gan
Christopher Naish
Wantage,
Swydd Rhydychen
Roedd
penwythnos olaf mis Mawrth (29/30) yn anhymorol o gynnes a heulog a da o beth
oedd hynny gan fod rhai aelodau o
gymdeithas Wellsprings, o dan arolygaeth effeithiol Jan Shivel a
Pepper, y ci, wedi dod at ei gilydd
i glirio a glanhau safle Ffynnon Bedr (cyfeirnod map 763692). Mae’r ffynnon ar
gyrion pentre Llanbedrycennin, Dyffryn Conwy, ychydig i’r gorllewin o’r
B5106 yn Nhal-y-bont. O dafarn y Bedol (sy’n cynnig bwyd blasus a pheint
arddechog o gwrw chwerw Burntwood, gyda llaw,) cymerwch y ffordd tua Llanbedr.
Ar ôl rhyw chwarter milltir, ac wedi mynd heibio i’r maes chwarae, trowch
i’r chwith ar hyd wtra sy’n arwain at fferm o’r enw Ffynnon
Bedr. Mae’r
ffynnon ei hun yn gorwedd yng nghornel cae ar y dde i’r wtra wrth droed coeden ywen anferth. Mae’r ywen yn tyfu yn ymyl
nant fechan sy’n llifo ar hyd ochr y cae tua’r afon Conwy. Yn ffodus mae
nifer o lwybrau cyhoeddus yn arwain at y safle.
Roedd Allen Meredith o sir Gaerfyrddin, sy’n arbenigwr ar
goed yw, wedi dod yno fel aelod o’r criw i’n cynghori ac i sicrhau nad oedd
yr ywen yn cael ei niwedio. Hefyd wedi dod i’n cefnogi roedd Eirlys a Ken
Gruffydd o Gymdeithas Ffynhonnau Cymru. Pan fesurodd Ken y goeden a darganfod
mai 28 troedfedd oedd ei chylchedd sicrhaodd Allen ni ei bod dros dwy fil o
flynyddoedd oed a’r goeden ywen hynaf ym Mhrydain sy’n tyfu dros ffynnon
sanctaidd. Roedd tarddiad y ffynnon yn ymyl yr ywen a’r dwr ohoni yn goferu ar
hyd sianel fer i ymuno a’r nant.
Yn
ôl Harold Hughes a Herbert L.
North, awduron The Old Churches of Snowdonia, a gyhoeddwyd yn
1924, roedd adeilad dros y ffynnon a’i fesuriadau mewnol oedd deg troedfedd
wrth naw troedfedd a hanner. Roedd y ffynnon ei hun yn chwech troedfedd wrth
bedair, ac roedd yn dair troedfedd o ddyfnder.
Dechreuodd yr adeilad oedd o gwmpas y ffynnon ddadfeilio tua diwedd y ddeunawfed ganrif ac erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif,doedd y muriau fawr uwch na lefel y tir o’u cwmpas. Roedd drws yn
wynebu’r dwyrain ond nid oedd unrhyw arwydd o ffenestri yn yr adeilad. Tan
ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd rhieni yn dod a phlant
gwael eu iechyd at y ffynnon
i’w trochi ynddi ac yna byddent yn cael eu cario i gapel bach cyfagos i ddod
atynt eu hunain.
Llanwyd
y ffynnon a cherrig mawr ychydig wedi’r Rhyfel Mawr a hynny, mae’n debyg,
gan dirfeddiannwr oedd yn ceisio rhwystro llif y dwr neu gadw ei anifieliaid
rhag mynd iddo. Oherwydd hyn, meddai Allen, roedd yr ywen wedi ei chael hi’n
anodd goroesi ac nid oedd golwg
iach iawn arni o’i chymharu a
choed yw eraill yn yr ardal. Rhaid
oedd dilyn ei gyngor wrth ddechrau symud y cerrig mawr o’u lle ger y goeden
gan ddefnyddio rhawiau , picasau a pholion haearn. Ceisiais dynnu allan un neu
dwy o’r meini mawr gan ddefnyddio fy modur a rhaff gan obeithio eu llusgo o safle’r ffynnon ond ni lwyddais i wneud hynny am nad oedd
yr olwynion yn gallu cael digon o afael ar y glaswellt. Yr adeg honno roedd
rhaid cael cymorth pawb i dynnu ar y rhaff a chodi ambell garreg fawr o’i
lle. Serch hynny ni lwyddwyd i symud pob carreg
oedd ger yr ywen na chlirio’r sianel lle goferai’r dwr. Ond wrth symud y cerrig o siambr y ffynnon
roedd yn dda darganfod bod y ddaear
yn wlyb ar waetha’r diffyg glaw. Rydym yn gobeithio y gallwn glirio’r
safle yn fwy trwyadl yn y
dyfodol. Yn y cyfamser rydym yn gobeithio y bydd symud y cerrig oedd wedi eu
dodi o gwmpas y goeden yn ddigon i annog dwr o’r ffynnon i lifo unwaith eto.
Bydd rhaid i ni aros a gweld.
Er nad oedd safle Ffynnon Bedr yn un ddiddorol iawn
ar yr olwg gyntaf – dim dwr, dim siambr ffynnon, dim byd- mi wnaethon ni
fwynhau’r gwaith caled oedd yn rhaid ei wneud i achub yr hen ywen hynafol
sy’n sefyll fel ceidwad drosti hi. Pwy a wyr na fedrwn ni ail adeiladu’r
ffynnon ei hun yn y dyfodol.
LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2003
cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc