Home Up

LLANDYFAN

 

CRWYDRO SIR GÂR  

Aneirin Talfan Davies, (1970)

FFYNNON DDYFAN, LLANDYFAN. (Tudalen 272-3)

(SN643172)

 I gyrraedd Llandybïe rhaid inni ailgyfeirio ein camre tua phentref y Trap…a throi i'r dde i Landyfan a'i ffynnon wyrthiol, lle gynt, yn ôl y Parchedig Gomer Roberts, hanesydd y plwyf, "y cyrchai pererinion ati i'w gwellhau." A dyfynnu Mr. Roberts eto: "Yr oedd capel bychan wedi ei godi mewn cysylltiad â'r ffynnon hon er hwylustod i'r cleifion, ond erbyn y 18fed ganrif collodd y capel a'r ffynnon hithau eu bri cyntefig, ac fel canlyniad daeth y lle yn boblogaidd fel man cyfarfod at bwrpas chwarae a champau cyffredin yr oes."

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON GWYDDFAEN

Dewi Lewis

 Saif Ffynnon Gwyddfaen ym mhentref Llandyfân, Sir Gaerfyrddin. Mae'n syndod bod y safle yn ddieithr, fwy neu lai, i'r rhai sy'n byw yn gymharol agos ati hyd yn oed. Cysegrwyd y ffynnon i Sant Dyfan a fu'n cenhadu yng Nghymru yn ystod yr ail ganrif, yr un adeg â Sant Ffagan. Bu'n lle pwysig i Gristnogaeth o'r amser hwn ymlaen a chafwyd sawl digwyddiad lliwgar yn gysylltiedig â'r safle. Mae Francis Jones yn ei lyfr The Holy Wells of Wales (tud. 60-61) yn cyfeirio at un digwyddiad o'r fath yn ardal Llandeilo Fawr tua 1594:

'In their Bill of Complaint in the Star Chamber against Morgan Jones of Tregib (a squire descended from Urien Rheged, Griffith Gillam and Rice Morgan, averred that two years previously a commission had been issued to John Gwyn Wiliams by the Council of the Marches, for the suppression of pilgrimages and 'idolatrous places' and especially a well, known in the Llandeilo-Fawr district as Fynnon Gwiddvaen. At this well, Williams apprehended a large number of persons whom he brought before Mr Jones, who, not only refused to imprison, but even to examine them. In his Answer, Morgan Jones admitted that 'some poor sickly persons' who had gone to the well to wash 'hoping by the help of God thereby to have their health', had been brought before him by Williams, but he thought harmless and discharged them. He also admitted that Wiliams had told him that there were some two hundred or more people still left unapprehended at the well'.

Mae'r adroddiad uchod nid yn unig yn adlewyrchu pwysigrwydd y safle ond hefyd yn awgrymu bod y bobl yn arfer trefnu pererindodau at ffynhonnau. Yn ddiweddarach, yn 1811, yn ei lyfr Topographical Dictionary of Wales , dywedodd N. Carlisle fod pobl yn cyrchu yno gan fod y dŵr yn cael ei yfed er mwyn iachâd o 'paralytic affections, numbness and scorbutic humours'. Yn ei lyfr Beauties of South Wales dywed T. Rees ei bod yn arferiad yfed dŵr y ffynnon allan o benglog dynol, ond erbyn 1815 mae'n debyg bod 'the reputation of this skull was in a great degree lost'.

Mae'n debyg bod capel wedi ei adeiladu ar y safle yn ystod yr Oesoedd Canol a'i fod wedi goroesi hyd at y ddeunawfed ganrif. Bu'n lle poblogaidd ar gyfer chwaraeon o bob math a chyrchai pobl yma yn enwedig ar y Sul. Canlyniad yr holl gyrchu i'r safle oedd i Arglwydd Mansel o Fargam roi diwedd ar yr holl sbri, hynny yw, nes i Peter Williams ddod yma yn 1748 i bregethu. O ganlyniad i ymweliad Peter Williams daeth y lle yn ganolfan bwysig i weithgaredd y Bedyddwyr a dechreuwyd bedyddio aelodau newydd yn y ffynnon rhwng 1771 - 1787. Adeiladwyd capel newydd yno yn 1808. Nid oes unrhyw feddau yma gan nad oes digon o ddyfnder i'r ddaear a'r graig yn rhy agos i'r wyneb.

Erbyn heddiw gellir gweld y ffynnon yn hollol glir ar ffurf siambr pum metr sgwâr a thua dwy fetr o ddyfnder. Er mwyn mynd i mewn i'r ffynnon rhaid disgyn un ar ddeg o risiau cerrig. Llenwir y ffynnon yn gan ffrwd bwerus sy'n tarddu o un cornel. Er mwyn rheoli dyfnder y dŵr gellir defnyddio dorau i'w godi neu ei ostwng.

Gellir cyrraedd y safle hanesyddol a diddorol hon trwy ddilyn yr A483 o Rydaman i gyfeiriad Llandeilo. Tua hanner y ffordd rhwng y ddau bentref trowch i'r dwyrain gyferbyn â'r College Arms yn Derwydd. Dilynwch y ffordd yma am tua milltir nes dod at gyffordd. Peidiwch â chael eich temtio i fynd i gyfeiriad Castell Carreg Cennen (er bod ffynnon yno hefyd) yn hytrach gyrrwch i'r dde. Ar ôl tua hanner milltir fe welwch y capel ar y chwith. Drws nesaf iddo mae hen dy fferm a fu ar un adeg yn dafarn. Mae'r adeilad yma ynddo'i hun yn ddiddorol.

Os am ennyd dawel yn y wlad, beth am fentro i gael cip ar Ffynnon Gwyddfaen.

 Rhif 10 Haf 2001

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFYNNON GWYDDFAEN 

(Yn Rhif 10 o Llygad y Ffynnon cafwyd erthygl ddiddorol gan Dewi Lewis am y ffynnon hon. Gan ddilyn cyfarwyddiadau Dewi, bûm yn ymweld â hi. Dyma lun ohoni a mwy o'i hanes. Diolch i Twm Elias am ein cyfeirio at y ffynhonnell hon o wybodaeth amdani.)

 Nodwyd safle'r baddon yn Llanddyfân ar fap Thomas Kitchin o sir Gaerfyrddin a gyhoeddwyd yn 1754 ac yna hefyd ar fap 1805 Cary o dde Cymru. Cyfeiriodd Edward Lhuyd at y ffynnon feddyginiaethol oedd ym mhlwyf Llandybïe mor bell yn ôl ag 1695 a nododd fod afon Gwyddfe yn tarddu ohoni ac mai dyna sut y cafodd yr enw Ffynnon Gwyddfan. A bod yn fanwl gywir, ym mhlwyf Llandeilo Fawr y mae Llandyfân ond ger y ffin â phlwyf Llandybïe. Nododd Carlisle yn ei gyfrol Topographical Dicrionary of Wales yn 1811 fod y ffynnon yn enwog am ei gallu i wella nifer o anhwylderau. Ymwelodd Richard Fenton â'r lle a dywedodd yn ei gyfrol Tours of Wales, 1804-1813 fod y ffynnon yn 'enclosed in a square building with steps going down to it, uncovered'. Yn 1843 adroddodd Samuel Lewis yn ei gyfrol A Topographical Dictionary of Wales iddo ymweld â'r ffynnon ac fe'i disgrifiodd fel 'a square stone tank, anciently a baptisery for the use of the early Christian Church at the little chapel of Llanduvaen'.

 Mae'n anodd gwybod faint yw oed y ffynnon na pha mor bell yn ôl mewn hanes y'i defnyddiwyd i wella afiechydon, ond awgrymir nad oedd mewn bri ar ôl dechrau'r Diwygiad Methodistiaid. Pregethodd Howel Harris i dyrfaoedd ger y ffynnon yn 1740, 1750 ac 1751. Ar ôl i Peter Williams bregethu yno daeth Llandyfân yn ganolfan i'r Bedyddwyr a defnyddiwyd y baddon i fedyddio, er nad oedd hyn wrth fodd y Methodistiaid. Roedd pregethwyr annibynnol megis Thomas Coslett, rheolwr ffowndri leol, yn tynnu'r tyrfaoedd i Landyfân. Pan ymrannodd y Methodistiaid yn Galfiniaid ac yn Arminiaid  ac ar ddechrau Undodiaeth, daeth nifer o enwadau crefyddol i rannu'r capel a oedd ger Ffynnon Gwyddfan. Pan aeth yr Annibynwyr i Ffair-fach a'r Bedyddwyr i Trap, gadawyd Llandyfân i'r Undodwyr. Yna adeiladodd yr enwad hwnnw gapel newydd yn Onnen-fawr ger Trap ac yn 1839 daeth yr adeilad yn eiddo i'r Eglwys Wladol unwaith eto. Yn 1897 rhoddwyd caniatâd i Gyngor Tref Llandeilo bibellu'r dŵr o'r ffynnon i gartrefi Llandeilo a thalwyd £10 y flwyddyn i'r eglwys amdano. Y ffynnon hon oedd ffynhonnell ddŵr Llandeilo tan yn gymharol ddiweddar.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

