Home Up

LLANBADRIG

 

FYNHONNAU  STAD Y BRYNDDU, LLANFECHELL, MON.F

 

[Diolch i’r Parch Emlyn Richards, Cemaes,Ynys Mon, am ganiatau i ni ddyfynu’r wybodaeth ganlynol am ffynhonnau  ar stad y Brynddu, o’i gyfrol ddifyr Bywyd Gwr Bonheddig (Gwasg Gwynedd)]

Yr oedd  dwy ffynnon eglwysig o fewn cylch a chwmwd William Bwcle, sef Ffynnon Padric a Ffynnon Eilian (neu Ffynnon y Cawr). O roi enw’r sant arni credid bod yn ei dyfroedd  ryw rin wyrthiol. Tua chanol y ddeunawfed ganrif y cydiodd y gred yn rhinwedd iachusol dŵr y môr a thyrrwyd yno i ymolchi, rhai i yfed ei ddyfroedd hallt. Yn yr un modd credid bod dwr ambell ffynnon yn iachusol, os nad yn wyrthiol.

Ffynnon Padric (Badrig) – yn Llanbadrig /Cemais.  Ymddengys fod yna ddwy ffynnon yn coffau Padrig, y naill gerllaw Eglwys Llanbadrig (SH3794) a’r llall yn nes i Borthwen  (SH4094) ar ochr ddwyreiniol y plwyf. 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 14 Haf 2003

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Crybwyllir Ffynnon Badrig, mewn erthygl gan Howard Huws dan y teitl

FFYNHONNAU SANCTAIDD CYMRU

Lluniodd yr Arglwydd Gymru’n wlad fryniog â’i hwyneb tuag awelon Iwerydd, gan ei bendithio â glaw a dyfroedd croywon lawer. Cynysgaeddwyd hi hefyd ag etifeddiaeth Gristnogol helaeth, felly ni ddylid synnu fod ffynhonnau sanctaidd mor amlwg yn y dirwedd ddaearol ac ysbrydol. Hyd yn oed o gyfyngu diffiniad “sanctaidd” i’r rhai y gwyddom y perchid ac y defnyddiwyd hwy yn enw Duw, Ei Fam a’i saint, mae yma sawl can ffynnon o’r fath, gydag ymchwil dyfal yn dwyn rhagor fyth i’r amlwg.1 Er eu dirmygu gynt yn wrthrychau ofergoeliaeth, maent bellach yn destunau diddordeb cynyddol. Rhaid wrth ddŵr croyw, ond y mae’n drwm ac yn anodd ei gludo. O’r herwydd, rhaid byw o fewn cyrraedd cyfleus i ffynhonnell ddigonol a dibynadwy, nad oes iddi flas neu aroglau annymunol, na thuedd i achosi salwch.

Delid fod rhai ffynhonnau’n dda anghyffredin at wella anhwylderau penodol. A chrybwyll rhai o Fôn yn unig, credid fod Ffynnon Faelog yn gwella’r crydcymalau; Ffynnon Wenfaen, y felan; Ffynnon Gybi (Caergybi), y crydcymalau, y llwg a chlefyd y brenin; a Ffynnon Badrig, y crydcymalau, golwg gwan, anhwylderau’r stumog, y gymalwst, pendduynnod a’r ddannodd.22 A barnu yn ôl amlder a dosbarthiad, ymddengys y bu rhai anhwylderau un ai’n neilltuol gyffredin neu rhwydd eu trin: y crydcymalau, llygaid dolurus a defaid, ag enw tri yn unig. Gan yr oedd triniaethau meddygol y gorffennol yn ddrud, yn aneffeithiol ac yn beryglus, buasai’r newid amgylchedd, yr ymarfer corfforol a chyd gyfeillach pererindota, neu o leiaf newid dŵr yfed, cystal ag unrhyw driniaeth arall oedd ar gael ar y pryd. Buasai ffydd yn ewyllys da Duw yn rhan ganolog o’r iachau, yn ogystal. 

LLYGAD Y FFYNNON Rhif 30 Haf 2011

cffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffccffc

 

Home Up