LLANDRILLO YN RHOS
MAE FFYNNON O
DAN Y CAPEL…
Ffynnon Drillo
Nid peth anarferol yw cael ffynnon oddi mewn i gapel. Wrth addasu hen gapel yn Llangïan, Llŷn i fod yn gartref, daeth y Prifardd Elwyn Roberts ar draws ffynnon. Adeiladwyd Capel Als, Llanelli ar safle Ffynnon Alis, a dyna sut y cafodd ei enw. Mae Ffynnon Drillo oddi mewn i eglwys fechan Trillo Sant ar lan y môr yn Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn. Ar un adeg roedd adeilad yr eglwys yn ddigon eang i gynnwys Ffynnon Fair, yn Wigfair, ger Llanelwy. Ym mhlwyf Llanddarog, sir Gaerfyrddin roedd ffynnon oddi mewn i gapel anwes bychan o'r enw Capel Begewdin. Felly hefyd ym mhlwyf Llanarthne yn yr un sir. Yno roedd ffynnon gref yn codi oddi mewn i adeilad a adnabyddid fel Capel Herbach. Mae'n siŵr fod ffynhonnau a fu gynt oddi fewn i adeilad capel anwes neu eglwys bellach y tu allan i'r adeilad o ganlyniad i adnewyddu'r adeilad. Tybed a wyddoch chi am enghreifftiau eraill o ffynhonnau oddi mewn i gapel neu eglwys, neu dŷ annedd hyd yn oed?
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 8 Haf 2000
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
Rhan
o erthygl FFYNHONNAU THOMAS PENNANT gan Eirlys Gruffydd
Ffynnon Drillo. Llandrillo- yn- Rhos
(SH 842813 )
Yn y drydedd gyfrol mae’n ymweld â Llandrillo- yn- Rhos. Dyma sydd ganddo
i’w ddweud am gapel Sant Trillo ar lan y môr:
‘Des i lawr o Glodddaeth am ddwy filltir i lan y môr. Yno, ger y lan,
gwelais adeilad bach unigryw sy’n cael ei alw yn Gapel Trillo Sant. Mae’n
hirsgwar gyda dwy ffenest ar bob ochr a drws ar y pen. Mae’r to yn gromennog (vaulted)
gyda cherrig crynion yn hytrach na llechi arno. Oddi fewn mae ffynnon. O gwmpas
yr adeilad mae mur o gerrig.’
Mae’n siŵr y byddai’n synnu fod y capel bach a’r ffynnon heddiw yn
gyrchfan i dwristiaid sy’n gadael gweddïau ar bapur i’r sant ac yn taflu
arian i Ffynnon Drillo. (SH 842813 )
LLYGAD Y FFYNNON -
Rhif
26 Haf 2009
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNHONNAU
SANCTAIDD CYMRU
gan Howard Huws
Diolch
i Dduw, nid du mo’r darlun cyfan. Bu i dwf hynafiaethgarwch yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg hybu ymwybyddiaeth o bresenoldeb ac arwyddocâd ffynhonnau
sanctaidd, os nad ond o safbwynt hanesyddol. Cyd-ddigwyddodd hyn â chynnydd
diddordeb mewn sagrafeniaeth a’r etifeddiaeth ysbrydol gyffredinol, a’r
ffaith nad ystyrid Catholigiaeth Rufeinig yn fygythiad gwleidyddol, rhagor. Yn
yr ugeinfed ganrif adnewyddwyd diddordeb mewn ffynhonnau sanctaidd a’u
hailddefnyddio at ddibenion crefyddol: ac o ganlyniad, cofnodwyd eu safleoedd yn
ofalus, ac ymdrechwyd (gyda chryn lwyddiant, weithiau) i’w cadw rhag
difancoll, eu hamddiffyn a’u hadfer at eu diben gwreiddiol. Mae’n waith
anodd, ond y mae unigolion ysbrydoledig, grwpiau cymunedol,
llywodraeth leol a chymdeithasau megis Cymdeithas Ffynhonnau Cymru wedi
cyflawni llawer. Gwelwyd hefyd fod ffynnon, o’i hadfer, unwaith eto’n
denu’r rhai sydd arnynt angen cysur, gobaith, ac adnewyddiad ysbrydol.
Un
achos amlwg o’r fath yw adnewyddiad Ffynnon Drillo
yn Llandrillo-yn-rhos. Saif y capel bychan sy’n cynnwys y ffynnon ar y traeth
yno, ac fel arfer mae ar agor i’r cyhoedd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf,
aeth yn arfer gosod ceisiadau a gweddïau ysgrifenedig ar yr allor, gan ymbil am
gymorth neu faddeuant.31 Nid ŵyr neb paham yw hyn, nac a
ddechreuodd yr arfer ohono’i hun yno ynteu a ddaeth o rywle arall: ond dengys
fod yr Ysbryd eto’n ymsymud ar wyneb y dyfroedd, gan ein synnu a’n
hysbrydoli â rhywbeth y tu hwnt i fyfyrion deallusol, crinion ynghylch y pwnc
hwn.
Ydynt, y mae ffynhonnau sanctaidd unwaith eto’n amlwg yn nhirwedd ysbrydol Cymru, a thrwy amlygiad grym Duw ynddynt, boed iddynt unwaith eto ddisychedu, iacháu ac addurno’r wlad hon, a chyfrannu at ei hailadeiladu’n wlad Gristnogol pobl Gristnogol.
