Home Up

LLANDUDWEN

LLŶN

 

FFYNNON DUDWEN

Eirlys Gruffydd

Ychydig o bobl y tu allan i blwyf Llaniestyn, Llŷn, sy’n gwybod am Landudwen, gerllaw Dinas. Dim ond eglwys sydd yno – eglwys hynafol a fyddai wedi mynd â’i phen iddi heblaw am un teulu o fewnfudwyr ddaeth i fyw i’r rheithordy lleol. Ond nid mynd i Landudwen i weld yr eglwys oedd ein bwriad un diwrnod braf ym mis Awst eleni, ond mynd i ymweld â Ffynnon Dudwen rhyw ganllath i’r de ddwyrain ohoni. Yr hyn a’n hysgogodd i fynd yno oedd darllen disgrifiad Myrddin Fardd o’r ffynnon yn Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908). Dyma sydd ganddo i’w ddweud:

Y ffynnon hon ydoedd gysegredig i Landudwen – eglwys a sefydlwyd gan y Santes Tudwen, yr hon oedd yn ei blodau, fel y tybir, tua dechrau y seithfed ganrif. Erbyn hyn, tybir nid oes yn aros o’r hen ffynnon, rhagor na’i llefod yng nghwr cae ger yr eglwys – amser wedi ei thorri i lawr a’i chladdu yn ei phwll ei hun; ond y mae iddi ei hanes – cyrchai lluoedd iddi o bob cyfeiriad, taflent arian a phinau iddi mewn trefn i sicrhau bendith iddynt eu hunain oddiwrth y Santes ysbrydol oedd ym llywodraethu ffrydiau a llesiant ei dwfr er cynnydd i gnwd y tir, ac yn neillduol er iechyd i ddyn, am y cyfrifid ei dwfr yn effeithiol i wrth-weithio anhwylderau y llygaid – y dwymyn ddyspeidiol, y cryd cymmalau, gwendid yn y gewynau, arteithiau y rhai a gystuddid gan y Digwydd, sef rhyw fath o wasgfeuon neu lewygon. Ond, erbyn hyn, er cael ohoni ei hadnabod gan bawb wrth yr enw nodweddiadol “Ffynnon Dudwen” yn ogystal ag mai dwfr ohoni ddefnyddiwyd yn y weithred o fedyddio y mebyn hwnw – yr Esgob Fychan wedi hyny, cyn belled ag y mae tebygoliaeth lleol a hen draddodiad yr ardal neu lais gwlad yn myned. Onid yw yn resyn na byddai modd modd cael gafael ar gofnodion o’r holl a fedyddiwyd gyda’i dwfr, ac o’r priodasau digel mynych a gymerent le gerllaw iddi yn ystod y canrifoedd a aethant heibio, ond y mae hyny i raddau yn amhosibl, am nad oes ar gael godnodion difwlch o honynt. Eto, er holl ragoriaethau ei dwfr, yr oedd ei sefyllfa yn anfanteisiol iddi, am nad oedd hwylustod o’i hamgylch – dim cystal rhodfeydd, &c., ag oedd mewn encilfan neillduedig megis oddiwrth y byd, yn tynu yn ol oddiwrth y poblogrwydd, er iddi fod yn mysg y dosbarth mwyaf rinweddol o’r holl ffynhonnau hyny a gyfrifid yn gyssegredig.

Wrth chwilio am Landudwen ar y map gellir deall pam oedd Myrddin Fardd yn cyfeirio at sefyllfa anfanteisiol y ffynnon. Dim ond wedi holi hwn a’r llall y cafwyd hyd i’r eglwys. Rhaid mynd ati ar hyd lôn sy’n arwain at fferm.

Mae arwydd ar bostyn y glwyd sy’n dweud mai dyna’r ffordd at eglwys Llandudwen. Ar waelod yr allt mae’r eglwys. O gerdded o’i chwmpas mae rhywun yn teimlo rhin y gorffennol. Gellir camu’n ddigon hawdd yn ôl i’r ddeunawfed ganrif. Mae’n siwr fod ei sefyllfa ddiarffordd wedi peri i Ffynnon Dudwen gael ei anghofio. Peth arall a enynnodd ein diddordeb yn y ffynnon oedd y disgrifiad a gafwyd ohoni yn Ancient Monuments of Caernarvonshire. Roedd y ffynnon ar ffurf hanner cylch, ei diamedr tua chwe throedfedd ac yn mesur tail troedfedd o’i blaen i’w chefn. Roedd mur yn codi y tu ôl iddi i uchder o dair troedfedd ar ffurf bwa ac yn gostwng yn raddol tuag at flaen y ffynnon. Yno roedd cerrig llyfnion yn creu argae i ddal y dŵr. Mae’r ffynnon wedi ei lleoli ar lethr serth ac mae wedi ei hadeiladu i mewn i’r tir, hyn, mae’n siwr, fu’n gymorth iddi oroesi i ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Credai Myrddin Fardd y byddai wedi diflannu’n llwyr ymhen dim amser, eto roedd ei chyflwr, er yn wael, yn ddigon da i’w harchwilio gan yr arolygwyr henebion flynyddoedd yn ddiweddarach.

Oherwydd bod ei dŵr mor llesol a’i phensaernïaeth yn un diddorol, penderfynwyd mynd i chwilio am y ffynnon. Wedi peth anhawster cafwyd hyd i’r ffordd oedd yn arwain i lawr at yr eglwys a ffermdy Tan-Llan. Wedi holi’r perchennog, Albert Owen, deallwyd nad oedd y ffynnon ar dir ei fferm ond ar dir Cae’r Ffynnon i fyny ar y ffordd fawr. Cyn ffarwelio ag Albert Owen cafwyd ganddo hanes hen chwedl oedd yn dweud bod y Santes Dudwen wedi boddi yn y ffynnon. Yn ôl Lives of the British Saints (1913), credid yn gyffredinol fod Tudwen yn ferch i Brychan Brycheiniog. Nid oes son am y chwedl, ond dywedir bod ei ffynnon, er yn enwog am wella llygaid poenus a’r cricymalau a phobl yn taflu arian a phinnau iddi, bellach, yn anffodus, wedi diflannu. Da gwybod nad yw hyn yn wir.

Ffynnon Dudwen fel y mae heddiw.

 Wedi cael gair gyda Gwyndaf Davies, perchennog Cae’r Ffynnon, cafwyd caniatâd i fynd at y ffynnon os medrem ddod o hyd iddi! Doedd hynny ddim yn hawdd. Roedd darn isaf y cae lle roedd y ffynnon o fewn golwg yr eglwys, rhyw ddau lled cae i ffwrdd, ond roedd yn llawn drain a mieri ac eithin deg troedfedd o uchder. Bu cryn ddadlau a chwilio a mwy nag un achlysur pan aeth y ddau ohonom yn sownd mewn mwd. Roedd dŵr gofer y ffynnon wedi ffurfio cors o’i chwmpas a’r drain a’r mieri yn ei gorchuddio’n llwyr, yn wir doedd dim posib gwybod lle yn hollol roedd hi. Ar ôl i ni fod yn chwilio am rhyw awr daeth Gwyndaf Davies atom a dangos i ni union leoliad y ffynnon. Aeth ati  i dorri peth o’r drain a’r mieri drwy sefyll yn y gors a tynnodd lun o’r ffynnon i ni.

Yn naturiol roeddem eisiau gwybod ganddo a oedd unrhyw bosibilrwydd o lanhau’r ffynnon. Dywedodd ei fod eisiau gwneud hynny, gosod peipen wrth ei gofer, a defnyddio’r dŵr i’r gwartheg. Yn anffodus ni châi ganiatâd i wneud hyn gan fod y tir mewn ardal lle mae’r amgylchedd yn cael ei warchod gan gorff swyddogol a chan reolau sy’n ymwneud â phurdeb dŵr. Pan ofynnwyd iddo a fedrai glirio’r ffynnon heb ddefnyddio’r dŵr dywedodd y byddai’r dŵr pur yn denu’r gwartheg ac ofnai iddynt chwalu’r ffynnon yn llwyr. Gofynnwyd iddo a oedd yn bosib gosod ffens o gwmpas y ffynnon i gadw’r gwartheg draw a dywedodd fod rheolau caeth o’r Weinyddiaeth Amaeth am ESA (Environmentally Sensitive Areas) yn ei rwystro rhag codi postyn ar y tir. Dyma enghraifft o dirfeddiannwr sy’n awyddus i warchod a glanhau hen ffynnon sanctaidd ond sy’n cael ei rwystro rhag gwneud hynny gan fiwrocratiaeth. Tybed a oes aelod o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru all roi arweiniad i ni yn y mater yma?

Rhyfedd y’w meddwl fod ymwelwyr o Iwerddon wedi bod yn gweld y ffynnon rhyw flwyddyn yn ôl ac wedi treulio dau ddiwrnod yn ei thacluso a’i hastudio. Ymddangosodd llyfr am ffynhonnau Iwerddon a rhai o ffynhonnau Cymru yn ddiweddar. Tybed a oes sôn ynddo am Ffynnon Dudwen? Mae’r llyfr yn costio £40 – anrheg Nadolig gwerth chweil. Ydi Sion Corn yn darllen Llygad y Ffynnon tybed?

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 5 Nadolig 1998

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

Ffynnon Dudwen, Llandudwen, Llŷn (SH27 473679)

Bu Bleddyn Prys Jones, sy'n gweithio i Gyngor Gwynedd, yn arwain tîm i adfer Ffynnon Dudwen, Llandudwen, Llŷn, yn ddiweddar. Gofiwn am y gwaith ardderchog sy eisoes wedi ei wneud ar Ffynnon Fyw, Mynytho ( SH30913087) a Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn (SH38414462) ganddo ef a’i weithwyr. Roedd Myrddin Fardd yn canmol y ffynnon hon. Yn yr adeg pan roedd yn ysgrifennu ei gyfrol werthfawr Llên Gwerin Sir Gaernarfon, a gyhoeddwyd yn 1908, roedd y ffynnon wedi mynd a’i phen iddi. Meddai, Erbyn hyn nid oes yn aros o’r hen ffynnon, ragor na llefod yn nghwr cae ger yr eglwys- amser wedi ei thorri i lawr a’i chladdu yn ei phwll ei hun. Cyrchai lluoedd ati o bob cyfeiriad; taflent arian a phinnau iddi mewn trefn i sicrhau bendith iddynt eu hunain oddiwrth y Santes. Roedd Tudwen yn byw yn y seithfed ganrif ac roedd i ddyfroedd ei ffynnon alluoedd arbennig i wella pob math o salwch. Cyfrifid ei dwfr yn effeithiol i wrthweithio anhwylderau y llygaid - y dwymyn ddyspeidol, y cryd cymmalai, gwendid yn y gewynnau, arteithiau y rhai a gystuddid gan y Digwydd sef rhyw fath o wasgfeuon neu lewygon. Ohoni y cymerid dŵr i fedyddio yn yr eglwys a gerllaw iddi y cynhaliwyd priodasau dirgel. Roedd yn gyrchfan anghysbell heb ffordd hwylus i fynd iddi, a dyna pam yn ôl Myrddin Fardd, y cafodd ei anghofio. Dyna hefyd, hwyrach pam ei bod wedi goroesi.

Cyn dechrau’r gwaith.

Pan aeth Bleddyn a’i weithwyr i’r safle i ddechrau roedd tyfiant gwyllt dros y ffynnon. Rhaid oedd tocio’r tyfiant a chlirio’r safle - gwaith caled ond hanfodol. Yn raddol daeth y ffynnon i’r golwg. Yn ôl y disgrifiad a geir ohoni yn The Ancient Monuments of Caernarvonshire roedd ar ffurf hanner cylch, ei diamedr tua chwe throedfedd ac roedd yn mesur tair troedfedd o’i chefn i’w blaen. Roedd muriau’n codi tua thair troedfedd y tu ôl iddi gan ostwng yn raddol tuag at flaen y ffynnon. Yno roedd cerrig llyfnion yn creu argae i ddal y dŵr.

 Dyluniad o’r ffynnon.

Wrth glirio’r safle daeth cerrig y ffynnon i’r golwg a gwelwn fod y disgrifiad ohoni yn adroddiad y Comisiwn Hynafiaethau yn gywir. Gwelwn oddi wrth y lluniau bod angen sgiliau arbennig i adfer ffynnon. Hefyd mae’n cymryd amser ac egni heb son am y gost o gyflogi gweithwyr. Rydym yn ffodus iawn fod Cyngor Gwynedd yn barod i ariannu prosiect fel hwn.

Olion y ffynnon yn dod i’r amlwg.

Golwg agosach arni.

Y bwriad nawr yw clirio mwy o gwmpas y ffynnon a’i glanhau. Bydd hyn yn golygu ei hail-adeiladu i bob pwrpas. Yna gobeithir gosod plac a llechen arni, codi ffens gadarn o’i hamgylch i gadw’r gwartheg rhag mynd iddi, a chreu llwybr ati. Nid ydym eto wedi llawn sylweddoli potential y ffynhonnau i ddenu ymwelwyr na chwaith eu gwerth fel mannu tawel y gall pobl fynd atynt i fyfyrio.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at gael mwy o hanes yr adfer ar y ffynnon arbennig hon sy’n golygu llawer i’r gymuned leol.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 28 Haf 2010

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

O GWMPAS Y FFYNHONNAU

FFYNNON DUDWEN, LLANDUDWEN, Llaniestyn, Llŷn.(SH27474679)

Bu Bleddyn Prys Jones, Swyddog a gofal dros Ardal o Harddwch Naturiol, Eithriadol Llŷn, a’i dîm o weithwyr yn cloddio a glanhau Ffynnon Dudwen, Llandudwen am gyfnod o ddwy flynedd. (Gweler Llygad y Ffynnon 29). Erbyn hyn mae’r gwaith o adfer y ffynnon wedi ei orffen ac ar ddydd Llun, Mehefin 4ydd am 10.30 yn y bore, ailgysegrwyd y ffynnon gan Esgob Bangor mewn gwasanaeth yn yr eglwys. Yn ôl Myrddin Fardd yn ei gyfrol werthfawr Lên Gwerin Sir Gaernarfon roedd Ffynnon Dudwen yn gwella amrywiaeth eang o afiechydon. Roedd hefyd yn nodedig am gryfhau golwg gwan a rhoi esmwythâd i lygaid poenus. Roedd hon yn un o ffynhonnau’r pererinion wrth iddynt deithio drwy Ben Llŷn i Ynys Enlli. Credai Myrddin Fardd bod hanes y ffynnon wedi dod i ben, yn wir roedd wedi diflannu i ganol cors. Nid oedd fawr ddim ond tir gwlyb i ddangos ei lleoliad pan ymwelwyd â hi gyntaf roedd y ffermwr oedd yn amaethu’r tir yn gwybod am ei lleoliad gan fod ei wartheg yn mynd at y tarddiad i gael dŵr i’w yfed. Yn wir roedd wedi ceisio cael grantiau i ddatblygu’r ffynnon fel man cyfleus i ddyfrhau’r anifeiliaid ond bod rheolau'r Senedd Ewropeaidd yn rhwystro hynny. Diolch i Bleddyn a’i weithwyr diwyd, bellach mae’r gwaith cerrig wedi ei dwtio a’i ail godi mewn sawl lle a gosodwyd ffens i gadw’r anifeiliaid allan, giât i hwyluso mynediad i’r safle a sedd i eistedd arni i fwynhau’r olygfa.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 31 Nadolig 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

BENDITHIO AC AILGYSEGRU

FFYNNON DUDWEN, LANDUDWEN

 

Y GROES WRTH Y FFYNNON 

 BENDITHIO’R FFYNNON

Ar ddydd Llun, Gorffennaf 4ydd 2011,ymunodd Esgob Bangor, Y Gwir Barchedig Andy John, gyda phlwyfolion o blwyfi ardal Nefyn ac aelodau o gapel Dinas, yn ogystal â phobl leol ac ymwelwyr o du draw i Glawdd Offa i ddathlu adnewyddiad Eglwys Llandudwen a’r ffynnon sy wedi ei hail- agor. Roedd yn ddiwrnod cynnes a braf a’r gwenyn i’w clywed yn prysur gasglu neithdar o’r blodau gwylltion o gwmpas yr eglwys. Chwaraeai’r haul ar donnau’r môr ac roedd awyrgylch o gyffro a diolchgarwch yn ein hamgylchynu. Torrwyd y glaswellt yn y fynwent gan danlinelli fireinder y gwaith cerrig ar furiau’r eglwys oedd newydd gael ei ail-bwyntio’n gelfydd. Oddi fewn i’r eglwys roedd y gwaith coed yn sgleinio a’r ffenestri’n glir fel grisial. O’r trefniadau o flodau niferus yn yr eglwys daeth aroglau hyfryd oedd yn debyg i thus. Roedd merched y plwyf wedi bod y brysur iawn gyda’i holl baratoadau oddi fewn i’r adeilad, ac yn ogystal â’r lluniaeth oedd i ddilyn ar ôl y gwasanaeth.

Roedd Joe Worthington, Darllenydd lleyg ac un o Wardeniaid yr eglwys, wedi creu dwy groes, un yn yr eglwys a’r llall wrth y ffynnon. Hefyd arweiniodd y gynulleidfa mewn cyfnod o weddi. Dechreuodd y gwasanaeth dwyieithog gyda chyfnod o fyfyrdod a gweddi a chanu tawel i gyfeiliant yr organ. (Nid oes trydan yn yr eglwys ond cafwyd digon o bŵer ar gyfer yr organ o fatri car). Yna arweiniodd y Ficer, Y Barchedig Susie Williams, y gynulleidfa allan o’r eglwys ac at y ffynnon. Roedd Cyngor Gwynedd wedi bod yn garedig iawn yn torri’r tyfiant ger y ffynnon a chodi ffens gref a giatiau cyfleus o’i chwmpas i gadw gwartheg a defaid rhag mynd iddi. Addawodd aelodau’r eglwys i gynnal a chadw’r safle i’r dyfodol. Wrth y ffynnon darllenodd Yr Hybarch Andrew Jones rhan o’r bedwaredd bennod o Efengyl Ioan, hanes Iesu yn cyfarfod â’r wraig wrth Ffynnon Jacob yn Samaria. Yn dilyn cafwyd anerchiad gan yr Esgob yn ein hatgoffa o ba mor angenrheidiol yw dŵr i’n bywyd bob dydd ond hefyd am ei symbolaeth oddi fewn i Gristnogaeth, y sacrament o Fedydd a'n bywyd ysbrydol drwy’r Ysbryd Glân. Credid fod y dŵr o’r ffynnon yn dda ar gyfer gwella llygaid poenus ac arthritis. Canwyd emyn byr i gyfeiliant recorder ac yna bendithiwyd y ffynnon gan yr Esgob. Roedd yr awyrgylch fel atgof o’r gorffennol wrth i ni gerdded yn ôl i’r eglwys. Roedd llawer o siarad a chwerthin yn gymysg â chanu’r adar a sŵn tractorau yn y pellter.

(Ymddangosodd yr erthygl wreiddiol gan Y Barchedig Susie Williams yn Nexus, Cylchgrawn Esgobaeth Bangor. Diolch i’r Parchedig Ddoctor Graham Loveluck, Marianglas, am anfon copi o’r cylchgrawn atom.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 33 Nadolig 2012

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up