Home Up

LLANDDONA 

 

DŴR - FFYNNON BYWYD

 gan Margaret Jean Jones

Cofir gaeaf 2000-2001 am ei lifogydd, a o ganlyniad i hynny am y pwysau a roddwyd ar yr awdurdodau i ddiogelu ardaloedd rhag llifeiriant dŵr yn y dyfodol. Cydnabyddir Cymru fel gwlad hyfryd ei golygfeydd ac mae ei chyflenwad o ddŵr - y traethau, y llynnoedd, yr aberoedd, yr afonydd, y nentydd a'r ffynhonnau - oll yn cyfrannu at harddwch y wlad a'i ffrwythlonder. Erbyn heddiw mae cyflenwad o ddŵr glân yn dod i bob cartref a'r Awdurdod Dŵr yn gofalu am lanweithdra'r cyflenwad hwnnw. Ond nid felly yr oedd, ac oherwydd hynny roedd cael cyflenwad o ddŵr glân ger eich cartref yn holl bwysig. I'r amaethwr, boed yn ffermwr neu'n dyddynnwr, roedd yn rhaid cael dŵr i'r teulu, yr anifeiliaid a'r dofednod gerllaw'r cartref.

Roedd pwmp dŵr ym mhob pentref. Cofiaf mai yng nghanol pentref Llanddona, Ynys Môn (SH5779) yr oedd y pwmp i'r pentref, ger y fan lle byddai'r bws cyhoeddus yn arfer troi i fynd yn ôl am Beaumaris a Bangor. Nid yw'r pwmp yno mwyach ond mae'n siŵr fod tarddiad y dŵr yn dal yno o dan y ddaear. Y mae chwedl ynghlwm wrth hanes gwrachod Llanddona sy'n egluro tarddiad un o'r ffynhonnau ar y traeth. Yr oedd y ffynnon ym Mhen-trans ar y traeth, a ffynnon - sydd yn dal yno - ar ochr y llwybr at Dŷ Mawr Llan - fferm fechan islaw eglwys Llanddona. Roedd pwmp dŵr yn cyflenwi dŵr i'm cartref ym Mryniau Mawr pan oeddwn yn blentyn - nid oedd y pwmp yn gweithio ond taflai mam bwced wrth raff i lawr y pydew i godi'r dŵr ohono. Roedd ffordd o daflu'r bwced i lawr i wneud yn siŵr ei fod yn llenwi â dŵr. Pan oedd y cyflenwad yn y pwmp yn isel âi fy mrawd hŷn i lawr y pydew a llenwi'r bwced â dŵr. Byddai arnaf ofn iddo fethu dod i fyny yn ei ôl, ond sylwn ar ei ofal wrth afael yng nghoes y pwmp a gosod ei draed yn gelfydd rhwng y cerrig oedd yn ffurfio'r pydew i godi ei hun yn ei ôl ar ôl iddo lenwi'r bwced i Mam.

Ar hafau sych iawn sychai'r pwmp a rhaid oedd croesi caeau i fynd at ddwy ffynnon. Croesi tri chae i fynd at ffynnon ar dir fferm Tŷ Du a cherdded i lawr y ffordd a chroesi un cae i fynd at ffynnon ar dir Tan Dinas. Roeddem yn cael ein dysgu i beidio â gwastraffu'r dŵr ac roedd y dŵr golchi a'r dŵr ymolchi yn aml iawn yn cael eu hail-ddefnyddio, fel yr awgrymir yng ngeiriau'r gân:

            Roedd Millicent May, y ferch hynaf,

            Yn hwyr yn yr ysgol bob dydd

            A hynny wrth ddisgwyl y basin -

Mae'n debyg bod gan ardaloedd ledled Cymru ffynhonnau fel hyn. Gwyddom am ein ffynhonnau pwysig megis Ffynnon Non, Ffynnon Gwenfrewi, Ffynnon Sara (Derwen), a Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron. Mae Ffynnon Seiriol, Penmon yn gyrchfan i lawer o ymwelwyr, felly hefyd ffynhonnau llesol Trefriw. Ym mynwent hen eglwys Llangelynnin uwchben ardal Henryd, ceir ffynnon y dywedir ei bod yn boblogaidd iawn ers talwm i ddod â phlant a oedd ag afiechyd ar y croen yno i ymolchi yn y dŵr.

Mae dŵr yn hanfod bywyd. Roedd pris ar ddewin dŵr yn y blynyddoedd a fu a diddorol oedd sylwi arnynt wrth eu gwaith. Hyderaf fod hyn o ysgrif yn eich ysgogi, y rhai fel fi sy'n mynd yn hŷn, i geisio cofio am yr hen ffynhonnau o amgylch eich cartrefi a sut y cronnwyd y nant a'r pistyll i gyflenwi angen y fferm a'r tyddyn. Hoff yw cofio'r ymgom ddiddan a'r chwarae iach wrth gludo dŵr.

Dyma leoliad y ffynhonnau y cyfeirir atynt yn yr erthygl uchod:

Ffynnon Non, Ty-ddewi, Penfro (SM7525)

Ffynnon Gwenfrewi, Treffynnon, Sir y Fflint (SJ1875)

Ffynnon Sara, Derwen, Sir Ddinbych (SJ066517)

Ffynnon Fair, Uwchmynydd, Aberdaron (SH138252)

Ffynnon Seiriol, Penmon, Môn (SH613808)

Ffynhonnau Trefriw (SH7863)

Ffynnon Gelynnin, Llangelynnin (SH751737)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 15 Nadolig 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

PYTIAU  DIFYR  

FFYNNON OER, LLANDDONA (Allan o Coelion Cymru, gan Evan Isaac)

‘Mae hanes diddorol am Rheibesau Llanddona ym Môn. Y traddodiad ydyw, ddarfod alltudio’r rheibesau a’u teuluoedd o’u gwlad- ni wyddys pa wlad- oherwydd y dinistr a achosent wrth reibio. Gyrrwyd hwy i’r môr mewn cychod heb na hwyl na rhwyf, Glaniasant ar draeth Môn. Cododd y brodorion i’w herbyn a cheisio eu gwthio o’r tir. A hwythau ar fin marw o newyn a syched, parasant i ffynnon o ddwfr croyw darddu o’r traeth. O weled gwneuthr y fath wyrth, caniatawyd iddynt dario yn y wlad. Bu eu cynnydd yn gyflym, ac ni fuont yn hir heb ddechrau ar eu gwaith o reibio. Ymwelai’r rheibesau hyn â thai ffermydd y plwyf, ac ni feiddiai neb wrthod eu ceisiadau. O’u gwrthod a’u tramgwyddo dialent yn greulon. Wele enghraifft o’u melltithion. Traddodwyd hi ger y Ffynnon Oer ar druan a’u digiodd.’

                                          Crwydro y byddo, am oesoedd lawer:  
                                           Ac ym mhob cam, camfa;  
                                           Ym mhob camfa, codwm;  
                                          Ym mhob codwm, torri asgwrn;  
                                          Nid yr asgwrn mwyaf na’r lleiaf,  
                                          Ond asgwrn chwil corn ei wddw bob tro.  

(Tybed a oes rhywun yn gwybod lle mae union leoliad Ffynnon Oer, Llanddona?)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 24 Haf 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

ANNWYL OLYGYDD... ANNWYL OLYGYDD  

Annwyl Olygydd,

Yr oeddwn wrth fy modd eich bod wedi cynnwys fy llythyr yn Llygad y Ffynnon (Haf 2008) ac yn falch fy mod wedi eich ysgogi i gynnwys dyfyniadau o Coelion Cymru ac o Rhys Lewis. Diolch i chi.

Dyma fwy o wybodaeth am Ffynnon Oer, Llanddona, Ynys Môn.  Mae hen dŷ Ffynnon Oer wedi ei ail wneud yn hynod o gelfydd. Yn yr un modd y mae Tŷ Mawr Llan, Llanddona hefyd  wedi ei ail wneud. Fedra i ddim lleoli Ffynnon Oer ar y map ond y mae ar y llwybr troed rhwng Pentre Llwyni a Chwarel Carreg Onnen, Llanddona - rownd y trwyn o lan Môr Pic. Y mae ’na dŷ arall hynod o ddiddorol ger Ffynnon Oer sef Bod Olau.

Adroddwyd hanes rheibesau Llanddona (witches Dona) gan ein prifathro, R. Lloyd Huws yn yr ysgol yn ystod pedwardegau’r ganrif ddiwethaf. Dywedai mai o Sbaen yr oeddynt wedi dod. Bella Fawr oedd eu harweinydd ac y mae ’na ffermdy ar y ffordd i Biwmares o Landdona o’r enw Bryn Bella. Y mae ’na fwthyn ar y traeth o’r enw Belan Wen- wn i ddim a ydi Bella Fawr i’w chysylltu â’r ffermdy a’r bwthyn.

Y mae ’na ddwy ffynnon ar draeth Llanddona. Un yw Ffynnon Tŷ Mawr Llan, ar y ffordd at y tŷ, ac mae’n cael ei chadw mewn cyflwr arbennig o dda. Y llall yw Ffynnon Pentrans.

Dydw i ddim yn credu fod hon yn cael ei chadw mor dda. Tŷ arall ag enw diddorol yn Llanddona yw Ty’n y Pistyll. Dywedir i Bella Fawr gatrefu yn y Gorslwyd, Llanddona, a byddai yn aflonyddu ar ffermwr Rhosisaf. Dywedir y byddai’n troi yn ysgyfarnog!

Yn gywir,

Margaret Jean Jones, Henryd, Conwy.

(Credwn mai Cyfeirnod Grid Ffynnon Oer yw SH579816 . Gol.)

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 25 Nadolig 2008

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up