Home Up

YNYS LLANDDWYN A'R CYFFINIAU

 

FFYNHONNAU’R SANTES DWYNWEN

Eirlys Gruffydd

I mi man yn llawn rhamant yw Ynys Llanddwyn ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Mae’r hanes am y Santes Dwynwen yn un digon cyfarwydd gan mai hi yw nawddsantes cariadon Cymru. Roedd yn ferch i Brychan Brycheiniog ac aeth hi a’i chwaer, Ceinwen, i fyw i Fôn, Dwynwen ar Ynys Llanddwyn a’i chwaer yn Cerrig Ceinwen gerllaw ar y tir mawr. Roedd Dwynwen mewn cariad â Maelon Dafodrill ac yntau â hi ond ni fynnai Dwynwen gael cyfathrach ag ef cyn priodi. Oherwydd hyn gwrthododd Maelon hi er mawr ofid a thrallod iddi ac aeth yn glaf o gariad. Un noson, a hithau ar ei phen ei hun yn y goedwig, gweddïodd Dwynwen ar iddi gael ei gwella o’i chlwy. Mewn breuddwyd daeth Duw ati a rhoi diod melys iddi i’w yfed a llwyddodd i anghofion am Maelon. Yn yr un freuddwyd gwelodd ei chyn gariad yn yfed o’r un diod ac o ganlyniad yn troi yn dalp o rhew.

Gweddïodd Dwynwen am dri pheth. Yn gyntaf gofynnodd i Maelon gael ei ddadmer. Yn ail erfyniodd ar i weddiau gwir gariadon gael eu hateb, iddynt ennill gwrthrych eu serch neu gael eu gwella o’u torcalon. Yn drydydd mynegodd na ddymunai briodi a’i bod am gysegru ei bywyd i Dduw. Atebwyd ei gweddiau. Aeth Dwynwen yn lleian a chafodd cariadon a weddiai arni eu dymuniad. Daeth ei heglwys, y ddelw ohoni a’i ffynnon yn enwog a bu llawer o bererindota i Ynys Llanddwyn drwy’r canrifoedd.

Roedd Ffynnon Dwynwen yn enwog ond yn ôl Ancient Monuments of Anglesey a The Lives of the British Saints, dau lyfr a ymddangosodd ar ddechrau’r ganrif hon, doedd fawr ddim i’w weld o’r ffynnon yr adeg honno gan fod y tywod wedi ei chuddio. Meddyliais y byddai’n beth da i ni fel Cymdeithas geisio ei hadfer. I’r perwyl hwn cysylltais â Wil Sandison, Warden Parc Gwledig Niwbwrch, a bu mor garedig a mynd a Ken a minnau draw i’r ynys. Aeth â ni yn ei Landrover ar draws y traeth a buan y sylweddolais wrth siarad ag ef fod nifer o ffynhonnau ar yr ynys.

Mae Ffynnon Dwynwen i lawr ar y creigiau uwchlaw’r môr. Ffynnon fechan gwbl naturiol yw hi. Hawdd credu mai o’r ffynnon hon y cafodd y santes ddwr pan sefydlodd gyntaf ar yr ynys yn y chweched ganrif. Does fawr ddim sydd angen ei wneud i’r ffynnon ar wahan i’w glanhau a’i diogelu rhag tirlithriad a allai fod yn fygythiad iddi. Mae’n agos i weddillion yr eglwys ac mae hyn yn batrwm digon cyfarwydd yng Nghymru, sef cael eglwys a ffynnon a gysegrwyd i’r sant o fewn tafliad carreg i’w gilydd.

Wrth ddarllen am y ffynnon yn y llyfrau a nodwyd eisoes ac yng nghyfrol werthfawr Francis Jones, The Holy Wells of Wales, ac yn y darn am ffynhonnau Môn yn y gyfrol ddiweddar Enwau Lleoedd Môn, gan Gwilym Jones a Tomos Roberts, dechreuais sylweddoli fod nifer o ffynhonnau yn cael eu cysylltu â Dwynwen heblaw’r ffynnon fechan a welais. Dywed Francis Jones fod Ffynnon Dwynwen hefyd yn cael ei adnabod fel Ffynnon Fair. Roedd ffynnon arall ger y tai a oedd ar yr ynys ac yn cyflenwi dŵr iddynt. Yn ôl disgrifiad gan un a fyddai’n mynd yno pan oedd yn blentyn roedd drws ar y ffynnon hon ac nid oedd yn wahanol ei hadeiladwaith i lawer o ffynhonnau eraill a geid ger tai annedd ar hyd a lled y wlad ers talwm.

Yn yr Oesoedd Canol roedd mynachlog ar yr ynys. Ymwelai llawer o bererinion â Llanddwyn am eu bod yn cred y caent wellhad o’u hanhwylderau yn nŵr y ffynnon. Ysgrifennwyd cywydd i Ddwynwen gan Syr Dafydd Trefor yn y bymthegfed ganrif. Disgrifiodd ei heglwys, ei delw a’i ffynhonnau gan awgrymu bod mwy nag un ffynnon wedi ei chysegru iddi. Meddai

                        Santes ym mynwes Menai

                        A’i thir a’i heglwys a’i thai

                        Ffynhonnau gwyrthiau dan go

                        Oer yw’r dyn ni red yno.

 

Ffynnon Dwynwen, Llanddwyn.

Deuai Pererinion a chleifion i Landdwyn i geisio gwellhad o boenau yn yr esgyrn, o bliwrisy ac afiechydon yr ysgyfaint, yn ogystal â rhai claf o gariad a’r rhai yn dymuno sicrhau cariad. Ar yr ynys roedd craig a elwid yn Gwely Esyth (Esmwyth). Byddai’r cleifion yn gorwedd a chysgu ar y graig ac ar ôl deffro torrent eu henwau yn y dywarchen gerllaw a chredent eu bod wedi cael gwellhad.

Byddai’r rhai a geisiau wellhad yn dod ag anrhegion i’w gadael yng nghyff Dwynwen yn yr eglwys a thyfodd Llanddwyn yn gyfoethog fel canlyniad i hyn. Wedi i’r eglwys ddadfeilio cadwyd y porth mewn cyflwr da er mwyn i’r pererinion adael eu canhwyllau yno.

Ffynnon arall a gysylltir â Dwynwen yw Crochan Llanddwyn rhyw filltir i’r gogledd o Wddw Llanddwyn. Mae Lives of the British Saints yn cyfeirio at Ffynnon Fair ar Llanddwyn ac yn mynd ymlaen i ddisgrifio’r modd y byddai pobl yn dod yno i geisio rhagweld pwy fyddent yn briodi. Dyma’r union beth a ddisgrifir gan awdurdodau eraill am yr hyn a ddigwyddai wrth Grochan Llanddwyn. Mewn dogfen a ddyddiwyd tua 1800 dywedwyd fod y ffynnon wedi ei llanw â thywod ond yn y gorffennol fod gwraig o Niwbwrch yn helpu’r cariadon i ddarogan y cyfodol wrth edrych ar y pysgod yn y ffynnon ac wrth daenu hances boced ar wyneb y dŵr. Aeth merch at y ffynnon i gael gwybod pwy fyddai’n ei briodi. Taenwyd yr hances a daeth y pysgodyn allan o’r o ochr ogleddol y ffynnon. Yna daeth y pysgodyn arall allan o’r ochr ddeheuol a chyfarfu’r ddau ar waelod y ffynnon. Dywedodd y wraig wrth y ferch mai dieithryn o rhan ogleddol Sir Gaernarfon fyddai ei phriod. Yn fuan wedyn daeth tri brawd o’r rhan honno o’r wlad i fyw i’r gymdogaeth ;;e trigai’r ferch a phriododd ag un ohonynt. Credai pobl fod gwellhad i’w gael hefyd pe gwelent y dŵr yn byrlymu yn y ffynnon. Dyna pam y cafodd y ffynnon yr enw crochan, am fod y dŵr ynddi fel pe bai’n berwi.

Ar Ynys Llanddwyn, o fewn golwg yr eglwys, mae gweddillion beth a fu unwaith yn glamp o ffynnon fawr gyda muriau o’i chwmpas a grisiau’n mynd i lawr iddi. Gelwir hon yn Ffynnon Dafaden. Mae wedi ei llanw â thyfiant a baw erbyn hyn ond o ddefnyddio pren collen gellir gweld fod tarddiad cryf yno o hyd. Ers talwm credid fod y dŵr yn arbennig o dda am wella defaid ar y croen. Byddai’n arferiad pigo’r ddafaden â phin, yna gwthid y pin i gorcyn a’i daflu i’r ffynnon. Rhaid wedyn oedd golchi’r dwylo yn y dŵr a byddai’r ddafaden yn siŵr o ddiflannu. O fewn cof defnyddid Ffynnon Dwynwen i’r un pwrpas a gellid gweld sawl corcyn a phin ynddo ar wyneb y dŵr.

Teimlaf yn weddol sicr mai’r ffynnon fechan gerllaw’r eglwys ar Ynys Llanddwyn yw’r Ffynnon Ddwynwen wreiddiol. At hon y cyrchai’r pererinion i gael iachâd ond roedd Crochan Llanddwyn yn amlwg yn bwysig iawn i gariadon hefyd.

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 3 Nadolig 1997

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Crybwyllir Ffynnon Ddwynwen, mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Lluniodd yr Arglwydd Gymru’n wlad fryniog â’i hwyneb tuag awelon Iwerydd, gan ei bendithio â glaw a dyfroedd croywon lawer. Cynysgaeddwyd hi hefyd ag etifeddiaeth Gristnogol helaeth, felly ni ddylid synnu fod ffynhonnau sanctaidd mor amlwg yn y dirwedd ddaearol ac ysbrydol. Hyd yn oed o gyfyngu diffiniad “sanctaidd” i’r rhai y gwyddom y perchid ac y defnyddiwyd hwy yn enw Duw, Ei Fam a’i saint, mae yma sawl can ffynnon o’r fath, gydag ymchwil dyfal yn dwyn rhagor fyth i’r amlwg.1 Er eu dirmygu gynt yn wrthrychau ofergoeliaeth, maent bellach yn destunau diddordeb cynyddol. Rhaid wrth ddŵr croyw, ond y mae’n drwm ac yn anodd ei gludo. O’r herwydd, rhaid byw o fewn cyrraedd cyfleus i ffynhonnell ddigonol a dibynadwy, nad oes iddi flas neu aroglau annymunol, na thuedd i achosi salwch. 

Efallai fod defodau iachau wedi peri i rai gredu y gallai ffynhonnau ragfynegi’r dyfodol. Yn Ffynnon Gybi, Eifionydd, er enghraifft, credid y dylai’r sawl a ddymunai adferiad iechyd sefyll yn goesnoeth yn y dŵr: ac os nofiai llysywen i’r amlwg, ac yr ymgordeddai am goesau’r claf, byddai adferiad iechyd yn canlyn. Yn ffynhonnau eraill, atebid ymholiadau gan ymddangosiad pysgod, neu symudiad briwsion neu blu a daenid ar wyneb y dŵr, gyda “gweledydd” neu “warcheidwad” yn dehongli’r arwyddion.26 Arferai cariadon gyrchu at Ffynnon Ddwynwen yn Llanddwyn, er enghraifft, er mwyn gwybod hynt y garwriaeth, gyda chyfeiriad symudiad hances a daenid ar y dyfroedd yn awgrymu llwyddiant neu aflwydd. Ceisid cymorth rhai ffynhonnau ar gyfer canfod lladron: a chyda dirywiad ysbrydolrwydd yn ofergoeliaeth, aethpwyd i dybio y gellid defnyddio ambell i ffynnon ar gyfer melltithio: arfer a barhaodd hyd y 1920au.27  

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up