LLYGAD Y FFYNNON
Rhif
30 Haf 2011
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
LLWYDDIANT CYNHADLEDD LLANDUDNO
Ar ddydd Sadwrn Medi’r 7fed daeth tua thrideg o bobl frwdfrydig at ei
gilydd i’r gynhadledd flynyddol. Siom ydoedd na allai Gareth Pritchard fod yno
i draddodi ei ddarlith ar Ffynhonnau’r Gogarth ond drwy gymorth nodiadau manwl
a lluniau a PowerPoint llwyddwyd i drosglwyddo’r wybodaeth. Yn dilyn cafwyd
sgwrs gan Ken Davies ar Ffynnon Fair, Llanrhos ac yna darlith ddifyr iawn gan
Elfed Gruffydd ar Ffynhonnau Llŷn. Yna dilynwyd gan Tristan Grey Hulse yn
son am ffynhonnau a phererindodau. Yn y prynhawn cafwyd amlinelliad gan Bill
Jones o’r gwaith ar Ffynnon Elan, Dolwyddelan. Yn olaf soniodd Jane Beckerman
am y gwaith mawr o adfer Ffynnon Elian yn Llanelian yn Rhos.
Wedi’r ymweliad â Ffynnon Fair ymlaen a ni wedyn i Ffynnon Drillo ar lan y môr ger Rhos Fynach yn
Llandrillo-yn-Rhos a gweld fod y lle yn dal i gael ei ddefnyddio fel man gweddi
a myfyrdod. Adeilad bychan yw’r eglwys sy dros y ffynnon. Oddi allan mae’n
mesur pymtheg troedfedd wth ddeuddeg ond oddi fewn mae’n mesur naw troedfedd
wrth chwech. Pum troedfedd yw uchder y drws ac mae’n droedfedd a hanner o led.
Mae’n bosib fod adeilad yma ers y chweched ganrif ond wrth reswm cafodd yr
adeilad ei adnewyddu fwy nag unwaith ers y cyfnod cynnar hwnnw. Gwelir y ffynnon
ym mhen dwyreiniol yr eglwys ac mae’n cronni mewn baddon tair troedfedd wrth
ddwy. Mae tair o risiau yn arwain i lawr at y dŵr. Cynhelir offeren yn yr
eglwys bob bore Gwener am wyth o’r gloch ac mae’r adeilad yn agored i’r
cyhoedd o’r Pasg hyd ddiwedd yr haf.
Yn ddiweddar dechreuodd pobl adael gweddïau wedi eu hysgrifennu ar ddarnau o
bapur yn yr eglwys. Gofynnant i Drillo Sant ddeisyf ar Dduw am iachâd, am
gryfder i wynebu afiechyd a phrofedigaethau. Ceir gweddïau nid yn unig yn
Saesneg ond mewn ieithoedd fel Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg a rhai yn y Gymraeg.
Yn y man arbennig hwn cawn gipolwg ar y ffydd a fu mor bwysig i’n cyndadau ac
ar werth y ffynhonnau sanctaidd i gynnal y werin mewn argyfwng a phrofedigaeth.
Dyma yn wir berl mewn adfyd.
ODDI FEWN I FFYNNON DRILLO, LLANDRILLO-YN-RHOS
(SH842812)
LLYGAD Y FFYNNON -
Rhif
35 Nad
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc
FFYNHONNAU
CYMRU A’R SIPSIWN
Cyfrol ddiddorol eithriadol yw “The
Dialect of the Gypsies of Wales” John Sampson, a gyhoeddwyd gyntaf ym
1926. Treuliodd Sampson flynyddoedd yn byw gyda’r Sipsiwn, yn dysgu eu hiaith,
yn cofnodi eu chwedlau ac yn astudio eu diwylliant. Rhydd inni olwg ar fyd
llefarwyr Romani olaf Cymru, ychydig flynyddoedd cyn i’r byd hwnnw ddiflannu.
Yma a thraw yn ei gyfrol ceir cyfeiriadau at ffynhonnau neilltuol, ac arferion
neu gredoau cysylltiedig â nhw. Dyma rai y sylwais arnynt:
Am ffynnon ym Môn, dywedir
(t.145): “Unwaith y flwyddyn byddai’r darddell hon yn cynhyrfu: a phe bai
unrhyw un a gyflawnasai drosedd, megis llofruddiaeth, teflid ef i’r dŵr
cynhyrfus hwn; ac os oedd i’w achub, ac nid ei ddinistrio, byddai’r dŵr
yn ei fwrw’n fyw ar dir sych (chwedl ynghylch diheurbrawf mewn tarddell ym
Môn).”
Am ffynnon arall, dywedir (t.148):
“Arferai fy mam-yng-nghyfraith fwydo hances yn y darddell (yng Nglan-y-mor
[sic]) a’i fowldio’n llun calon, a’i gosod eto’n llaith ar ei chalon ei
hun (swyn i wella afiechyd a achosid gan wrachyddiaeth).” Ymhellach
(t.179-180): “Dwi wedi fy witsio. Af yno, i’r ffynnon fechan yng
Nglan-y-môr, ac ymolchaf, ac yfaf o’i dŵr (dywedwyd gan Syforella
Wood).”
Hefyd, a’u henwau Romani yn aml yn
gyfieithiadau o’r Gymraeg:
I gozhvali cheni (y ffynnon swyn): Ffynnon hud, tarddell iachaol; yn enwedig honno yn Llandrillo-yn-Rhos.
LLYGAD Y FFYNNON - Rhif 41, Nadolig 2016
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc