlith ar Ffynhonnau’r Gogarth ond drwy gymorth nodiadau manwl a lluniau a PowerPoint llwyddwyd i drosglwyddo’r wybodaeth. Yn dilyn cafwyd sgwrs gan Ken Davies ar Ffynnon Fair, Llanrhos ac yna darlith ddifyr iawn gan Elfed Gruffydd ar Ffynhonnau Llŷn. Yna dilynwyd gan Tristan Grey Hulse yn son am ffynhonnau a phererindodau. Yn y prynhawn cafwyd amlinelliad gan Bill Jones o’r gwaith ar Ffynnon Elan, Dolwyddelan. Yn olaf soniodd Jane Beckerman am y gwaith mawr o adfer Ffynnon Elian yn Llanelian yn Rhos.

Yna uchafbwynt y dydd oedd cael ymweld â Ffynnon Elian ar dir Cefn Ffynnon, cartref Jane Beckerman, a gweld y gwaith adnewyddu. Bellach mae coedlan hyfryd o gempas y tarddiad a’r dŵr yn llifo i fowlen bwrpasol. Mae yna fainc ger y dŵr a lle i eistedd ac i fyfyrio. Dyma droi ffynnon oedd unwaith yn ffynnon sanctaidd ond a aeth yn ffynnon felltithio yn ôl i ffynnon gysegredig unwaith eto. Cysegrwyd y ffynnon fel na all y dŵr gael ei ddefnyddio byth eto i felltithio na gwneud drwg i neb.

FFYNNON ELIAN, LLANEILIAN-YN-RHOS (SH860769

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 35 Nadolig 2013

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o ‘Heb Ddŵr, Heb Ddim’

 Ffynhonnau Caerdydd a’r Cylch

      Robin Gwyndaf

(Darlith a draddodwyd ym Mhabell y Cymdeithasau yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 7 Awst 2018. 

Cadeirydd: Eirlys Gruffydd-Evans; Trefnydd a Chyfieithydd: Howard Huws.) 1.

  

Ffynnon Eilian, 

Mae’n wir fod ychydig ffynhonnau yng Nghymru yn  cael eu hystyried fel ffynhonnau melltithio (yr enwocaf yw Llaneilian yn Rhos, sir Conwy.) Pobl a’u defodau yn defnyddio’r ffynnon i geisio dial ar eraill. Ond prin iawn yw’r ffynhonnau hyn. Cysylltu ffynnon â daioni a wneid, gan amlaf, ac â’r seintiau. Roedd y dŵr yn sanctaidd a chysegredig. Dŵr bendigaid. Nid heb reswm y galwodd Francis Jones ei gyfrol arloesol yn 1954 â’r teitl: The Holy Wells of Wales.    

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 47 Nadolig 2019

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up