FFILMIO’R FFYNHONNAU  

 Eirlys Gruffydd  

FFYNNON GWYDDFAEN

Yn ystod mis Gorffennaf eleni gofynnwyd i Ken a minnau fynd gyda chwmni Teleg i ffilmio ffynhonnau ym Mon, Arfon, Llyn, Eifionydd, Powys, Ceredigion a Chaerfyrddin. Buom yn ymweld a ffynhonnau a oedd yn gyfarwydd i ni, yn edrych ar eu cyflwr ac yn digalonni o weld cyflwr truenus rhai ohonynt ond yn llawenhau wrth weld fod eraill yn amlwg yn cael gofal. Llwyddwyd hefyd i ymweld ag un ffynnon newydd. Mawr yw ein diolch i Michael Bailey Hughes a’i fab Sion am eu cwmni a’u caredigrwydd i ni yn ystod y dyddiau y buom yn ffilmio.  

O Landeilo taith fer oedd hi i Landdyfan i weld FFYNNON GWYDDFAEN.(SN643172)  Cafodd y ffynnon hon gryn sylw mewn ol-rifynnau o Llygad y Ffynnon  ond roedd maint y baddon a hynodrwydd y safle o ddiddordeb arbennig i Michael. Mae’n siwr fod y ffynnon hon yn gysegredig i’r hen dduwiau paganaidd ers talwm. Roedd yn arferiad i yfed y dwr o’r ffynnon mewn penglog dynol er mwyn cael iachad. Bu nifer o enwadau anghydffurfiol yn addoli yn y capel ger y ffynnon dros y blynyddoedd ac erbyn heddiw yr Eglwys yng Nghymru sy’n gofalu am yr adeilad. Bu’r dwr o’r ffynnon yn diwallu anghenion tref Llandeilo yn y gorffennol hefyd. Mae nifer o risiau yn arwain i lawr at y dwr ac mae dyfais fecanyddol yn y ffynnon i agor a chau drws yn y mur sy’n rheoli llif y dwr. Wedi diwrnod o deithio milltiroedd lawer a ffilmio tair ffynnon, da oedd cael  cyrraedd plasty Glyn Hir ger Llandybie lle roedd llety wedi ei drefnu ar ein cyfer. Ond nid oedd y gwaith wedi ei orffen. Rhaid oedd inn gael ein cyfweld gan son am y ffynhonnau a gwaith y gymdeithas cyn noswylio.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 17 Nadolig 2004

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Ffynnon Wyddfaen, mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

FFYNNON GWYDDFAN

Prin yr adeiladwyd rhai o’r cysegrfeydd gwychaf nag y’u chwalwyd, oherwydd nid arbedodd y Diwygiad Protestannaidd ffynhonnau sanctaidd. Maluriwyd yr addurniadau, cymerwyd unrhyw beth y gellid ei werthu, a gwaharddwyd offrymu a phererindota.28  Anodd fu gorfodi hynny, fodd bynnag, yn enwedig lle'r oedd yr ynadon lleol yn glaear eu hawydd. Parhâi nifer fawr o bererinion i ymweld â Ffynnon Wyddfaen yn Sir Gaerfyrddin hyd o leiaf 1595, ac ym 1646 gofidiai John Lewis o Geredigion am y pererindota at ffynhonnau yno.29 Awgryma Rheolau Disgyblu’r Methodistiaid Calfinaidd ym 1801 fod ymweld â ffynhonnau’n digwydd yr adeg honno.30 

FFYNNON GWYDDFAN

Amheuaf a ddinistriwyd llawer o’r ffynhonnau hyn. Sanctaidd ai peidio, yr oeddent yn ddefnyddiol ac yn gyfleus, os dim ond er mwyn cadw menyn rhag suro: ac ni allai na chyfraith gwlad na dirmyg swyddogion ddileu’r gred fod rhai ffynhonnau’n gysegredig, ac y gallant wella iechyd neu gyflwr y sawl sy’n yfed ohonynt neu ymolchi ynddynt â dyledus barch. Lle ni fynnai’r grymus ymwneud â ffynhonnau, neu yr ofnent ganlyniadau hynny, bu i’r tlodion, yma ac acw, gadw’r traddodiadau’n fyw hyd y dydd hwn.

28. Yng Nghapel Meugan yn Sir Benfro ym 1592, er enghraifft, gorchmynnodd comisiynwyr y  Goron:

            “…where somtyme offringes & superstitious pilgrimages have been used, and there to

                  cause to be pulled down and utterlie defaced all reliques and monuments of that

                  chappell, not leaving one stone thereof upon an other, & from tyme to tyme to cause to

      be apprehended all such persone and persones of what sexe kinde or sorte whatsoever

      that shall presume herafter contrarie to the tenor and p’rporte of the said honorable

      commission, to repair either by night or daie to the said chappell or well in

      superstitious maner & to bring or send before us or enie of us…”

 

29. Yn achos Ffynnon Wyddfaen, ni ddarfu i’r ynad lleol na’u holi na’u carcharu, gan esbonio’n

      ddiweddarach eu bod yn  “bobl afiach, tlawd” nad oeddent ond yn dymuno ymolchi yn y

      ffynnon yng ngobaith adferiad iechyd trwy gymorth Duw.

30. Gw. Ifor Williams, Meddai Syr Ifor, Caernarfon 1968.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Rhan o BYTIAU DIFYR

Ffynnon feddyginiaethol ei dŵr hefyd oedd Ffynnon Ddyfan (SN6417) yn Llandyfân ger Llandeilo - sydd a'i dŵr yn dal i ffrydio o hyd. Slawer dydd roedd hon yn un o ffynhonnau enwocaf Cymru a hynny oherwydd ei rhin fendithiol. A'r hyn sy'n ddiddorol ynglŷn â’r ffynnon yw fod rhaid yfed ei dŵr allan o benglog yn lle cwpan. Rhin arbennig Ffynnon Llandyfân oedd gwella'r parlys a chlefydau tebyg. Ond dywed hen goel fod nifer o gyrff i'w gweld ar un adeg o'i chwmpas, hynny'n tystio nad anffaeledig Ffynnon Ddyfan mwy na ninnau hefyd. 

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 36 Haf 2014  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

FFYNHONNAU SIR GAR 

gan Saundra Storche

(Traddodwyd y sgwrs yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014)

FFYNNON GWYDDFAN

Yn 61 Gomer Roberts (awdur Hanes Plwyf Llandybie) adeiladwyd y fedyddfa ger eglwys Llandyfan gan y Bedyddwyr ym 1785 ar safle Ffynnon Sanctaidd Gwyddfaen (SN6416717121). Ysgrifennodd ‘mewn rhai hen fapiau adwaenir y ffynnon fel y Baddon Cymreig yn Llandyfan. Oedd yfed y dv”vr yma allan o benglog yn fantais i’r sal.

Ar ddechrau’r erthygl soniais am y cenhadon cynnar ddaeth i’r ynysoedd yma i droi'r paganiaid at Gristnogaeth. Dechreuais yr erthygl hon gyda'r Celtiaid ac maent yn ymddangos eto oherwydd cu bod yn credu bod yr enaid yn bodoli yn y benglog. Dyna pam y byddent yn torri pennau eu gelynion, heb y benglog ni fyddent yn gallu myned i fywyd tragwyddol. Felly byddai yfed dxivr sanctaidd o benglog rhywun sanctaidd yn cael ei ystyried fel bendith ddwbl ac yn gwella pob clwyf.

FFYNNON GWYDDFAN, LLANDYFAN

LLYGAD Y FFYNNON   Rhif 37 Nadolig 2014  

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

 

Home Up